Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 702 [source_item_id] => 3631 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 16413 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 5e1cccfa-aeb3-4bbb-872f-2e2f1c6646c8 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Pupil from school holding a carrot stick

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn annog holl gynghorau Cymru i ymrwymo i fwy o blant gael mwy o lysiau o Gymru yn eu cinio ysgol. 

Mae pum cyngor newydd bellach wedi ymuno â’r prosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion, yn dilyn saith a ymunodd y llynedd. Ar ôl rhyddhau ei adroddiad mawr, mae Derek Walker eisiau i bob un o’r 22 cyngor i wneud yr un fath fel rhan o’i alwad am gynllun bwyd cenedlaethol. 

Mae menter Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn cynyddu’r cyflenwad o lysiau organig a gynhyrchir yn lleol mewn prydau ysgol a dywedodd Mr Walker y gallai hyn fod yn rhan o gynllun hirdymor i wella diogelwch bwyd Cymru a sicrhau mynediad cyfartal i ddiet lleol, fforddiadwy, iach a chynaliadwy. 

Roedd yr ymrwymiad yn un o nifer a wnaed mewn ymateb uniongyrchol i adroddiad y comisiynydd, gan sefydliadau yn Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a oedd yn nodi 10 mlynedd ers lansio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac a fynychwyd gan 300 o bobl. 

Cyhoeddodd Katie Palmer, Penaeth Synnwyr Bwyd Cymru, y bydd pum cyngor newydd, sef Sir Benfro, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Gwynedd yn ymuno â Llysiau Cymru mewn Ysgolion, gan sicrhau y bydd miloedd o blant ysgol yn elwa o lysiau ffres, wedi eu tyfu’n lleol. Mae Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Powys a Bro Morgannwg eisoes yn rhan o’r cynllun. 

Ymrwymodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gynllun Cyflog Byw go iawn o fewn dwy flynedd, sef cynllun y gofynnodd y Comisiynydd amdano gan bob corff cyhoeddus fel cam hollbwysig i drechu tlodi. 

Ymrwymodd Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddefnyddio’r diffiniad o ‘atal’ y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a thîm y comisiynydd, i fod yn safle peilot i fapio eu gwariant ataliol. 

Siaradodd Syr Michael Marmot yn y digwyddiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru gyfan ddod yn rhanbarth Marmot – sy’n golygu ymrwymo i fynd i’r afael ag annhegwch drwy weithredu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd. 

Siaradodd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd o Gyngor Sir Caerfyrddin am y camau y mae Sir Gaerfyrddin yn eu cymryd ar hinsawdd a natur, gan gynnwys ymagwedd newydd tuag at dorri porfa ar gyfer pryfed peillio a neilltuo ffermydd cyngor i dyfu llysiau. 

Rhoddodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality, drosolwg o rôl y sector preifat yn y dasg o ddarparu dyfodol mwy cynaliadwy. Siaradodd yr Athro Emmanuel Ogbonna CBE, Athro Rheolaeth a Threfniadaeth, Ysgol Busnes Caerdydd, am y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru a’i rôl ganolog yn y dasg o sicrhau bod Cymru fwy cyfartal yn effaith greiddiol pob cam gweithredu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Roedd lleisiau ifanc yn cynnwys Saffron Rennison, Swyddog Gweithredol Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Chyn-fyfyrwraig Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, a drafododd fel yr oedd yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwaith, yn cynnwys eirioli dros well cynrychiolaeth o blith menywod a phobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn pêl-droed. 

Dywedodd Katie Palmer, Penaeth Synnwyr Bwyd Cymru: “Yn ei hanfod, mae Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn ymwneud â chael llysiau lleol wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy i ysgolion i ddod ậ bwyd maethlon i blant drwy eu prydau ysgol. Nid ydym yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru ac mae angen inni adeiladu ein sylfaen gyflenwi ein hunain, gan ddod â manteision i gymunedau lleol a lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion drwy gysylltu tyfwyr lleol â chyfanwerthwyr lleol a meithrin cysylltiadau sy’n helpu busnesau i ffynnu.” 

Dywedodd Tegryn Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae cyflog byw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl; mae’n darparu safon byw gweddus ac yn galluogi gweithwyr i gynilo ar gyfer y dyfodol. 

“Rwy’n annog pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru i gymryd y cam hwn tuag at achrediad fel y gallwn lunio economi ar lefel lleol a chenedlaethol o gwmpas gwaith teg, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” 

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Bydd y 50 argymhelliad yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu Llywodraeth 

Cymru a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i wella bywydau yng Nghymru. Wythnos ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, rwyf eisoes yn gweld ymrwymiadau o bwys i fy ngalwadau ac rwy’n annog mwy o gyrff cyhoeddus i ymgofrestu – gan gynnwys y 10 cyngor sydd eto i wneud ymrwymiad i ragor o lysiau ar blatiau cinio plant. 

“Rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o weithredu ar adferiad byd natur, mwy o ymgyfraniad gan gymunedau mewn llunio polisi, a chyllidebau wedi’u clustnodi i ddatrys problemau cyn iddynt ddigwydd, cynllun bwyd cenedlaethol a chynllun Cyflog Byw go iawn gan bob corff cyhoeddus o fewn dwy flynedd.” 

Roedd Hannah Jones, eiriolwr cymdeithasol ac amgylcheddol a Phrif Swyddog Gweithredol ymadawol Gwobr Earthshot yn brif siaradwraig. 

Mae Gwobr Earthshot yn wobr ac yn blatfform a sefydlwyd gan Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William a’r Sefydliad Brenhinol yn 2020 i amlygu,  a dod o hyd i ddatrysiadau a fedr helpu i atgyweirio ac adfywio’r blaned yn y degawd hwn.  

Darllenwch Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Astudiaeth achos: Llysiau Cymru mewn Ysgolion 

Mae Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn brosiect peilot sy’n cael ei gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n ceisio cael mwy o lysiau Cymreig organig i brydau bwyd ysgolion cynradd ledled Cymru.  

Gan weithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Castell Howell, Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn ogystal â nifer o dyfwyr, mae’n adeiladu ar yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn oed ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu hwn, lle bo modd, yn dod oddi wrth gyflenwyr lleol. 

Ar hyn o bryd dim ond chwarter cyfran o lysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru; mae gan Llysiau Cymru mewn Ysgolion y potensial i gynyddu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn. 

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru archwilio’r posibilrwydd o gaffael llysiau a gynhyrchwyd yn lleol gyda ‘Peilot Courgette’ – prosiect peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr ac un cyfanwerthwr a ddarparodd bron i dunnell o gourgettes i ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn ystod Bwyd a Hwyl yn ystod haf 2022. 

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd fel y cam cyntaf o weithio gyda thri thyfwr ar draws ardaloedd tri awdurdod lleol gyda chefnogaeth cydlynwyr o’r partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Mynwy. Erbyn diwedd 2024, roedd Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn gweithredu ar draws saith ardal awdurdod lleol yng Nghymru gydag wyth o dyfwyr. 

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru adroddiad a ddywedodd y gallai tua 25% o’r holl lysiau a weinir mewn ysgolion ledled Cymru fod yn organig erbyn 2030 gyda’r cynllunio a‘r buddsoddi iawn mewn seilwaith, ac y gallai cynnydd o 3.3c y pryd y dydd gan Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru alluogi cynnwys dau ddogn o lysiau organig lleol mewn prydau ysgol yn dymhorol.