Cymru Can
Hinsawdd a Natur
Rydym yn ei gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni eu nodau sero net a natur gadarnhaol erbyn 2030.
Rydym yn ei gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni eu nodau sero net a natur gadarnhaol erbyn 2030.
O ganlyniad, byddwn ar y llwybr i ddaear, aer a dŵr iachach, gyda chyrff cyhoeddus yn arwain gweithredu ar newid yn yr hinsawdd gan gynnwys addasu, ar yr un pryd â sicrhau’r buddion mwyaf posibl i bobl a chymunedau ledled Cymru.
Un o’n rolau unigryw yw cefnogi penderfyniadau dewr; gwneud mwy i fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo dulliau ‘ennill-ennill’ fel ynni cymunedol sy’n darparu ynni carbon isel tra’n cynhyrchu cyllid a buddsoddiad lleol; a deall yn well sut y gall Cymru fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur mewn ffordd sy’n atal canlyniadau anfwriadol, fel anghydraddoldebau cynyddol.
Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA)
Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith ar y cyflymder a’r raddfa angenrheidiol.
Nid yw’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio yn cael eu cymhwyso’n gyson; ac mae amrywiaeth yn ansawdd yr amcanion llesiant a bennir gan gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud y mwyaf o’u cyfraniad at y Nodau drwy eu hamcanion llesiant.
Mae gan gyrff cyhoeddus fwy o ddealltwriaeth a hyder wrth gyflwyno dulliau hirdymor a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymwybodol o sut beth yw daioni wrth gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithiol a chydag uchelgais.
Mae mwy o bobl, o bob oed, yn eiriol dros ddulliau hirdymor ac er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r canlyniadau i bobl yng Nghymru wedi gwella fel y’u mesurwyd gan y 50 o ddangosyddion a cherrig milltir llesiant cenedlaethol.
Mae Cymru yn gymdeithas gydnerth, carbon isel gyda gwaith teg; yn fwy cyfartal, iachach, a chyfrifol yn fyd-eang; gyda chymunedau cydlynus, diwylliant ffyniannus a’r Gymraeg yn fywiog.