Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1008 [source_item_id] => 314 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 892 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => ee7677e4-5222-4097-b3cc-5a6de30f58a3 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Economi Llesiant

Ein cenhadaeth economi llesiant yw helpu i drawsnewid Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Gellir ail-lunio ein heconomi i amddiffyn cymunedau yn well rhag yr anghydraddoldeb economaidd cynyddol yng Nghymru, gan arwain at well iechyd a llesiant i bobl ar blaned iach.

Rydym yn argymell dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl o ran datblygu economaidd, sy’n ailgyfeirio cyfoeth yn ôl i’r economi leol; yn rhoi mwy o reolaeth a buddion yn nwylo pobl leol; ac yn ymateb i dueddiadau’r dyfodol megis AI, sgiliau digidol a gwyrdd.

Byddwn yn gweithio gyda’r sefydliadau sydd eisoes yn arwain ar ddileu tlodi yng Nghymru i sicrhau bod ein gweithgareddau’n ategu ymdrechion i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Ein Cenhadaeth

Damcaniaeth Newid Economi Llesiant

Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i helpu i drosglwyddo Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf. O ganlyniad, mae llywodraethau ar bob lefel, busnesau a chymunedau, yn gwneud i hyn ddigwydd.

Yr Angen

Mae twf economaidd yn aml yn cael ei weld fel nod ynddo’i hun, yn hytrach nag arwain at welliannau yn llesiant pobl.

Mae’r argyfwng costau byw yn ehangu anghydraddoldeb economaidd, mae tlodi ar gynnydd, ac mae’r economi’n defnyddio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y gellir ei ailgyflenwi.

Gweithgaredd

  1. Asesu integreiddio dulliau economaidd llesiant o fewn cynlluniau datblygu economaidd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  2. Cynnull cyrff cyhoeddus, busnesau, melinau trafod ac eraill i rannu arfer da a rhwystrau i gynnydd.
  3. Adolygu tueddiadau’r dyfodol, megis AI, ac ystyried sut y gallai cynlluniau economaidd Cymru ymateb.
  4. Adeiladu offer i fusnesau Cymru ar sut i gefnogi’r nodau llesiant ac adeiladu offer ar gyfer y sector cyhoeddus ar sut i gymell busnesau i weithredu a buddsoddi yn y nodau llesiant.
  5. Rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus ar sut y maent yn mesur llwyddiant wrth gyflawni economi llesiant, gan ddefnyddio enghreifftiau rhyngwladol.

Canlyniadau ac effaith

Canlyniadau 

Mae awdurdodau lleol, Bargeinion Dinesig / Twf a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol yn fframio eu cynlluniau economaidd o amgylch economi llesiant ac yn gweithredu set o amcanion economi llesiant.

Mae mwy o fusnesau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn ymgorffori’r nodau llesiant yn eu modelau busnes.

Ceir cyd-ddealltwriaeth ar draws cyrff cyhoeddus ynghylch sut yr ydym yn mesur llwyddiant mewn economi llesiant.

Effaith

Mae Cymru’n gwneud cynnydd o ran ei dangosyddion llesiant sy’n ymwneud â nod Cymru Ffyniannus.

Mae ein hôl troed byd-eang yn lleihau, ac rydym ar y trywydd iawn i ddefnyddio ein cyfran deg o adnoddau byd-eang yn unig erbyn 2050.

Mae llwyddiant economaidd a busnes Cymru yn arwain at waith teg, lefelau sgiliau uwch, lefelau tlodi is a gwahaniaethau cyflog is yn seiliedig ar ryw, anabledd ac ethnigrwydd.

Economi Llesiant

Adroddiad Cenedlaethaur Dyfodol 2025: Argymhellion

  1. Dylai Llywodraeth Cymru nodi sectorau allweddol lle mae’r sector preifat yn methu â gweithredu’r Cyflog Byw gwirioneddol – a datblygu cynlluniau i roi’r Cyflog Byw gwirioneddol ar waith gyda busnesau yn y sectorau hyn.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob busnes sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn bodloni set safonol o ymrwymiadau sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dylai hyn gynnwys achrediad Cyflog Byw gwirioneddol fel gofyniad sylfaenol.
  3. Dylai Llywodraeth Cymru osod targed i ddyblu maint y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru erbyn 2035 a pharhau i gefnogi Busnes Cymdeithasol Cymru a Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i gyflawni hyn.
  4. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector cyhoeddus ehangach i lansio Canolfan Datblygu Cydweithredol a chefnogi mentrau cymdeithasol i ehangu i gadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus a phreifat.
  5. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu ar fyrder erbyn 2027 i sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau i gyflawni trawsnewidiad cyfiawn i economi llesiant carbon isel, ac ar yr un pryd gwella canlyniadau addysgol ôl-16 a lleihau anghydraddoldebau.
  6. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i archwilio effaith deallusrwydd artiffisial ar draws gwasanaethau cyhoeddus, cynllunio’r gweithlu, a seilwaith digidol, a nodi cyfeiriad cenedlaethol clir ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial moesegol a chyfrifol.
  7. Rhaid i genhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru a phedair strategaeth economaidd ranbarthol y Cydbwyllgorau Corfforaethol ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llawn fel y fframwaith ar gyfer cynllunio strategaethau datblygu economaidd ac wrth weithredu a mesur cynnydd.
  8. Erbyn 2027 rhaid i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus ymrwymo i gynllun ar sut y byddant yn cyflawni achrediad Cyflog Byw go iawn.
  9. Dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus sicrhau bod gan bob cymuned yng Nghymru fynediad at ganolbwynt atgyweirio ac ailddefnyddio lleol erbyn 2035.