Search Icon

| ENG

01

Pwy yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol presennol?

Comisiynydd presennol Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw Derek Walker. Cafodd ei benodi gan grŵp trawsbleidiol o Senedd Cymru a dechreuodd yn ei swydd ym mis Mawrth 2023. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano yma. Gorffennodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf, ei thymor ym mis Ionawr 2023.

02

Beth yw’r weledigaeth a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sefydlu gweledigaeth genedlaethol a rennir ar gyfer llesiant yng Nghymru. Mae’n diffinio pedwar dimensiwn allweddol — amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd — i roi golwg gyfannol ar lesiant. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod cydgysylltiedig, y dylid eu hystyried gyda’i gilydd yn hytrach nag ar wahân.

03

Beth yw'r pum ffordd o weithio?

Er mwyn sicrhau bod gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru brosesau gwell a meddwl yn wahanol wrth wneud penderfyniadau, mae’r Ddeddf yn nodi’r pum ffordd o weithio, sy’n rhan o’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae’r pum ffordd o weithio wedi’u nodi yn Adran 5(2) o’r gyfraith.

Mae’r ffyrdd hyn o weithio yn rhan bwysig iawn o’r gyfraith a gall eu mabwysiadu helpu cyrff cyhoeddus i newid eu hymddygiad a gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

Learn more about Ways of Working

05

Pa bwerau sydd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae’r gyfraith yn caniatáu i’r Comisiynydd:

  • ddarparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus;
  • rhoi cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
  • darparu cyngor neu gymorth i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â pharatoi ei gynllun llesiant lleol;
  • darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd (neu’n dymuno) camau a allai gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;
  • annog arfer gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
  • hybu ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
  • annog cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd a chyda phobl eraill os gallai hyn eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
  • ceisio cyngor panel cynghori mewn perthynas ag arfer unrhyw un o swyddogaethau’r Comisiynydd.

Gall y Comisiynydd hefyd wneud ymchwil i’r graddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried mewn dangosyddion cenedlaethol a nodir gan Lywodraeth Cymru.

Yn olaf, gall y Comisiynydd gynnal adolygiadau ffurfiol i roi cipolwg iddynt ar sut mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf.

06

Beth yw Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus?

Crëwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddisodli’r Byrddau Gwasanaethau Lleol blaenorol. Eu nod yw annog cydweithio ac integreiddio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus aelodau statudol – y Cyngor lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod tân ac achub lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru – ond rhaid gwahodd cyrff eraill, megis Gweinidogion Cymru a sefydliadau gwirfoddol perthnasol, i gymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth gweler Rhan 4, Adran 30 o’r Ddeddf a’r canllawiau statudol ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus: SPSF3.

Rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus asesu llesiant y boblogaeth yn ei ardaloedd, ac yna dewis amcanion llesiant lleol a pharatoi cynllun llesiant lleol. Darllenwch fwy am Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

07

Beth yw meysydd ffocws y Comisiynydd?

Mae Cymru Can yn nodi strategaeth y Comisiynydd a’r meysydd ffocws ar gyfer 2023 – 2030. Mae’n crynhoi’r dull gweithredu y byddwn yn ei gymryd dros y saith mlynedd nesaf tuag at gyflawni ein gweledigaeth ac mae’n nodi pum cenhadaeth:

  • Gweithredu ac Effaith
  • Hinsawdd a Natur
  • Iechyd a Lles
  • Diwylliant a’r Iaith Gymraeg
  • Economi Llesiant

Nodwyd pynciau, themâu a systemau sy’n cysylltu ein holl genadaethau, megis y system fwyd, deallusrwydd artiffisial a digidol hefyd.

09

Sut mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn wahanol i rôl Comisiynwyr eraill?

Defnyddir y term Comisiynydd ar gyfer tri phrif fath o weithgaredd:

  • Comisiynwyr sy’n rheoleiddio maes gwaith drwy osod safonau a gwirio cydymffurfiaeth a chosbi unrhyw dorri ar y safonau;
  • Comisiynwyr sy’n hyrwyddo ac yn helpu’r bobl y maent yn gyfrifol amdanynt, i geisio rhwymedïau ffurfiol, gan gynnwys cymorth gydag achosion llys;
  • Comisiynwyr sy’n hyrwyddo egwyddor neu bolisi ac yn ei helpu i gael ei weithredu trwy ddarparu cyngor a gwneud argymhellion.
  • Mae Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnwys yr ail a’r drydedd o’r elfennau hyn ac mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys y tair elfen a restrir uchod.

Mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn cynnwys yr elfen olaf yn unig, h.y. hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy a darparu cyngor a gwneud argymhellion i gyrff cyhoeddus.

10

A all Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ymyrryd mewn penderfyniad?

Nid oes gan y Comisiynydd y pwerau i sancsiynu cyrff cyhoeddus ac ni all wrthdroi penderfyniadau sydd eisoes wedi’u gwneud. Rydym wedi pennu meysydd ffocws, yr ydym yn ceisio sicrhau eu bod yn wirioneddol gynaliadwy ar bob lefel (e.e. polisi cenedlaethol, ymddygiad a gweithdrefnau) ac rydym wedi bod yn herio cyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â’u cyflawni. Mae’r Comisiynydd wedi addo gwrando ar bryderon y cyhoedd a cheisio nodi problemau cyffredin yn y llythyrau niferus y maent yn eu derbyn.

11

A all y Comisiynydd ymyrryd mewn penderfyniadau cynllunio?

Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, ni sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gwynion nac i ddarparu cymorth cyfreithiol nac ariannol i unigolion sy’n ceisio unioni eu hachosion penodol.

Nid yw eu rôl wedi’i sefydlu yn y gyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol ac, yn benodol, ym maes cynllunio. Oherwydd adnoddau cyfyngedig a phwerau penodol, mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried ble i ymyrryd i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ym mhob rhan o Gymru.

Maent, felly, yn gweithio ar lefel strategol i herio a dylanwadu ar bolisi sy’n effeithio ar benderfyniadau ledled Cymru gyfan. Mae’r holl faterion a godir gyda ni yn cael eu hystyried yn rheolaidd ac yn llywio penderfyniadau’r Comisiynydd ar ble i ymyrryd yn strategol. O ganlyniad i bryderon a godwyd ynghylch y broses gynllunio y penderfynodd y Comisiynydd cyntaf ganolbwyntio ar waith gyda Llywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio yng Nghymru drwy Bolisi Cynllunio Cymru, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’i ddiweddaru.

Rydym yn cydnabod, yn anffodus, y bydd yn cymryd amser i’r newidiadau hyn i bolisi cynllunio cenedlaethol drechu i benderfyniadau unigol.

13

Beth all aelodau’r cyhoedd ei wneud i herio penderfyniadau sy’n defnyddio’r Ddeddf?

Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus ‘i gyflawni datblygu cynaliadwy’. Mae tair prif elfen i’r ddyletswydd:

  • gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru;
  • gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (peidio â pheryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, gan ystyried y pum ffordd o weithio);
  • anelu at gyflawni’r nodau llesiant, sy’n cynnwys gosod amcanion llesiant.

Mae dwy brif ffordd y gall pobl eu cymryd i herio penderfyniadau: gallant herio’r corff cyhoeddus yn uniongyrchol; neu eu herio drwy’r gweithdrefnau cyfreithiol arferol.

Yn gyntaf, yn seiliedig ar Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd ar gyfer prosiectau, efallai y bydd pobl am ofyn rhai cwestiynau i’r corff cyhoeddus perthnasol yn seiliedig ar y pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. Yn ail, gall unrhyw lys neu gorff sy’n gyfrifol am gymhwyso’r gyfraith yng Nghymru ystyried torri’r ddyletswydd yn y Ddeddf. Gall y Ddeddf hefyd fod yn ystyriaeth berthnasol mewn systemau statudol presennol, megis cynllunio, caniatáu ac ati.

Er enghraifft: gellir gwneud cwynion ffurfiol i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus; gellid cychwyn adolygiad barnwrol; neu gall diffyg cydymffurfio â’r Ddeddf fod yn sail i apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r Comisiynydd yn ceisio tynnu sylw pobl at y llwybrau posibl hyn. Dylai pobl hefyd wirio gyda’u cyfreithwyr, canolfannau cyfreithiol neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth pa lwybrau sy’n cael eu hagor iddynt ym mhob achos.