Search Icon

| ENG

Cyflwyniad

Rhannu Gwersi ac Ysbrydoli Gweithredu: Hyrwyddo Llywodraethu Cenedlaethau’r Dyfodol yn Fyd-eang

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (y Ddeddf) yn ceisio trawsnewid y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r gwaith a wnawn yng Nghymru yn parhau i ysbrydoli sefydliadau a llywodraethau yn fyd-eang; ac ar yr un pryd archwilio cyfleoedd i gasglu arfer da rhyngwladol a all gefnogi cyrff cyhoeddus i roi y Ddeddf ar waith yn well.

Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, nod Cymru yw bod yn Genedl sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang. Nod rhaglen ryngwladol Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yw:

  • Cefnogi cyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys pobl ifanc yng Nghymru o’n Hacademi Arwain Cenedlaethau’r Dyfodol, i gydweithio â gwledydd eraill i ddysgu am heriau a chyfleoedd a rennir wrth roi polisïau llesiant a datblygu cynaliadwy ar waith –gan ddod â gwybodaeth a dysgu arfer da adref i Gymru.
  • Hyrwyddo ymagwedd cenedlaethau’r dyfodol Cymru a symud ymlaen i sefydliadau byd-eang a llywodraethau eraill tra hefyd yn tynnu areu dirnadaeth a’u profiad rhyngwladol.

Ymrwymiad Cymru

Mae ymrwymiad Cymru i lesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cael ei ysbrydoli gan ddoethineb cynhenid ac Egwyddor y Seithfed Genhedlaeth.

Darllenwch fwy am sut mae pobl gynhenid Wampis ym Mheriw yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd: https://sizeofwales.org.uk/project/securing-wampis-territory/

Mae ymrwymiad Cymru i lesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cael ei ysbrydoli gan ddoethineb cynhenid ac Egwyddor y Seithfed Genhedlaeth. Darllenwch fwy am sut mae pobl gynhenid Wampis ym Mheriw yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd: https://sizeofwales.org.uk/project/securing-wampis-territory/Mae Cymru wastad wedi bod yn barod i gefnogi mudiadau byd-eang ac mae ganddi hanes balch o ddysgu a rhannu ein gwerthoedd gyda’r byd. O ddeiseb Heddwch Merched Cymru ym 1924 i Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol yr Urdd i ddylanwadu ar fabwysiadu Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol –mae Cymru’n gweithio ar draws y byd i gyfnewid syniadau a pholisïau ynghylch gweithredu llywodraethu cenedlaethau’r dyfodol. Mae ymdrechion Cymru wedi ysbrydoli llawer o wledydd a sefydliadau byd-eang gan gynnwys Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedigar y Dyfodol yn 2024 a’r bwriad i greu Llysgennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cymru a’r Byd

Dysgwch Fwy

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Canllaw Rhyngwladol

“Cael eich ysbrydoli gan y stori hynod ddiddorol hon am sut y gwnaeth Cymru yn gyfraith y rhwymedigaeth i wlad fynd ardrywydd datblygu cynaliadwy ar ran cenedlaethau’r dyfodol”. –Gro Harlem Brundtland, cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd

Dysgwch Fwy
Cymru a’r Byd

Cyrff Cyhoeddus

Cyrff Cyhoeddus Cymreig a Chyfnewidiadau Dysgu Rhyngwladol

Dysgwch am waith Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i gryfhau perthnasoedd, hyrwyddo masnach a dyfnhau cysylltiadau diwylliannol i wella presenoldeb Cymru yn fyd-eang.

Cyrff Cyhoeddus
Cymru a’r Byd

dysgu mwy

Partneriaethau Byd-eang

Darganfod mwy am bartneriaethau rhyngwladol Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, gyda mwy o offer a chanllawiau i ddeall ein gwaith.

Dysgwch Mwy

Adnoddau

Eisiau dysgu mwy? Archwiliwch ein hadnoddau ar gyfer gwybodaeth sy'n fwy penodol yn ymwneud â Chenedlaethau'r Dyfodol Cymru.