Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 974 [source_item_id] => 2603 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 5654 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 8d58de21-a2cb-405a-9828-b4474101e859 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Meysydd Ffocws

Ffocws Bwyd

O’r fferm i’r fforc, mae bwyd yn hollbwysig i gyflawni nodau llesiant Cymru ar gyfer iechyd ein pobl a’n planed.

Rhagwelir y bydd allyriadau carbon o amaethyddiaeth yn cynyddu, tra bod y system fwyd yn cyfrannu at golli natur a datgoedwigo byd-eang. Rydym yn gwastraffu bwyd ar gyfradd anghynaliadwy ac mae costau bwyd cynyddol a lefelau cynyddol o salwch sy’n gysylltiedig â diet, gan gynnwys gordewdra, ynghyd â newid yn yr hinsawdd a chadwyni cyflenwi bwyd byd-eang ansicr, yn peri heriau hirdymor enfawr i lesiant Cymru a’n gallu i fwydo cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ni ddylai’r ffaith bod diogelwch bwyd Cymru yn dibynnu’n fawr ar y DU a systemau bwyd byd-eang ein hatal rhag cymryd camau lle y gallwn. Mae ar Gymru angen cynllun gwydn, hirdymor sy’n symud effaith amaethyddol tuag at gael canlyniad cadarnhaol ar adfer hinsawdd a natur, gan sicrhau dietau diogel, fforddiadwy ac iach i bobl, yn enwedig plant.

Mae cymunedau gwledig a ffermio yn rhan fawr o’r ateb – maen nhw’n rhan annatod o fwydo Cymru, gwarchod byd natur ac yn rhan o’n diwylliant bywiog a’r Gymraeg yn ffynnu.

Rhaid i wasanaethau cyhoeddus ddefnyddio eu hysgogwyr ar gyfer newid, er enghraifft, gwneud mwy i hwyluso tyfu cymunedol a defnydd cynaliadwy o dir, ystyried goblygiadau ehangach penderfyniadau cynllunio ar gymunedau a natur, darparu fframwaith cymorthdaliadau a grantiau ffermio a deall yr effaith leol a byd-eang o wariant ar fwyd.

Sut Gall Awdurdodau Lleol Llunio Systemau Bwyd Gwell yng Nghymru 

Bwyd Ein Dyfodol 

Mewn cydweithrediad â Synnwyr Bwyd Cymru, rydym wedi cyd-gynhyrchu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar sut y gallant weithio gyda Phartneriaethau Bwyd Lleol a chymunedau i wella systemau bwyd lleol.

 

Mae Bwyd Ein Dyfodol yn cynnwys arfer da, astudiaethau achos ac adnoddau ynghylch y polisïau sy’n gysylltiedig â bwyd y gall awdurdodau lleol eu rheoli a dylanwadu arnynt gan gynnwys llywodraethu, cynllunio, caffael, mynediad at fwyd, hyrwyddo dietau iach a gwastraff bwyd. 

Darllenwch ein canllaw ar gyfer awdurdodau lleol: Bwyd Ein Dyfodol