Mae pobl sy’n gwneud newid cadarnhaol i’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru yn cael sylw arbennig gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf, Sophie Howe, wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor saith mlynedd.
Cymru yw’r unig wlad yn y byd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Ms Howe yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol statudol cyntaf y byd.
Hyd yn hyn, mae rhai o gyflawniadau’r Ddeddf a rôl y Comisiynydd yn cynnwys helpu i roi treial incwm sylfaenol ar yr agenda, ymyriadau mewn trafnidiaeth a arweiniodd at ddileu ffordd liniaru’r M4 a ffafrio mwy o gyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a strategaeth drafnidiaeth newydd, cwricwlwm newydd pwrpasol a phwyslais ar ofal iechyd ataliol.
Yn awr mae’r comisiynydd sy’n gadael, a fydd yn gorffen ei thymor ar ddiwedd mis Ionawr 2023, yn dymuno amlygu rhai o’r ysgogwyr newid o bob rhan o gymdeithas sy’n gweithio i greu Cymru well.
Mae’r beirdd, gweithwyr y sector cyhoeddus, actifyddion, dylanwadwyr, busnesau, ysgolion a gwirfoddolwyr sy’n helpu i ymgorffori’r nodau llesiant ledled Cymru yn ymddangos ochr yn ochr â’r actor Michael Sheen ar restr Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100 – sy’n cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf heddiw [dydd Mawrth, Ionawr 24] mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae unigolion ar y rhestr yn cynnwys Amanda Davies, a ddatblygodd Gynllun Lliniaru Tlodi Gwelyau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a gyfrannodd welyau dros ben adeg Covid-19 i ysbyty plant a gwersylloedd ffoaduriaid ym Moldova ar gyfer pobl o’r Wcrain oedd yn ffoi rhag y rhyfel; actifydd traws, Zoey Allen; yr actor Michael Sheen, a Becky Harford ac Ella Smillie, sylfaenwyr Benthyg Cymru – llyfrgell o eitemau yng Nghymru, sy’n tyfu’n gyflym, ac sy’n dwyn pobl at ei gilydd i rannu a benthyca eitemau cartref, arbed gwastraff a lleihau allyriadau carbon.
Mae Natalie Hodgkinson yn gyn-diwtor mathemateg sy’n defnyddio bwrdd coffi i fynd i’r afael ag anghyflogaeth, a sefydlodd Boss & Brew Academy yn ystod y cyfnod clo ac sydd ers hynny wedi cynnig hyfforddiant barista am ddim a rhaglenni cyflogadwyedd i bobl ifanc, yn bennaf yn Butetown a Grangetown yng Nghaerdydd, a’r mwyafrif ohonynt yn bobl Dduon, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig.
Bydd y digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys perfformiadau gan ysgogwyr newid sydd ar y rhestr – Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2021-2022; y cerddor Cymreig Blankface, un o gyd-grewyr ifanc Y Blwch Democratiaeth, sy’n creu mudiad dros newid, gan godi ymwybyddiaeth am ein democratiaeth a sut i ymgyfrannu; a chôr Ysgol Gynradd Radnor Caerdydd. Bydd myfyrdodau hefyd gan Sophie Howe a’rPrif Weinidog, Mark Drakeford.
Dywedodd Sophie Howe: “Mae deddfwriaeth llesiant Cymru’n rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithredu y tu allan i’r status quo, ond mae yna filoedd o bobl sy’n gwneud newidiadau cadarnhaol bob dydd.
“Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â chydnabod rhai o’r bobl sy’n dangos beth sy’n digwydd pan fyddwn yn rhoi blaenoriaeth i lesiant, i weithio gyda’n gilydd ac ystyried goblygiadau hirdymor ein gweithrediadau, ac mae’n amlygu’r angen i gynorthwyo ysgogwyr newid fel y gallant wella cymdeithas i bawb.
“Dim ond ciplun o’r ysgogwyr newid gwych yng Nghymru yw Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100, ac rydym am i eraill rannu’r bobl sy’n eu hysbrydoli, a chynnal y momentwm yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi amlgu maint yr heriau byd-eang sy’n ein hwynebu.Y prif rai yw’r angen dybryd i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. I wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach mae angen i ni sicrhau’n barhaus bod ein dulliau o weithio mewn llywodraeth yn gyrru yn ei blaen y weledigaeth gadarnhaol sydd gennym ar gyfer y dyfodol a luniwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Yr hyn sy’n helpu i osod Cymru ar wahân yw gwaith Comisiynydd annibynnol Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wrth iddi gefnogi’r newid hwn a chadw’r ffocws ar yr hirdymor.
“Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod yn ysgogydd, ac rwyf am dalu teyrnged i’r cyfraniad trawiadol a hirhoedlog y mae Sophie Howe wedi’i wneud i drafodaethau cyhoeddus a pholisi yng Nghymru.”
Mae Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, hefyd ar y rhestr. Bu Mr Mooney yn gweithio gyda’r comisiynydd ar strategaeth gynaliadwyedd Cymdeithas Pêl-droed Cymru, llesiant a’r byd, sy’n amlinellu gweledigaeth y gymdeithas ar gyfer Cymru leol, fyd-eang, gan ddefnyddio pŵer pêl-droed i wella llesiant Cymru. Yn dilyn y lansiad, cyhoeddodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru gytundeb cyflog cyfartal i dimau cenedlaethol Dynion a Menywod Cymru.
Meddai: “Mae cynaliadwyedd yn ffocws allweddol i Gymdeithas Pêl-droed Cymru ac felly rwy’n falch iawn bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud i gyflawni ein nod o ddod yn arweinydd byd mewn pêl-droed. Rydym yn sefydliad blaengar sy’n cefnogi gwerthoedd a diwylliant y cymunedau a’r cymeriadau sy’n rhan o’r gêm hyfryd hon.
“Mae meddwl a gweithredu’n gynaliadwy yn golygu y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y cenedlaethau sydd i ddod. Gyda’r strategaeth hon, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gennym gynllun gweithredu i ddatblygu clybiau, cynghreiriau a mentrau cynaliadwy a chryfach er mwyn cyflawni hyn.”
*Mae Cadair gyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol, a grëwyd ac a ddyluniwyd gan y crefftwr Tony Thomas, mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn symbol o leisiau nad ydynt yn bresennol – cenedlaethau’r dyfodol – a ddylai gael sedd wrth y bwrdd. Mae geiriau fel ‘newid’ wedi eu hysgythru i’r pren ac fe’u dewiswyd gan Climate Cymru, trwy ei brosiect i gasglu 10,000 o leisiau o Gymru i fynd i gynhadledd fyd-eang, COP 26, yn Glasgow yn 2021, lle cafodd y gadair ei dadorchuddio am y tro cyntaf. Crëwyd y gadair hefyd fel amnaid i’r gadair a ddyfernir i feirdd mewn traddodiad diwylliannol Cymreig hanesyddol. Ar ôl y digwyddiad hwn, bydd yn symud i gartref ym Mharc Cathays, lle bydd y Cabinet a chyfarfodydd allweddol eraill yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru, i’n hatgoffa o anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Gellir cynnal cyfweliadau pellach.
Mae ei gylch gwaith yn cynnwys lleihau carbon, macsimeiddio bioamrywiaeth, symud tuag at economi cylchol a sero net, a chefnogi’r gymuned, ac mae wedi datblygu rhwydwaith o bartneriaid cymunedol y mae’n gweithio gyda nhw’n rheolaidd i gynyddu arferion moesegol a mynd i’r afael ag allyriadau carbon.
Ers iddo gael ei agor, mae chwe deg erw o goetir wedi’u plannu, ynghyd â chreu dau lyn newydd fel rhan o brosiect ail-wylltio sy’n adennill dwsinau o erwau o dir pori yn laswelltir naturiol. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Marten oedd creu gwarchodfa natur 20-erw a dôl blodau gwyllt 4-erw, yn ogystal â datblygu prosiectau blychau adar ac ystlumod gydag ysgolion lleol a safle rhyddhau draenogod ar gyfer yr ‘Hogspital’ lleol.
Mae adroddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Caint yn dangos bod Bluestone, ers 2006, wedi cynyddu bioamrywiaeth (cyfoeth y gwahanol anifeiliaid a phlanhigion) a bod eu Cynllun Gweithredu Bywyd Gwyllt ar fin sicrhau dros 50% o Enillion Net Bioamrywiaeth yn y blynyddoedd i ddod.
Mae hyn yn golygu bod gan ymwelwyr bellach fwy o siawns i ddod ar draws rhywogaethau pwysig fel melyn yr eithin prin, dyfrgwn, y fadfall fudrchwilen; gwenoliaid y glennydd a thylluanod gwynion sy’n magu. Mae’r cynnydd mewn rhywogaethau blodau gwyllt fel tegeirian y gors ddeheuol wedi arwain at ffyniant mewn rhywogaethau o bryfed peillio gan gynnwys ieir bach yr haf a gwenyn, gan arwain at achredu Bluestone fel Busnes Cyfeillgar i Wenyn yn 2021.
Mae Marten wedi arwain rhaglen ddatgarboneiddio graddfa-fawr ers 2019, sy’n cynnwys cyflenwad trydan gyda chefnogaeth REGO fel bod yr holl ddefnydd yn hafal i ynni o ffynhonnell adnewyddol di-garbon yn y DG, gyda chynlluniau ynni adnewyddol pellach yn cael eu datblygu. Daeth Bluestone y busnes lletygarwch rhanbarthol cyntaf yn y DG i newid i 100% o fio-nwy yn 2021 a, thrwy ddefnyddio biomas yn lle cynnyrch olew i gynhesu Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae’n arbed allyriadau o tua 1300 tunnell o CO2e y flwyddyn.
Ers 2018, mae’r gyrchfan wedi lleihau ei hôl troed carbon ar ynni o 90% ac mae’n gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n nodi uchelgais i greu Cymru sy’n fwy amgylcheddol gydnerth.
O ran yr economi cylchol, mae Marten a’r tîm yn ailddefnyddio ac yn uwchgylchu adnoddau nas gellir eu defnyddio yn y busnes mwyach. Er enghraifft, mae hen soffas yn cael eu trwsio a’u hailglustogi fel rhan o raglen ddysgu i oedolion bregus yn y gymuned ac wedyn yn cael eu gwerthu, gyda’r elw’n mynd i elusennau yn y sir.
Mae Bluestone hefyd yn aelod hirsefydlog o Rwydwaith Busnes Cyfrifol Busnes yn y Cymunedau ac mae Marten wedi gweithio gyda’r gymuned a chydweithwyr i fynd â’r sefydliad i achrediad Agoriad Gwyrdd ac yn aelod o’r Fforwm Di-Garbon.
Dywedodd Marten: “Rwy’n falch i fod ar restr Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100. Rwyf am annog sgwrs sy’n tynnu sylw at gynaliadwyedd a’r pwysigrwydd y mae pob un ohonom yn ei wthio am newid a chadw Cymru ar flaen y gad o ran arloesi yn ystod yr argyfyngau cymdeithasol, hinsawdd a bioamrywiaeth sy’n ein hwynebu fel cymuned fyd-eang.”
I gael y rhestr lawn, i fynychu’r digwyddiad ar Ionawr 24, o 10:00-16:30 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ochr yn ochr â’r ysgogwyr newid, i ofyn am gyfweliad gyda’r comisiynydd neu unrhyw un o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â claire.rees@futuregenerations.wales.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod rhwymedigaeth ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu nawr ar gyfer dyfodol gwell – a gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig a hirdymor, fel bod gan ffactorau rhyng-gysylltiedig megis tlodi, iechyd, addysg a sgiliau, cyflogaeth, trafnidiaeth, hinsawdd a thai atebion rhyng-gysylltiedig.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, weithredu dros Gymru iachach, fwy cyfartal, lewyrchus, amgylcheddol gydnerth; Cymru o gymunedau cydlynol, sy’n gyfrifol yn fyd-eang gyda diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.futuregenerations.wales/cy/
DIWEDD