Search Icon

|

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i ddod o hyd i 10-12 o uwch gynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus o wahanol sefydliadau’r sector cyhoeddus ar draws Cymru i ymuno â ni ar gyfer cyfnewid ddiwylliannol ddeuddydd yn Bradford, Dinas Diwylliant y DU 2025. Bydd y cyfnewid hwn yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfle hwn, sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn digwydd rhwng 24 a 26 Mawrth 2025 fel rhan o Raglen Cyfnewid Cymru Can, sy’n canolbwyntio ar gryfhau llesiant diwylliannol a’i integreiddio i lunio polisïau.

Bydd y ddirprwyaeth hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a chynrychiolwyr a llawryddion o’r sectorau creadigol a diwylliannol.

Mae hwn yn gyfle sydd wedi’i ariannu’n llawn. Bydd y rhaglen yn cynnwys dwy noson o lety yn Bradford, teithio ar y trên yn ôl i Bradford, rhaglen ddiwylliannol, a phrydau bwyd.

Er ein bod yn agored i holl arweinwyr y sector cyhoeddus, rydym yn annog yn benodol Prif Swyddogion, Cyfarwyddwyr, Dirprwy Gyfarwyddwyr, a’r rhai sy’n gweithio tu hwnt i’r sector diwylliant i wneud cais.

Mae’r cyfnewid diwylliannol hwn yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr o sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru archwilio byd diwylliannol arloesol Bradford, rhannu syniadau, a thrafod sut y gall llesiant diwylliannol wella canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Bydd y rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar rôl diwylliant wrth lunio polisïau, mynd i’r afael â heriau, a meithrin cysylltiadau ar draws meysydd polisi.

Wedi’i datblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Cyngor Bradford, a thîm Dinas Diwylliant Bradford y DU 2025, bydd y rhaglen ddeuddydd yn cynnwys:

  • Trafodaethau bord gron ar lesiant diwylliannol, polisi, ac arferion creadigol mewn gwasanaethau cyhoeddus.
  • Ymweliadau safle â thirnodau a lleoliadau diwylliannol Bradford.
  • Gweithgareddau diwylliannol sy’n hybu cydweithio a thraws-ddysgu.
  • Gweithdai rhyngweithiol yn archwilio cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer gweithredu ar y cyd.

Bydd cynrychiolwyr yn arddangos arfer da o Gymru ac yn archwilio Blaenoriaethau Diwylliant newydd Llywodraeth Cymru (i’w cyhoeddi’n fuan). Mae’r ymweliad hefyd yn nodi 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan amlygu sut mae polisïau diwylliannol yng Nghymru a Bradford yn cyfrannu at lesiant cenedlaethol. Bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i feithrin cydweithio traws-ranbarthol, integreiddio blaenoriaethau diwylliannol mewn polisi, a meithrin cysylltiadau ag arweinwyr eraill.

Bydd y dirprwyaeth yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn fideo a ffotograffiaeth.

Nodwch: Disgwylir i’r holl ddirprwyaeth fynychu sesiwn briffio gorfodol ar-lein ar 12 Mawrth 13:00 – 14:00. Yn ogystal, disgwylir i bawb sy’n rhan o’n dirprwyaeth gynhyrchu allbwn ysgrifenedig yn myfyrio ar y profiad a sut y byddant yn cynnwys eu dysgu yn eu gwaith a’u harferion, a rhannu eu dysgu ar draws eu sefydliad. Bydd hefyd sesiwn rhannu yn cael ei chynnal tri mis ar ôl yr ymweliad ar 4ydd Mehefin 12:00 – 14:00 (yng Nghaerdydd) pan fydd y cyfranogwyr yn gallu rhannu eu dysgu a sut y maent wedi integreiddio’r dysgu hwn i’w sefydliadau.

Yn amodol ar ddiddordeb a gwerthusiad, byddwn yn ystyried cynnal rhaglen ychwanegol yn 2025/26.

Cwblhewch eich datganiad o ddiddordeb trwy’r ffurflen hon erbyn 12pm ar 7fed o Fawrth.

Ar gyfer ymholiadau: contactus@cenedlaethaurdyfodol.cymru