Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn chwilio am gynigion oddi wrth ddarparwyr gwasanaethau i helpu i gyflawni Theori Newid
Mae cylch gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn eang – mae’n cwmpasu pob maes a allai effeithio ar lesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae adnoddau’r swyddfa, fodd bynnag, yn gyfyngedig, ac mae angen i ni ffocysu ein gwaith lle gallwn ysgogi’r newid mwyaf ar draws pob dimensiwn llesiant a phob un o’r saith nod llesiant fel y maent wedi eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ymgymerodd y Comisiynydd blaenorol, Sophie Howe, ag ymarfer eang i flaenoriaethu ei gwaith ar ddechrau ei thymor yn y swydd. Arweiniodd hyn at chwe blaenoriaeth polisi – Cynllunio Defnydd Tir, Trafnidiaeth, Tai, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Gwell Dulliau o Gadw Pobl yn Iach (newid system iechyd), a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol.
Rydym mewn lle gwahanol i’r man lle’r oeddem yn 2016. Mae gennym fwy o brofiad a deunyddiau i fanteisio arnynt yn nhermau materion allweddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; a thystiolaeth am ble y gallwn ychwanegu gwerth, ble ddylem ffocysu ein hymyriadau a sut i ysgogi newid yn y dull gorau posib.
Gan adeiladu ar yr wybodaeth hon, mae’r Comisiynydd newydd, Derek Walker, wedi cychwyn ar ymarfer ymgyfrannu tebyg wrth sefydlu eu flaenoriaethau ar gyfer ei derm saith-mlynedd. Ffocws Ein Dyfodol rydym yn galw hwn. Bydd yr ymarfer hwn yn parhau am oddeutu chwe mis, ac rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi ein cynlluniau ym mis Hydref. Byddwn hefyd yn edrych i’r hirdymor, i osod ein cynllun gwaith o fewn gweledigaeth sy’n mynd tu hwnt i’r saith mlynedd nesaf. Bydd y cynllun yn cynnwys set glir o ddangosyddion a mesurau llwyddiant ac fe fydd yn dryloyw am ein rhesymau dros ein dewisiadau a pha rôl y byddwn yn ceisio ei chwarae wrth wireddu’r canlyniadau yr ydym yn dymuno eu cyflawni.
Bydd allbynnau’r ymarfer hwn hefyd yn cael eu hintegreiddio’n glos gyda’n gwaith presennol a chyfredol ac yn adeiladu arno, llawer ohono’n ofyniad statudol a bydd angen iddo barhau mewn rhyw ffurf. Rydym hefyd wedi sefydlu cynllun gwaith interim ar gyfer 2023, 6 mis o hyd (ein ‘Map Llwybr’) a bydd angen i allbynnau Ffocws Ein Dyfodol sefydlu pa rannau o’r gwaith hwn fydd yn parhau, pa rannau y bydd angen rhoi terfyn arnynt neu newid eu ffocws, a pha beth fydd yn waith newydd. Enghreifftiau o waith cyfredol yr ydym wedi ymrwymo i’w gyflawni yw ein cymorth parhaus i gyrff cyhoeddus, monitro ac asesu cynnydd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, cyflawni trydydd carfan ein Hacademi Arweinwyr y Dyfodol, a’n gwaith rhyngwladol.
Y Gofyniad
Mae’n ofynnol i ni gael sefydliad allanol i weithio gyda’n tîm i gynorthwyo camau olaf Ffocws Ein Dyfodol lle’r ydym yn dadansoddi’r data (sylfaenol ac eilaidd) ac yn datblygu strategaeth (gan ddefnyddio methodoleg theori newid) wrth i’n gwaith fynd yn ei flaen (2023-2030).
Bydd y gwaith hwn, a gomisiynwyd, yn rhoi eglurder ar ba faterion, ymddygiadau a meysydd polisi a allai fod y mwyaf defnyddiol i ni ffocysu arnynt (y ‘beth’) yn ogystal â sut y byddwn yn gweithio gydag eraill (cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill), i hwyluso newid (y ‘sut’). Er enghraifft, pa fath o ymyriadau a fyddai’n fwyaf effeithiol a ble mae ein gwerth ychwanegol ar fater penodol. Rydym hefyd yn dymuno herio ein hunain bob amser i fyw’r bregeth a bod yn esiampl dda wrth i ni ein hunain roi’r Ddeddf ar waith yn ein hymddygiad a’n gweithrediadau.
Bydd y rhan fwyaf o ymgyfraniad a dadansoddiad desg ein rhanddeiliaid wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf, a byddai’n ofynnol i ni bod y darparydd llwyddiannus ar gael o fis Awst hyd ddechrau mis Medi i ymgymryd â’r brif dasg o ddatblygu’r gweithrediadau mwyaf effeithiol y gall ein swyddfa ymgymryd â hwynt o fewn y model Theori Newid, ac o fewn cwmpas ein dyletswyddau a’n pwerau.
Fodd bynnag, byddem yn hoffi cychwyn gweithio gyda’r darparydd yn ystod mis Gorffennaf (neu o bosib yn gynharach ym mis Mehefin), i sicrhau y bydd y modd yr ydym yn dadansoddi ein data yn cyflwyno’r allbynnau sydd eu hangen ar gyfer datblygu’r Theori Newid a’n bod yn medru rhoi peth gwybodaeth/hyfforddiant ar Bwerau a Dyletswyddau’r Comisiynydd. Efallai y bydd rhywfaint o fudd wrth gynnal gweithdy cynnar gyda staff (cyfarfod tîm ar 20fed Gorffennaf) i archwilio’r model theori newid, a chasglu meddyliau a syniadau oddi wrth y tîm a allai gyfrannu at y broses.
Mae dau ddiwrnod i ffwrdd pellach wedi eu cynllunio ar gyfer y tîm ar 12-13 Medi lle byddem yn croesawu’r darparydd i fod yn bresennol i gyflwyno argymhellion cychwynnol eu gwaith a hwyluso gweithdy gyda’r staff i gyfrannu at a mireinio’r cynnych terfynnol.
Gyda chynnyrch terfynol i fod yn barod erbyn 29ain Medi.
Dyddiadau Allweddol:
Gwerthwch i Gymru yn mynd yn fyw | Dydd Mawrth, 6ed Mehefin |
Dyddiad cau ar gyfer y cais | Dydd Mawrth, 20fed Mehefin |
Penodi ymgeisydd llwyddiannus | Dydd Mawrth, 27ain Mehefin |
Dechrau’r contract | Llun, 3ydd Gorffennaf |
Sesiwn gyda’n Uwch Dîm Arwain | Dydd Mawrth, 18fed Gorffennaf |
Diwedd y contract | Gwener, 23ain Medi |
Gwybodaeth bellach am Ffocws Ein Dyfodol
Fel rhan o Ffocws Ein Dyfodol, rydym eisoes wedi dadansoddi ystod eang o ddata eilaidd i ddeall tueddiadau’r dyfodol a’r heriau sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol a byddwn yn parhau i werthuso data eilaidd a rennir gyda ni gan ein rhanddeiliaid (Mai-Mehefin), yn ychwanegol at ffynonellau data eraill yn cynnwys, er enghraifft, wybodaeth yn deillio o asesiadau llesiant byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym wedi cynnal cyfres o ymarferion rhagwelediad gyda staff a rhanddeiliaid allanol ac rydym yn casglu data sylfaenol drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys ystod eang o gyfarfodydd a digwyddiadau gyda rhanddeiliaid. Fe fyddwn yn dadansoddi’r wybodaeth hon fel tîm dros yr ychydig fisoedd nesaf ac rydym yn bwriadu allosod rhai themâu lefel uchel a rhagdybiaethau am yr hyn sydd ei angen i gyrff cyhoeddus, ac eraill, ei wneud ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; yn ystyried rhwystrau cyfredol, beth yw’r gweithrediadau a’r camau sydd angen i gyrff cyhoeddus ac eraill eu cymryd i gyrraedd y nod; a ble gall ein swyddfa gynorthwyo, yn y dull gorau posib, gyrff cyhoeddus ac eraill yn yr ymdrech hon. Isod wele rai enghreifftiau o’r hyn yr ydym wedi eu clywed drwy ymgyfraniad, er bod yn rhaid nodi bod hyn yn deillio o drafodaeth gychwynnol, (nad yw wedi ei chwblhau). 2
Yr hyn sydd angen i gyrff cyhoeddus (ac eraill) ei wneud i wella llesiant:
Gallai’r newidiadau sydd eu hangen i’n harwain ni yno gynnwys:
Gallai gweithrediadau y bydd angen i’n swyddfa eu cyflawni i gefnogi cyrff cyhoeddus, o bosib, gynnwys:
Tasgau
Cyllideb
Rydym yn edrych am gynigion i fyny at £20,000 (yn cynnwys TAW).
Gall y bydd angen i ni ehangu cwmpas y tendr yn dilyn trafodaeth a chytundeb gyda’r ymgeisydd llwyddiannus os y canfyddir angen yn ystod gweithredu’r prosiect, a bod hyn yn cael ei ystyried yn angenrheidiol ar gyfer cwblhau prosiect Ffocws Ein Dyfodol.
Eich cynnig
Dylai eich cynnig gynnwys:
Dylai eich cynnig nodi eich:
Sgorio
Bydd ein sgorio yn seiliedig ar dair prif elfen. Bydd pob un o’r rhain y cynnwys traean o gyfanswm y sgôr. Y dair elfen yw:
Tabl Cynaliadwyedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
Pwnc | Ateb | Gwybodaeth/Tystiolaeth |
A ydych yn dilyn cyflogaeth foesegol ac arferion cynaliadwy yn eich gweithrediadau ac yn eich cadwyni cyflenwi? | ||
A oes gennych ardystiadau cynaliadwy sefydliadol? | ||
A yw eich sefydliad yn sefydliad di-garbon a sut ydych chi’n cyfyngu ar eich allyriadau yn eich teithio, ynni, pensiynau a chaffael? | ||
A yw eich sefydliad yn ddi-bapur a diwastraff? | ||
A yw eich cynnyrch neu ddeunyddiau yn dod o ffynonellau lleol a chynaliadwy, yn cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu? | ||
A yw eich deunyddiau’n cael eu cydnabod fel rhai rhydd o wrthdaro gan gynlluniau ardystio annibynnol fel electronicswatch.com a Greenpeace Guide to Electronics? | ||
● A ydych chi’n sicrhau bod eich sefydliad yn dilyn arferion teg a moesegol gan gynnwys arferion gwrth-gaethwasiaeth a thraffig dynol, masnach deg, stiwardiaeth forol a stiwardiaeth coedwigaeth, B-Corp neu achrediad y Ddraig Werdd? | ||
A yw eich sefydliad yn gweithredu i leihau tlodi? | ||
A ydych yn Gyflogydd Cyflog Byw? | ||
Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd, neu yn bwriadu eu cymryd i sicrhau eich bod yn cynnig gwaith teg? Caiff gwaith teg ei ddiffinio fel man lle mae gweithwyr “yn cael eu gwobrwyo’n deg, yn cael gwrandawiad a chynrychiolaeth, yn ddiogel ac yn medru ffynnu mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu”? | ||
Ydych chi’n cefnogi ac yn ymgymryd â chaffael teg a lleol? | ||
A ydych chi’n hybu twf cynhwysol? | ||
A yw eich sefydliad neu gyfarwyddwyr yn perthyn i unrhyw bleidiau gwleidyddol neu unrhyw fuddiannau eraill y dylid eu datgelu fel rhai â’r potensial (canfyddedig neu real) i achosi risg o ragfarn, neu risg negyddol i enw da’r Comisiynydd? |
Gwybodaeth bellach
Os hoffech ofyn cwestiynau neu drafod y tendr hwn, cysylltwch â Petranka Malcheva ar petranka.malcheva@futuregenerations.wales