“Mae’r byd yn gwylio mewn arswyd wrth i sifiliaid yn Gaza barhau i dalu’r pris eithaf am ymosodiad milwrol marwol wyth mis.
Mae adroddiad syfrdanol yr IPC (Integrated Food Security Phase Classification) heddiw yn rhybuddio bod tua 96 y cant o boblogaeth Llain Gaza (2.15m o bobl) yn wynebu lefelau uchel o ansicrwydd bwyd acíwt.
Mae angen cadoediad parhaol ar unwaith a sicrhau bod pob gwystl yn cael ei ryddhau’n ddiogel.
Anogaf y rhai sydd â’r pwerau i wneud hynny, i ymrwymo i hyrwyddo heddwch a diogelwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae gan bawb yn Israel ac ym Mhalestina yr hawl i fyw mewn heddwch, nawr ac yn y dyfodol.”