Y ffordd iawn: Cymru sy’n addas ar gyfer plant
Fel comisiynwyr annibynnol Cymru ar gyfer Plant ac ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol mae gennym rolau gwahanol ond diddordebau cyffredin.
Rydym ni am alluogi cyrff cyhoeddus i sicrhau bod hawliau plant i fod yn ddiogel, yn iach ac i ffynnu nawr, ar yr adeg hon, yn ganolog i’w cynllunio a’u darpariaeth.
Yn yr adroddiad hwn rydym hefyd am sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer y tymor hir – ar gyfer gweddill bywydau’r plant sy’n byw yn eu cymunedau nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol sydd heb eu geni eto. Rydym wedi cydweithio i ystyried sut gall ymrwymiad Cymru i hawliau plant a gydnabyddir yn rhyngwladol weithio gyda Deddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddiwallu anghenion plant – nawr ac yn y dyfodol.