#29

Ystyried sut y gallwch sicrhau fod gan blant fynediad i chwarae awyr-agored beunyddiol

1

Problem

Yn 1925, dywedodd David Lloyd George mai ‘hawl i chwarae yw hawl cyntaf plentyn ar y gymuned. Ni all unrhyw gymuned ymyrryd â’r hawl hwnnw heb wneud niwed dwfn a pharhaus i feddyliau a chyrff ei dinasyddion.’ Mae chwarae, yn enwedig chwarae y tu allan, yn allweddol er mwyn sicrhau fod plant yn elwa o blentyndod iach a hapus.

2

Newid Syml

Mae Chwarae Cymru wedi datblygu Pecyn Offer Cymunedol, Datblygu a Rheoli Lleoedd Chwarae, ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifon am reoli neu ddatblygu lle chwarae mewn cymuned, a all ddarparu pwynt cychwynnol defnyddiol wrth i chi ystyried sut y gallwch chi sicrhau eich bod chi’n cynnig lle i blant chwarae.

Resources

More Information about: Ystyried sut y gallwch sicrhau fod gan blant fynediad i chwarae awyr-agored beunyddiol