Mae gwneud gwerth cyhoeddus yn rhan hanfodol o'u gweithgareddau yn nodwedd unigryw Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae cydnabod na all datblygiad economaidd gael ei gyflawni heb welliant cymdeithasol yn ddealltwriaeth arloesol a rennir gan yr ysgol fusnes a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae cyrff cyhoeddus wedi cydnabod bod y Ddeddf yn cynnig cyfle i fabwysiadu ymagwedd holistig, ac nad datblygu economaidd yw’r unig ateb i wella’n bywydau yma yng Nghymru.

Yn ddiweddar cwrddais â Satish Kumar, oedd yn arfer bod yn fynach ac ymgyrchydd dros heddwch sydd wedi neilltuo gwaith ei fywyd i wneud y cysylltiadau rhwng pobl a’r blaned. Fel golygydd y cylchgrawn Resurgence, mae wedi ysgrifennu llawer am y modd yr ydym, rywfodd neu’i gilydd, wedi colli’n ffordd ac wedi  caniatáu i economi gael y gorau ar ecoleg.

Mae’n tynnu ein sylw at y ffaith bod y geiriau ‘ecoleg’ ac ‘economi’ yn deillio o’r un gair Groegaidd, ‘oikos’ sy’n golygu cartref. Diddorol nodi bod ‘logos’ mewn ecoleg yn golygu gwyboaeth, a ‘Nomos’ yn economi yn golygu gofalu am yr cartref. Felly mae gwybodaeth o’n cartref a’n gofal ohono gryn bellter oddiwrth yr hyn a feddyliwn yn awr pan fyddwn yn siarad am ecoleg ac economi.

Wrth edrych ar darddiad y geiriau hyn a’u cydberthynas, sut yr ydym wedi llithro mor bell oddiwrth yr ystyron gwreiddiol hyn, y cysylltiad cynhenid hwnnw rhwng gwybod beth sy’n ein gwneud yn hapus ac iach, a’r wybodaeth hynny am y cartref, y blaned yr ydym yn byw arni.

Mae’r holl ryngddibyniaethau hynny yn cael eu cydnabod yn llwyr yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r  Dyfodol. Er enghraifft, y diffiniad o ‘Gymru ffyniannus’ yr ydym yn brwydro i’w gwireddu, cymdeithas arloesol, gynhyrchiol garbon isel sy’n cydnabod cyfyngiadau’r amgylched byd-eang ac felly’n defnyddio adnoddau yn effeithlon a chymesur (yn cynnwys gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus addysgiedig ac economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn  cyfleoedd cyflogaeth.’

Mae hyn gryn bellter i ffwrdd o’r ymagwedd draddodiadol tuag at ddatblygu economaidd. Ni chrybwyllir Cynnyrch Domestig Gros neu Gwerth Ychwanegol Gros yn un man – ac i ddarparu’r weledigaeth hon bydd angen i ni feddwl am economi yng nghyd-destun llesiant cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Mae’n caniatáu i ni gael ein hysbrydoli gan feddylwyr arloesol ar draws y byd, i adeiladu nid yn unig ar gyfer Cymru’r funud hon, ond i feddwl a gweithredu nawr ar gyfer y Gymru fydd yma ymhen pum, deg, neu hyd yn oed hanner can mlynedd. Nid yw hwn yn syniad newydd. Robert Kennedy a ddywedodd nôl yn y 60au bod Cynnyrch Domestig Gros yn mesur popeth mewn bywyd heblaw’r hyn sy’nn werth chweil.

Mae’r modd yr ydym yn mesur gwerth mewn dull holistig ac effeithiol yn her i  academyddion yn ogystal ag i’r sector cyhoeddus. Sut y gwyddom fod yr hyn yr ydym yn ei fesur mewn gwirionedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i realiti bywyd pobl?

Os feddyliwn ni am y cysylltiad rhwng gwerth cyhoeddus a gwelliant cymdeithasol yn ogystal â datblygiad economaidd, mae’r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynd â ni un gam ymhellach. Mae’n ymwneud â phobl a phlaned, a phob un sydd eto heb eu geni. A phan edrychwn ar werth yn y modd hwnnw, rydym yn edrych i weld i ba raddau mae’r penderfyniadau sy’n cael eu cymryd gan gyrff cyhoeddus yn macsimeiddio’u cyfraniad tuag at bob un o’r saith nod llesiant ac gwahaniaeth i fywyd pobl yma yng Nghymru.