Cipolwg a Newyddion
Talu’n deg i helpu gyda phwysau costau byw, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac ymgyrchwyr wrth i ddau gyngor arall yng Nghymru ennill achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol
November 10, 2025
Mae cyflog isel yn gwaethygu argyfwng costau byw i filoedd o weithwyr rheng flaen sy’n darparu gwasanaethau cymunedol hanfodol, yn ôl rhybudd ymgyrchwyr Cyflog Byw Gwirioneddol.
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Cynnal Cymru a Citizens UK wedi uno i alw ar bob cyngor a chorff cyhoeddus yng Nghymru i ddod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol i gefnogi gweithwyr a chreu cymunedau cryfach.
Mae’n Wythnos Cyflog Byw Gwirioneddol yr wythnos hon. Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn allweddol i agenda gwaith teg Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac, yn wahanol i Gyflog Byw Cenedlaethol Llywodraeth y DU, mae’n seiliedig ar gostau byw gwirioneddol yn unig.
Ers 2016, mae tua 20,400 o bobl ychwanegol yng Nghymru wedi cael eu codi i’r Cyflog Byw Gwirioneddol, gan ychwanegu £141m mewn incwm ychwanegol i enillwyr cyflog isel, gyda bron i 600 o gyflogwyr gan gynnwys Principality, Coaltown Coffee, Fabulous Welshcakes ac Ogi wedi cael eu hachredu.
Er bod nifer y gweithwyr yng Nghymru sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi cynyddu ychydig o 64 i 67% yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl Adroddiad Llesiant Cymru diweddaraf – mae angen mwy o gynnydd er mwyn i Gymru ddal i fyny â rhannau eraill o’r DU. Mae gan Gymru 600 o gyflogwyr achrededig, sydd ymhell y tu ôl i’r Alban sydd â bron i 4,000.
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, wedi gofyn i bob cyngor ymrwymo i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff, yn ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, 2025, a gyhoeddwyd cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai. Dylai pob un o 56 corff cyhoeddus Cymru, meddai, gael cynllun ar gyfer achredu o fewn dwy flynedd mewn cam hollbwysig tuag at fynd i’r afael â thlodi.
Ers ei alwad ym mis Ebrill 2025, mae dau gyngor wedi cael eu hachredu – Bro Morganwg a Sir Fynwy, sy’n golygu bod 5 allan o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol. Hefyd ers mis Ebrill 2025, mae MEDR (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) a Chymwysterau Cymru hefyd wedi dod yn gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol. O’r 56 corff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae 17, sy’n record, bellach wedi’u hachredu.
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker: “Mae talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i bobl sy’n darparu ein gwasanaethau hanfodol yn gam hollbwysig wrth leihau anghydraddoldebau ac adeiladu dyfodol gwell i’n plant a’n hwyrion.
“Mae talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn fuddsoddiad hirdymor yn nyfodol Cymru. Drwy sicrhau bod ein hathrawon, ein casglwyr sbwriel, ein gweithwyr cymdeithasol a’r bobl sy’n darparu ein holl wasanaethau hanfodol yn cael eu talu cyfradd yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i fyw heddiw, gallwn wella iechyd, addysg ac economi cenedlaethau’r dyfodol.
“Gyda’r argyfwng costau byw yn parhau i wasgu cyllidebau aelwydydd, nawr yw’r amser i bob cyngor yng Nghymru ddangos arweinyddiaeth drwy ymrwymo i’r Cyflog Byw Gwirioneddol a gosod safon ar gyfer cyflog teg ar draws y sector cyhoeddus.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morganwg: “Ers 2022, mae’r Cyngor wedi cynyddu ei raddau cyflog isaf yn gyson i gyd-fynd â’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
“Mae hyn yn bwysig gan ein bod yn credu y dylai pawb allu fforddio byw i safon resymol. Rydym am drin ein staff yn deg a gofalu am eu lles.
“Mae’r symudiad hefyd yn cyd-fynd ag amcan craidd yn ein cynllun pum mlynedd newydd i gefnogi ac amddiffyn y rhai sydd ein hangen ni.
“Wrth gwrs, nid dyma ddiwedd y stori. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ac yn gobeithio y byddant hwythau’n gwneud yr ymrwymiad hwn ac yn parhau â’u hymdrechion i fynd i’r afael ag amddifadedd ac anghydraddoldeb yn ein cymunedau.”
Dywedodd Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Ben Callard: “Mae’n wych cael eich achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol. Rydym wedi bod yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i swyddogion y cyngor ers nifer o flynyddoedd ac yn sicrhau bod y rhai sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol yn derbyn yr un gyfradd.
“Mae’r achrediad yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i sicrhau bod y cwmnïau hynny yr ydym yn eu contractio i ddarparu gwasanaethau hefyd yn talu cyfradd deg i’w gweithwyr, sy’n adlewyrchu cost byw wirioneddol.
“Drwy dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, rydym yn helpu i leihau tlodi mewn gwaith a chefnogi economi leol fwy cynaliadwy.”
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaethau Cymdeithasol, Jack Sargeant:
“Rwy’n falch o groesawu cynghorau Sir Fynwy a Bro Morganwg fel yr awdurdodau lleol diweddaraf yng Nghymru i gael eu hachredu fel cyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol.
“Mae eu harweinyddiaeth yn anfon neges glir bod cyflog teg yn rhan hanfodol o waith teg. Rwy’n annog mwy o gyflogwyr i ddilyn eu hesiampl a helpu i adeiladu Cymru fwy cyfartal a gwydn.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cynnal Cymru, Simon Slater:
“Mae Cynnal Cymru yn credu bod dyfodol gwell yn gofyn am waith tecach a gwyrddach. Mae ein hawdurdodau lleol yn gweithredu fel sefydliadau angor yn eu cymunedau. Mae ganddyn nhw’r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar y Cyflog Byw, i’w staff eu hunain ac o ran arweinyddiaeth yn eu cadwyni cyflenwi.
Mae ein tîm achredu wrth eu bodd yn croesawu ein pedwerydd a’n pumed awdurdod lleol Cyflog Byw, Sir Fynwy a Bro Morganwg, i’r plyg.
Fel preswylydd ym Mro Morganwg, rwy’n falch bod y gwasanaethau cyngor rwy’n elwa ohonynt bellach wedi’u gwarantu’n swyddogol i gael y Cyflog Byw Gwirioneddol. Oherwydd mae diwrnod teg o waith yn haeddu diwrnod teg o gyflog.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a Citizens Cymru i ddod â’r 17 o awdurdodau lleol sy’n weddill i mewn i helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith yn eu cymunedau.”
Dywedodd cyd-gadeirydd Citizens Cymru, Dr Deborah Hann o Ysgol Fusnes Caerdydd: “Mae cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn eu cymunedau – nid yn unig fel darparwyr gwasanaethau, ond fel cyflogwyr lleol mawr. Mewn llawer o ardaloedd, maent ymhlith yr ychydig sefydliadau mawr sy’n cynnig gwaith sefydlog, felly pan fyddant yn ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, mae’r effaith yn cael ei theimlo ymhell y tu hwnt i’w gweithlu eu hunain. Mae’n codi safonau ar draws y gymuned ac yn cefnogi busnesau lleol.
“Rydym yn falch o’r rôl bwysig y mae sefydliadau cymdeithas sifil yn ein cynghrair yn ei chwarae wrth ymgyrchu dros eu cyflogwyr lleol i ymuno â’r mudiad Cyflog Byw. Mae’n galonogol gweld awdurdodau lleol fel Bro Morganwg a Sir Fynwy yn arwain y ffordd, rydym yn gobeithio gweld llawer mwy yn dilyn eu hesiampl.”