Cipolwg a Newyddion
‘Ni ellir gadael dyfodol natur i siawns’: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am gamau brys ar Fil Amgylchedd Cymru
July 17, 2025
Gallai cyfle nodedig i amddiffyn ac adfer natur yng Nghymru fethu heb dargedau hanfodol i achub ein bywyd gwyllt, yn ôl rhybudd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, gan fod darn newydd o ddeddfwriaeth yn brin o’r grym cyfreithiol sydd ei angen i warantu gweithredu hirdymor.
Nid yw’r Bil Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), sydd dan graffu yn y Senedd ar hyn o bryd, yn cynnwys targed sy’n rhwymo’n gyfreithiol i yrru adferiad natur—bwlch y mae eiriolwyr amgylcheddol a’r comisiynydd yn dweud y dylid mynd i’r afael ag ef cyn iddo gael ei basio.
Ar Orffennaf 17, bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Derek Walker yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fel rhan o graffu Cyfnod Un ar y Bil.
Mae Mr Walker yn galw am gynnwys prif darged adfer natur ar wyneb y ddeddfwriaeth, gan rybuddio y gallai gadael gosod targedau i lywodraethau’r dyfodol ohirio gweithredu brys am flynyddoedd.
Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y comisiynydd, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn argymell gosod prif darged nawr i yrru cyflawniad o’r diwrnod cyntaf, darparu eglurder pwrpas, a chreu rhwymedigaeth hirdymor ar lywodraethau’r dyfodol i barhau i adfer bioamrywiaeth.
Mae bywyd gwyllt annwyl yn diflannu o dir a dyfroedd Cymru, ac mae Mr Walker yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer y rhywogaethau—dangosydd allweddol o iechyd ecosystem—yn dirywio’n sydyn yng Nghymru.
Mae un o bob chwe rhywogaeth, gan gynnwys llygod y dŵr, mewn perygl o ddiflannu, ac mae rhywogaethau brodorol fel y gylfinir a’r eog Iwerydd mewn dirywiad difrifol, yn ôl Adroddiad Cyflwr Natur.
Mae’r comisiynydd yn cefnogi cynnig gan Gyswllt Amgylchedd Cymru y dylid mabwysiadu nifer y rhywogaethau fel y prif fesur o iechyd bioamrywiaeth, gyda therfynau amser dros dro a hirdymor i olrhain cynnydd.
Dylai’r targed yn y gyfraith ar gyfer adferiad natur hefyd ddod gyda chynllun gweithredu clir a threfniadau ariannu hirdymor.
Dywedodd Mr Walker: “Mae targed clir, mesuradwy ar gyfer natur yn adrodd hanes beth yw pwrpas y gyfraith hon mewn gwirionedd—adfer natur a gwneud hynny ar frys.
“Byddai ychwanegu targed adfer natur at y gyfraith nawr yn gam hollbwysig tuag at ddyfodol mwy gwyrdd ac iach i Gymru ac yn sicrhau ein bod yn cymryd yr holl gamau i gynyddu natur ar draws pob rhan o fywyd Cymru, boed yn cynllunio ar gyfer adfer natur, hamdden, tyfu bwyd neu wella ein hiechyd.
“Mae targedau’n creu momentwm, yn gyrru atebolrwydd, ac yn sicrhau bod pob sector yn chwarae rhan. Heb un, rydym yn gohirio gweithredu ac yn gadael dyfodol natur i siawns.
“Mae cynsail eisoes ar gyfer y mesur hwn mewn mannau eraill yn y DU. Mae angen i ni anfon neges nawr bod natur yn bwysig—nid yn unig heddiw, ond am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Mr Walker y byddai targed natur yn sbarduno gweithredu cydweithredol ac integredig tuag at adferiad natur yn yr un modd ag y mae’r targed Net Sero erbyn 2050 yn sbarduno datgarboneiddio o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.
Heb y targed hwn wedi’i ysgrifennu yn y Bil, byddai’r broses o sefydlu targedau statudol yn cael ei gadael i Senedd yn y dyfodol, gydag amserlen amcangyfrifedig yn gwthio’r gweithrediad cyn belled â 2029.
Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio y gallai hyn danseilio ymrwymiad Cymru i amddiffyn 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030.
Mae rôl natur mewn iechyd a llesiant y cyhoedd hefyd yn rhan o’r achos dros frys. Mae ymchwil yn dangos bod treulio amser mewn natur yn hybu llesiant meddyliol a chorfforol—ac mae ecosystemau ffyniannus yn hanfodol ar gyfer aer glân, dŵr, bwyd a gwydnwch hinsawdd.
Yn Sir Benfro, mae’r Prosiect Iechyd Awyr Agored a redir gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro, yn cysylltu cleifion â mannau gwyrdd i gefnogi eu hadferiad, tra bod Ysbyty Llandochau wedi creu dolydd therapiwtig i wella iachâd.
Mae strategaeth coed a choetiroedd Cyngor Wrecsam yn defnyddio’r Sgôr Ecwiti Coed, teclyn rhad ac am ddim sy’n mapio natur fel gorchudd coed, sydd ar ei isaf mewn ardaloedd difreintiedig, tra hefyd yn dangos effaith llygredd aer ac anghydraddoldeb gwres – yr ardaloedd a fydd yn dioddef o effaith fwyaf gwres ac oerfel. Gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio’r teclyn ar gyfer cynllunio, tra gall pobl ei wirio i weld sut mae eu hardal yn sgorio o ran mynediad at natur.
“Pan fydd targed, caiff ei ychwanegu at y gofrestr risg – yn sydyn, mae gennych sedd wrth y bwrdd. Dyna pryd mae newid yn dechrau digwydd go iawn,” meddai Anthony Rogers, Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth, Partneriaeth Natur Sir Benfro.
Mae pobl yn cael eu hannog i ddweud eu dweud cyn i’r ymgynghoriad ar y Bil gau ar 30 Gorffennaf, 2025.
Gellir gwneud cyflwyniadau drwy wefan y Senedd: https://business.senedd.wales/mgConsultationDisplay.aspx?id=607&RPID=1061071472&cp=yes
Pŵer natur ar ein llesiant
Trodd y gofalwr Karen Steadman at nofio yn y môr pan symudodd i Sir Benfro i ofalu am ei mam, a gafodd strôc fawr yn ystod pandemig Covid-19.
Roedd y ddynes 55 oed, sy’n wreiddiol o Nant-y-moel ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn teimlo’n ‘llethol, yn unig, ynysig ac yn ddiwerth’ pan benderfynodd nofio oddi ar Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod gyntaf ar Ragfyr heulog yn 2020.
“Cyn gynted ag y cyffyrddodd y dŵr â’m traed, cymerwyd fy anadl i ffwrdd ac roedd yn teimlo’n dda,” meddai Karen, sy’n byw yn Hwlffordd. “Oer iawn, ond mor dda, wrth i mi ymlacio’n y dŵr tawel, gwyrddlas, fy mhartner yn fy ngwylio o’r lan.
“Aeth teimlad o ewfforia enfawr drwydda i mewn tonnau. Roedd fy nghorff yn teimlo’n ysgafn ac yn rhydd, dim poenau yn y cymalau, dim cur pen, dim gorbryder, dim straen. Roedd gen i egni, roedd gen i obaith, roeddwn i’n teimlo’n bwerus ac yn abl, roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n tywallt o gwpan gwag mwyach.
“Mae nofio yn y môr i mi fel pwyso’r botwm ailosod. Pan gyrhaeddais y môr y diwrnod hwnnw, fe’m hadferodd i osodiadau’r ffatri.”
Wrth sgrolio ar Facebook, darganfu Karen Wild Swims Wales, a redir gan Sue Christopher, sydd wedi bod yn cynnal cyrsiau llesiant ar y traeth ers pedair blynedd.
Mae Sue wedi cyflwyno sawl rhaglen iechyd awyr agored chwe wythnos gyda Prosiect Iechyd Awyr Agored Fforwm Arfordirol Sir Benfro, sy’n ‘rhagnodi’ natur a’r awyr agored i bobl fel math o iechyd ataliol.
Dywedodd Karen: “Roedd y Nadolig yn eithaf anodd y flwyddyn honno a helpodd dip ar Ddiwrnod San Steffan a Nos Galan fi i gadw’n gall.
“Mae nofio yn y môr yn fy helpu i brosesu’r amseroedd anodd a’u rhoi mewn persbectif, gan fy ngalluogi i deimlo’r eiliadau llawen sydd allan yna hefyd.
“Ond mae’r cyfan yn golygu cymaint mwy pan gaiff ei wneud mewn cwmni da. Mae’n fwy na her, mae’n brofiad a rennir, boed yn rhegi ar donnau, yn cefnogi ffrind trwy gyfnod anodd neu’n mwynhau cacen gartref rhywun. Nid proses gorfforol yn unig yw’r broses gynhesu, rydym yn rhannu cynhesrwydd cariad a chyfeillgarwch.”
Mae Sue, sydd hefyd yn wirfoddolwr i Mind Pembrokeshire, yn cynnal grŵp dydd Mawrth wythnosol drwy gydol y flwyddyn a dywedodd ei bod am weld mwy o gyfleoedd i bobl gynnal neu wella eu hiechyd a’u llesiant, mewn natur.
Mae hi’n pwysleisio’r angen am ddiogelwch mewn dŵr oer, ac yn cynghori yumuno â grŵp trefnus neu i gymryd cyngor cyn i chi ddechrau.
Dywedodd: “Rydym yn clywed wythnos ar ôl wythnos, hyd yn oed ar ôl cyfnod cymharol fyr yn yr awyr agored, fod pobl yn teimlo’n fwy abl i ymdopi â beth bynnag sy’n digwydd yn eu bywydau, er nad oes dim wedi newid ers iddynt gyrraedd ar gyfer y sesiwn.
“Y budd rwy’n ei glywed fwyaf gan gyfranogwyr yw bod cysylltiad ag eraill a natur, bod mewn dŵr neu gerllaw, yn dod ag ymwybyddiaeth ofalgar naturiol a gwydnwch a chryfder y maent yn eu defnyddio mewn meysydd eraill o’u bywyd.”
Ychwanegodd Karen: “Nid yw fy mywyd yn haws nawr nag yr oedd bryd hynny. Mae rhai pethau wedi setlo ond mae heriau newydd yn dod drwy’r amser. Ond nawr fy mod i’n byw yn Sir Benfro yn barhaol, mae gen i un fantais fawr – mae’r môr yno, ym mhobman rwy’n troi. Nid yw byth yn bell i ffwrdd ac mae’n feddyginiaeth orau i mi erioed ei hadnabod. Dydw i wir ddim yn gwybod ble byddwn i fel arall.”