Mae strategaeth gyllidebol Llywodraeth Cymru a’r broses gwneud penderfyniadau yn rhan hanfodol o ysgogi newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan ei fod yn fframio cyfran arwyddocaol o benderfyniadau gan gyrff cyhoeddus.

Mae’r Comisiynydd wedi cynghori a chytuno’n llwyddiannus gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC ar ddiffiniad o atal.

Tra bydd hwn yn cymryd cryn dipyn o amser i gael ei ddeall ar draws y Llywodraeth, mae’r Comisiynydd yn disgwyl gweld sut mae’n trwytho penderfyniadau gwariant ac rydyn ni’n falch i weld peth dadansoddiad yn y gyllideb eleni.

Y diffiniad o atal y cytunwyd arno rhyngom ni a Llywodraeth Cymru:

Atal yw gweithio mewn partneriaeth a chynhyrchu ar y cyd y canlyniadau gorau posibl, gan ddefnyddio cryfderau ac asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cyfrannu.

Gan dorri i bedwar lefel, gall pob lefel leihau’r galw am y nesaf:

  • Atal sylfaenol – Adeiladu cydnerthedd – creu’r amodau lle na fydd problemau’n codi yn y dyfodol. Ymagwedd gyffredinol.
  • Atal eilaidd – Targedu camau tuag at feysydd lle mae risg fawr y bydd problemau’n digwydd. Ymagwedd wedi ei thargedu sy’n sefydlu egwyddorion cyffredinoliaeth flaengar.*
  • Atal trydyddol – Ymyrryd pan fydd problem wedi digwydd, i’w hatal rhag  gwaethygu a’i hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Ymagwedd ymyrryd.
  • Gwariant aciwt – Gwariant, sy’n gweithredu i reoli effaith sefyllfa negyddol iawn sy’n gwneud ychydig neu ddim i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol. Ymagwedd adferol.

* Mae ‘cyffredinoliaeth flaengar’ yn golygu penderfyniad i ddarparu cymorth i bawb, gan roi i bawb a phopeth lais a diddordeb personol, ond sy’n cydnabod y bydd mwy o gymorth yn ofynnol mewn ardaloedd lle mae mwy o angen.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Mae’r gyllideb ddrafft 2019-2020 wedi ei strwythuro mewn dull mwy integredig, sy’n adlewyrchu mewn dull defnyddiol strwythur yr adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ‘Ffyniant i Bawb’ ac sy’n adlewyrchu’r gofyniad o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddatblygu a chyflwyno polisi mewn dull integredig.

Mae’r Comisiynydd wedi craffu ar y gyllideb ddrafft, gan ystyried sut mae’r gyllideb yn ei chyfanrwydd yn adlewyrchu’r Ddeddf, a hefyd wedi archwilio’n fwy manwl benderfyniadau’r gyllideb sy’n berthnasol i iechyd meddwl, datgarboneiddio a gofal cymdeithasol. Darparodd Social Finance, sefydliad ddim-am-elw sy’n gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu datrysiadau newydd i broblemau mwyaf anodd cymdeithas ddadansoddiad a mewnwelediad mewn perthynas â’r gwaith hwn.

Gellir cael trawsgrifiad o dystiolaeth y Comisiynydd i’r Pwyllgor Cyllid ar 15fed Tachwedd 2018.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi cyngor i Lywodraeth Cymru gyda 10 argymhelliad ar gyfer adeiladu ar y cynnydd a wnaethpwyd ganddynt yn y gyllideb ddrafft y tro hwn i gymryd camau mwy uchelgeisiol a thrawsffurfiol o 2019 ymlaen. Mae’r argymhellion hyn y ymwneud a:

A. Datblygu ymagwedd tuag at wirio cynnydd o flwyddyn i flwyddyn a fydd yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y broses gyllidebol;
B. Defnyddio Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DG fel cyfle i gymryd camau pellach tuag at ymagwedd hirdymor;
C. Defnyddio’r diffiniad o atal ar draws Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.
D. Deall cytbwysedd y buddsoddiad a ddymunir mewn ymagweddau ataliol ar draws Llywodraeth, a sefydlu ymagweddau ataliol yn unol â hynny;
E. Sicrhau bod y buddsoddiad mewn datgarboneiddio’n adlewyrchu uchelgais.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Pwyllgor Cyllid Tachwedd  2017

Mae’r dystiolaeth a roddwyd gan y Comisiynydd i Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer  Tachwedd 2017 yn pwysleisio’r angen am symudiad pendant tuag at ymagweddau ataliol, gwell integreiddio ar draws polisi, ac i benderfyniadau’r Llywodraeth (megis yr M4) gael eu fframio yn yr hirdymor.

Arweiniodd ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid at dri argymhelliad o’r naw i gael eu cyfrif fel rhai perthnasol i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

Argymhelliad 7. Mae’r Pwyllgor yn ailadrodd yr argymhelliad a wnaed ganddo mewn perthynas â chyllideb ddrafft 2017-2018 y dylai’r Llywodraeth ddangos mwy o aliniad rhwng ei chyllidebau drafft, y nodau llesiant â’r pum dull o weithio. Dylai cyllidebau drafft y dyfodol ddangos hefyd sut y bydd dosraniad cyllid yn cyflawni’r blaenoriaethau a amlinellwyd yn eu strategaeth genedlaethol, ar hyn o bryd, Ffyniant i Bawb.

Argymhelliad 8. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r asesiad effaith strategol integredig a ddarparwyd ochr yn ochr â chyllidebau’r dyfodol drafft roi eglurhad clir ar sut y  gwnaethpwyd penderfyniadau.

Argymhelliad 9. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr awgrym  bod gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru rôl mewn asesu i ba raddau y mae effaith cyllideb y Llywodraeth yn cynorthwyo’r nodau llesiant, yn y tymor byr a’r hirdymor.