Erbyn Ebrill 2017 roedd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus lleol a chenedlaethol ledled Cymru a gwmpesir gan  y Ddeddf i gyhoeddi eu hamcanion a’u camau llesiant, gan ddangos sut y byddant yn gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol Cymru a chyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol.

Mae’n ofynnol i’r Comisiynydd fonitro ac asesu i ba raddau y mae’r fath amcanion yn cael eu cyflawni. Mae’r Comisiynydd wedi bod yn datblygu ei hymagwedd ar gyfer gwneud hyn, cyn derbyn y set gyntaf o adroddiadau blynyddol oddi wrth gyrff cyhoeddus a fydd yn cael eu cyhoeddi rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.

Gallwch ddod o hyd i amcanion cyrff cyhoeddus unigol yn y fan hon: (Dolen i dudalen cyrff cyhoeddus)

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Gwaith ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilio’r modd y mae’r pum dull o weithio’n cael eu defnyddio gan gyrff cyhoeddus. Mae natur gyflenwol ein swyddogaethau, ynghyd ag ethos y ddeddfwriaeth (yn arbennig integreiddio, cydweithio ac ymgyfrannu) wedi ein harwain ni – Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Comisiynydd – i weithio’n agos iawn gyda’n gilydd ac fe wnaethom ddatblygu strategaethau cyfochrog a chyflenwol i gyflawni ein swyddogaethau. Mae’n hollbwysig i ni  nad ydym yn anfon negeseuon sy’n gwrthdaro i gyrff cyhoeddus a’n bod yn cyd-dynnu i’r un cyfeiriad wrth sbarduno’r newidiadau dwfn a chywir tuag at y Gymru a garem.

Dros amser, bydd y Comisiynydd, Swyddfa Archwilio Cymru a phobl Cymru’n disgwyl i gyrff cyhoeddus fedru dangos sut mae’r Ddeddf yn llunio’r hyn a wneir ganddynt. Gan ein bod yn awr ar drothwy’r drydedd flwyddyn o ddeddfwriaeth, disgwylia’r Comisiynydd weld mwy o gyrff cyhoeddus yn mabwysiadu newidiadau syml ledled Cymru, yn ogystal ag ymagweddau newydd gan symud tuag at beri i newid trawsffurfiol ddigwydd.

Ymagwedd y Comisiynydd tuag at Fonitro ac Asesu Adroddiadau Blynyddol

Sut rydyn ni’n dod i wybod ble mae sefydliadau ar eu siwrnai tuag at newid diwylliannol?

Roedd y cwestiynau hyn ar flaen ein meddwl pan wnaethom alwad yn ddiweddar ar i unrhyw un â diddordeb  mewn gweithio gyda’n tîm i ddeall y cynnydd y  mae’r 44 corff cyhoeddus – darostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) – yn ei wneud tuag at gyflawni eu hamcanion.

Mae’r Ddeddf yn ymwneud â chyrff cyhoeddus yn defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy i lunio’r hyn a wnânt, sut y maent yn ei wneud a sut  maent yn cyfleu (drwy adrodd) y gwahaniaeth a wneir ganddynt.

Mae sefydliadau cyhoeddus yn cyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol cyntaf  o dan y Ddeddf, gan gyfleu’r cynnydd a wnaethpwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rhaid i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wylio a dyfarnu hyn. Roedd ei galwad yn ffocysu ar edrych ar yr adroddiadau blynyddol hyn, ond mae’r prosiect yn gyfle i’r cyrff cyhoeddus yng Nghymru lunio sut yr ydym yn cyfleu cynnydd yn awr ac yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â’r tîm hwn o bum ymchwilydd, bydd cyrff cyhoeddus eu hunain yn helpu i ddylunio ymagwedd tuag at fonitro a chyfleu eu cynnydd hwy eu hunain yn erbyn yr amcanion. Rwy’n ysgrifennu at Brif Weithredwyr y sefydliadau i ofyn am  berson cyswllt arweiniol i helpu i lunio’r rhaglen waith gyffrous hon. Bydd yr unigolion cyswllt arweiniol yn cael eu cynorthwyo drwy gydol y broses gan y tîm ymchwil.

Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda chyrff cyhoeddus mewn ffordd sy’n fanteisiol iddynt hwy, sy’n defnyddio amser yn y dull gorau posibl ac yn rhoi iddynt ddull o wella’r modd o gyfleu eu llwyddiant yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Peth gwybodaeth ar yr ymagwedd arfaethedig:

Gan adeiladu ar ddisgwyliadau a nodais yn: ‘Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn’ byddwn yn dwyn at ei gilydd grŵp o gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i greu ymarfer hunan-fyfyrio.

Bydd pob un o’r 44 corff cyhoeddus wedyn yn cael eu cyflwyno i’r ymarfer, a gofynnir iddynt gwblhau amserlen. Byddwn yn cymryd camau i sicrhau nad yw’r profiad yn un beichus ac iddo fod yn broses o ddysgu a datblygu.

Bydd y casgliadau o’r hunan-fyfyrio’n helpu’r Comisiynydd i ddeall ble mae cyrff cyhoeddus ar eu siwrnai tuag at newid ac yn ein helpu ni i gyfeirio ei chyngor, i gynorthwyo a hybu arfer.

Yn dilyn yr ymarfer hunan-fyfyrio, bydd cyrff cyhoeddus yn ffurfio grwpiau o gymunedau ymarfer cydweithredol i rannu eu canfyddiadau gyda’i gilydd.

Y syniad yw, y bydd yr ymarfer hunan-fyfyrio a’r sgwrs gydweithredol gydag eraill yn gweithredu fel adborth a dysg i bob corff cyhoeddus, wrth iddynt fynd ati i ddrafftio eu cynlluniau corfforaethol ac adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

Bydd crynodeb o’r adroddiad yn cael ei gynhyrchu yn Haf 2019.