Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno dyletswydd i ddatblygu cyllidebau carbon i Gymru, a lleihau allyriadau o 80% o leiaf erbyn 2050.

Mae hon yn her sylweddol gan fod dros 50% o allyriadau’n cael eu cynhyrchu gan nifer bach o safleoedd diwydiannol (e.e. dur Tata, gorsaf bŵer Port Talbot ac Aberddawan). Rydyn ni wedi cynorthwyo, herio a threfnu fforymau ar gyfer rhannu arfer da ymarferol i helpu cyrff cyhoeddus i symud ymlaen tuag at ddatgarboneiddio.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi:

  • Cynnal digwyddiad o’r enw ‘Arwain gweithredu cadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd – i gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru erbyn 2030’ ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Gyda 60 o arweinyddion cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n bresennol, ei bwrpas oedd sefydlu sgwrs ar draws y sector cyhoeddus Cymreig ar gyflawni’r uchelgais i ddatgarboneiddio Cymru.
  • Amlygu’r gwaith da a gyflawnwyd gan Brosiect Carbon Positif Cyfoeth Naturiol Cymru ac annog sefydliadau i ddysgu o’r  ymagwedd hon a rhannu astudiaethau achos gyda ni yn barhaus.
  • Annog cyrff cyhoeddus i edrych yn ehangach ar arbed carbon drwy drafnidiaeth ac adeiladau ac i sylweddoli buddiannau posibl datgarboneiddio i gydlyniad cymunedol a mynd i’r afael â thlodi ayb.
  • Ysgrifennu at gadeiryddion pob cronfa bensiwn llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill (mae’r un ar ddeg awdurdod lleol a’r cronfeydd pensiwn mwyaf yn buddsoddi mewn tanwydd ffosil), gan ofyn iddynt gadarnhau sut mae eu penderfyniadau’n ystyried yr hirdymor a’r risg i’r hinsawdd (a’u hannog i roi’r gorau i’r arfer hwn).
  • Herio’r Llywodraeth ar dargedau carbon y dylid eu cynnwys yng nghaffael Metro De Cymru.

Rhannu arfer da am amcanion llesiant sy’n cyfrannu tuag at ddatgarboneiddio yn fy adroddiad Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn: – mae 23 o wahanol sefydliadau cyhoeddus wedi gosod amcanion sy’n berthnasol i ynni.

Cynorthwyo gwaith National Energy Action Cymru a’r Gynghrair Tlodi Tanwydd gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Cynorthwyo prosiect ‘Re-energising Wales’, Sefydliad Materion Cymreig a’u gweledigaeth o Gymru  â’i holl ynni’n adnewyddol erbyn 2035.

Cynnal dau weithdy ar Gymru Ddi-garbon mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Ganolfan Technoleg Amgen.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi herio Llywodraeth Cymru i ddangos yn glir eu hymrwymiad ym mhob rhan o’r Llywodraeth i leihau carbon. Rydyn ni wedi rhoi cymorth i dîm datgarboneiddio Llywodraeth Cymru, yn benodol ar gynigion i’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel a fydd yn cyfrannu tuag at y saith nod llesiant.

Mae hyn wedi arwain at:

  • Ymrwymiad polisi oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet at gyfer creu sector cyhoeddus carbon-niwtral erbyn 2030. Byddaf yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i benderfynu sut y gellir, mewn gwirionedd, gyflawni’r ymrwymiad hwn.
  • Llywodraeth Cymru’n datblygu matrics i’w ddefnyddio fel rhan o’u proses asesu llesiant, i sicrhau bod eu Cynllun Cyflawni Carbon Isel yn cael ei fframio o fewn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gychwyn datblygu polisi (mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen o’r ymagwedd draddodiadol).
  • Llywodraeth Cymru’n alinio’u cylchoedd cyllidebu ariannol i’w cyllidebau carbon, sy’n golygu bod penderfyniadau am ble i wario’r arian yn medru ffocysu’n fwy ar gyflawni targedau lleihau carbon. Dyma’r unig lywodraeth yn y DU i wneud hyn.
  • Y cyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn adlewyrchu’r Ddeddf nid yn unig drwy ystyried llwybrau cost effeithiol ar gyfer lleihau allyriadau ond hefyd y cyfleoedd ehangach i wella llesiant.