Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi i ni’r anogaeth, caniatâd a'r rhwymedigaeth i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni'r Gymru a garem

Mae’n ddarn unigryw, arloesol o ddeddfwriaeth sy’n denu sylw byd-eang. Cynigia gyfleoedd gwych i ni fel cenedl fach, yma gartref ac yn fyd-eang, ond nid ydym yn diystyru maint yr her sydd o’n blaenau os ydym am wneud y gorau o hyn
Ein dull fydd un o her adeiladol yn cael ei ategu gyda chefnogaeth. Mae’r Comisiynydd yn benderfynol o gefnogi symudiad i ffwrdd oddi wrth y dull “ticio bocs” o ymdrin â dyletswyddau a chyfrifoldebau, tuag at ddull hirdymor o ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gydgysylltiedig sy’n cefnogi pobl yn awr ac yn y dyfodol

Mae fy cynllun strategol yn nodi sut ydw i’n bwriadu gwneud hyn. Byddai’n:

  • Gwarcheidwad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – gan ddangos y peryglon y maent yn eu hwynebu a herio polisïau tymor byr. Bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf erbyn 2020 fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf, gan nodi sut y gall cyrff cyhoeddus feddwl a chynllunio ar gyfer y dyfodol

  • Herio cyrff cyhoeddus i weithredu ar y bygythiadau mwyaf sy’n wynebu Cymru, gan gynnig cymorth drwy adeiladu mewnwelediad o’r dulliau gorau o fynd i’r afael â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu ac amlygu cyfleoedd ar gyfer gweithredu.

  • Dysgu ar y cyd â chenhedloedd eraill—hybu ymagwedd Cymru tra’n dysgu gan eraill – cynorthwyo a herio cynnydd ar ddatblygu cynaliadwy

  • Yn herio “busnes fel arfer” o fewn y sector cyhoeddus, gan gynorthwyo gwelliannau mewn asesu a chynllunio ar gyfer llesiant

  • Yn cynorthwyo a herio’r rhai hynny sy’n gosod fframweithiau perfformiad a’r rhai hynny sy’n eu hadolygu’n annibynnol i ddatblygu ymagwedd integredig, hirdymor tuag at asesu a herio mewn dull effeithiol gyrff cyhoeddus ar eu cyfraniad i Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

  • Yn adeiladu partneriaethau cryf effeithiol ac yn datblygu mudiad ar gyfer newid o fewn y sector cyhoeddus, lle gall pobl hybu ymagwedd Cymru tuag at ddatblygu cynaliadwy

  • Yn hybu ymgyfraniad ac ymgysylltiad effeithiol cyhoeddus, yn herio’n hunain ac eraill i ddeall yn well anghenion ein cymunedau, ein pobl a’u dylanwad yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt

  • Yn sefydlu fy swyddfa gan sicrhau bod egwyddor Datblygu Cynaliadwy a’r Pum Dull o Weithio’n rhan hanfodol o bob peth a wneir gennym. Golyga hyn gydweithio a mabwysiadu ymagwedd bartneriaeth tuag at y gwasanaethau cefnogi a chyflawni ein gwaith ble bynnag mae hynny’n bosibl. Bwriadaf ddysgu oddi wrth eraill a rhannu ein dysgu sefydliadol ni ein hunain gyda chyrff cyhoeddus fel rhan o’n dyletswydd statudol i hybu datblygu cynaliadwy

  • Darparu cyngor a chymorth i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gynllunio llesiant

    Mae’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn ysgrifennu i nodi sut y byddai’n cefnogi a rhoi cymorth ar  gynllunio llesiant dros y flwyddyn nesaf.

Sut yr ydym yn sicrhau fod hyn ddigwydd

  • Drafft Asesiadau llesiant

    Y dasg bwysig gyntaf i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fu datblygu darlun o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer eu cymunedau – ar gyfer heddiw ac ar gyfer dyfodol a allai fod o natur wahanol.

    Mae’r adroddiad ‘Llesiant yng Nhymru: cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory’ yn amlygu’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol, wedi ei sbarduno gan yr angen i newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad asesiadau llesiant gan y 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Cymru.

    Darllenwch adborth unigol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i bob un o’r 19 ddraft asesiadau llesiant y Byrddau Cyhoeddus Cymru.

  • Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd at hyn

    Ers Ebrill 2017, mae cynghorau, byrddau iechyd, parciau cenedlaethol, gwasanaethau tân ac achub, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Chwaraeon Cymru, wedi bod yn gweithio tuag at 345 o gydamcanion.

    Mae Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd at hyn yn amlinellu’r hyn y mae’r sefydliadau wedi ei ddweud y byddant yn ei wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac mae’n rhoi cyngor iddynt ar y ffordd orau o ddangos eu bod yn cymryd camau effeithiol i gyflawni eu hamcanion.

    Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cyfochrog, Myfyrio ar Flwyddyn Un:  Sut Mae Cyrff Cyhoeddus Wedi Ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? ar y modd y mae’r 44 sefydliad yn cychwyn ymateb i’w dyletswyddau o dan y Ddeddf.
    Mae’r adroddiadau sydd, yda’i gilydd, yn darparu ciplun mewn amser o ble yr ydym ni yng Nghymru – ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf – ac i ble mae angen i ni fynd.
  • Amcanion Llesiant
    Darllenwch adborth unigol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i bob un o’r 19  amcanion llesiant y Byrddau Cyhoeddus Cymru.
  • Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

    Fel rhaglen 20 mlynedd, mae’r Fargen Ddinesig hefyd yn cynnig cyfle anarferol a gwerthfawr i’r awdurdodau dan sylw i weithio ar gyfer yr hirdymor. Mae hefyd yn gyfle i ddangos sut y gallai cymhwyso’r Ddeddf i raglen fuddsoddi gyhoeddus fawr weddnewid ein llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.

  • Ymchwiliad i M4

    Mae prosiectau isadeiledd mawr fel y cynllun i adeiladu ffordd i llinaru tagfeydd ar y M4 yn cyfle delfrydol i rhai sy’n gyfrifol i ddangos sut maent yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf.

    Ym mis Chwefror 2017 cyflwynodd y Comisiynydd tystiolaeth ysgrifenedig i’r Ymchwiliad Cyhoeddus yn yn cwestiynu sut ydy’r cynllyn yn cwrdd ag anghenion cenhendalethau’r dyfodol. Cyflwynodd tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol Mis Medi 2017 yn rhybuddio yn erbyn camddehongliad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn tanseilio ysbryd a phwrpas y Ddeddf.

     

     

     

     

  • Rhwydwaith Sefydliadau ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

    Y rhwydwaith yw’r lle i wahanol wledydd ar draws y byd rannu gwybodaeth, profiad ac arfer gorau. Mae hefyd yn llwyfan ar gyfer syniadau arloesol ar ddiogelu sefydliadol i genedlaethau’r dyfodol a’u hamgylchedd. Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw Cadeirydd y rhwydwaith.

  • Siarad am Genedlaethau’r Dyfodol

    Yn ystod chwe mis cyntaf yn ei swydd, cyfarfu’r Comisiynydd gyda phob un o’r 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, y sector gwirfoddol, arbenigwyr a chyfrannodd mewn dros 100 o ddigwyddiadau yng Nghymru a thramor, gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Sioe Frenhinol Cymru.

  • Darparu cyngor a chymorth i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gynllunio llesiant

    Mae’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn ysgrifennu i nodi sut byddai’n cynghori a rhoi cymorth ar gynllunio llesiant dros y flwyddyn nesaf.

     

  • Y Gallu i Greu

    Wrth lynnu i egwyddorion cydweithio a chynnwys y Ddeddf, rydym yn datblygu rhwydweithiau  sydd yn arddangos potensial llawn y saith nod llesiant ac yn eu hesbonio’n glir, gan weithio gyda chynllunwyr nodau i gynnig adnoddau ymarferol ac arbenigedd er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a Bryddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn sicrhau  cyflawni pob un o’r nodau.