Yr hyn y byddwn yn ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf (2017-18)

1.  Amlygu’r materion mawr, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol

Mae fy ngwaith wedi ei lywio gan farn a phrofiadau pobl ledled Cymru, ac wedi arwain at chwe maes polisi blaenoriaethol, y byddaf yn ffocysu fy sylw arnynt:

Creu’r seilwaith cywir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

1. Stoc tai
2. Cynhyrchu ynni ac effeithlonrwyd
3. Cynllunio trafnidiaeth

Paratoi pobl ar gyfer y dyfodol

4. Sgiliau ar gyfer y dyfodol
5. Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
6. Modelau amgen ar gyfer gwella iechyd a llesiant

Yn ystod 2017-18, byddaf yn parhau i ennyn ymgyfraniad pobl sydd wedi cael profiad uniongyrchol o rai o’r materion a nodwyd, drwy dreialu lleoliad pobl yn fy nhîm. Os oes gennych chi wybodaeth, brofiad neu dystiolaeth sy’n berthnasol i unrhyw rai o’r chwe maes blaenoriaeth uchod os gwelwch yn dda cysylltwch â ni.

2. Cynorthwyo a herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor yr hyn y maent yn ei wneud

I gynorthwyo cyrff cyhoeddus yn eu cynllunio hirdymor ac wrth iddynt ddatblygu gwasanaethau sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, rwyf wedi creu tair rhaglen waith allweddol:

  • Y Gallu i Greu – cydweithio i archwilio goblygiadau ymarferol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth iddynt ddefnyddio’r pum dull o weithio i facsimeiddio’u cyfraniad i’r saith nod llesiant.
  • Labordai Byw – rhaglen dair blynedd yn manteisio ar arbenigedd ystod o bobl i ddatblygu a phrofi dulliau o gynorthwyo cyrff cyhoeddus i greu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gan ddefnyddio’r Pum Dull o Weithio a nodir yn y Ddeddf.
  • Cwmwl o Arloeswyr – banc o eiriolwyr cenedlaethau’r dyfodol ac arloeswyr yn eu maes sy’n medru cynghori cyrff cyhoeddus ar y dulliau o ddefnyddio’r pum dull o weithio i herio ‘busnes-fel-arfer’

Byddaf yn parhau i adeiladu ar y gwaith a gychwynnais yn ystod fy mlwyddyn gyntaf:

  • Trwy gynorthwyo Trafnidiaeth i Gymru ar gaffael Metro De Cymru
  • Trwy Adolygu Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG)
  • Trwy ddatblygu Fframwaith Seilwaith Cenedlaethau’r Dyfodol fel canllaw ymarferol i gyrff cyhoeddus ac eraill
  • Ystyried ymyriadau pellach ar yr M4
  • Gweithio gyda Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i gynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac unigolion i atal a lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

3.  Gweithio gydag eraill i sbarduno’r newidiadau sydd eu hangen

Byddaf yn cysylltu cyrff cyhoeddus â’i gilydd ac ag arbenigwyr a sefydliadau academaidd ac yn defnyddio’r meysydd blaenoriaeth i weithio gyda phobl a  sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i sbarduno’r newidiadau sydd eu hangen.

Byddwn yn cychwyn adeiladu mewnwelediad i mewn i bob un o’r blaenoriaethau hyn  a datblygu astudiaethau achos o gwmpas y modd y gellir defnyddio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel fframwaith ar gyfer newid trawsffurfiol i unigolion, cymunedau a busnesau.

Byddaf yn manteisio ar sgiliau a chysylltiadau fy Mhanel Ymgynghorol, yn gweithio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wrth i ni sicrhau bod archwiliad yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo gwell canlyniadau, gan rannu dysgu ac arloesedd gyda’r tîm Cyfnewidfa Arfer Da.

4.  Gweithredu yn ogystal â thrafod: Ysgwyddo’r newid yr ydym yn dymuno ei weld mewn eraill

Yn Ebrill 2017 adolygais y ffordd yr oedd fy swyddfa innau hefyd yn ‘gweithredu yn ogystal â thrafod’ ac yn gwneud y pum dull o weithio’n rhan hanfodol o’n hymarferion gwaith. Mae polisïau llesiant arloesol yn cael eu harchwilio a’u datblygu o fewn fy nhîm i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r saith nod llesiant.