Seilwaith iawn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae’r mwyafrif o lythyron yr ydym wedi eu derbyn yn 2017-18 yn ymwneud â phryderon am benderfyniadau cynllunio.

Mae pobl a chymunedau’n dweud wrthym eu bod yn aml yn teimlo bod datblygiadau wedi cael eu gwthio arnynt yn erbyn eu hewyllys gydag ychydig iawn o gyfle i ymgyfrannu.

Tra’n bod ni’n derbyn bod penderfyniadau cynllunio’n aml iawn yn faterion cymhleth sy’n polareiddio,  awgryma hyn nad yw cyrff cyhoeddus, o bosib, yn darganfod y ffyrdd gorau o gyfathrebu â’r cyhoedd mewn dull sy’n harneisio’u gweledigaeth a’u gwybodaeth o’u cymuned. Gellir mynd i’r afael â’r pryderon hyn drwy ddefnyddio egwyddorion y Ddeddf ac yn arbennig y pum dull o weithio.

Mae tua 25,000 o benderfyniadau cynllunio unigol, yn cynnwys 700 o brosiectau mawr yn mynd drwy’r system gynllunio bob blwyddyn (ffigurau 2015). Mae’n amhosibl i ni ymgymryd ag asesiad o bob un ac nid yw rôl y Comisiynydd fel y’i disgrifir yn y Ddeddf yn caniatáu i’w  swydd fod yn haen ychwanegol ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau amhoblogaidd. Fodd bynnag rydyn ni’n cydnabod rhwystredigaethau llawer o gymunedau â’r system bresennol a’r angen i sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig yn bodloni anghenion y dyfodol.

Yng ngoleuni hyn ac yn unol â  swyddogaethau’r Comisiynydd, yn arbennig ei dyletswydd i hybu datblygu cynaliadwy, rydyn ni wedi penderfynu bod ein mewnbwn eleni’n fwy effeithiol ar lefel strategol i ddylanwadu ar y polisïau a’r prosesau o fewn y rhain y mae’r system gynllunio’n gweithredu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn diweddaru’r gyfres o ddogfennau polisi cynllunio cenedlaethol, gan gychwyn gydag adolygiad llawn o Bolisi Cynllunio Cymru (y strategaeth gynllunio genedlaethol ar gyfer Cymru), ochr yn ochr â dyluniad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (y cynllun gofodol statudol cenedlaethol ar gyfer Cymru) a grëwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru).

Mae’r Comisiynydd yn  croesawu’r ymrwymiad a ddangoswyd gan y Llywodraeth i ail-gastio polisi cynllunio yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’n galonogol bod y Llywodraeth wedi bod yn awyddus i weithio gyda ni  o’r cychwyn cyntaf. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Gynllunio i sicrhau bod polisïau cynllunio newydd yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol tra’n ymateb i bryderon y tynnwyd ein sylw atynt gan unigolion, grwpiau gweithredu a gwleidyddion.

Mae cyngor y Comisiynydd wedi dylanwadu ar brosesau (ymgyfraniad) Llywodraeth Cymru  ac ar gynnwys y Polisi Cynllunio Cymru drafft – gan sicrhau naratif cryf ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy gydol y ddogfen a ffocws cyson ar y saith nod llesiant. Rydyn ni wedi sicrhau bod y dyheadau’n cynnwys cyfeiriadau cywir tuag at y pum dull o weithio, tuag at y nodau llesiant yn eu natur holistig, yn cynnwys carbon isel, cydraddoldeb a lleihad mewn tlodi.

Mae’r tîm hefyd wedi cynorthwyo Arolygiaeth Gynllunio Cymru a’r  Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r Ddeddf.

Byddwn yn parhau i adeiladu ar y berthynas ac ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn i sicrhau llif cyson yng ngwaith y dyfodol ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Llawlyfr Hyfforddi ar Ddatblygu Lleol.  Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynnwys arsyllu mewn nifer bach o wrandawiadau ac ymchwiliadau cynllunio lleol, a byddwn hefyd yn parhau i roi cyngor i unigolion a grwpiau ar sut i ddefnyddio’r Ddeddf wrth ddelio ag awdurdodau cynllunio lleol ac Arolygiaethau Cynllunio.

Mae’r tîm hefyd wedi cynorthwyo Arolygiaeth Gynllunio Cymru a’r  Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r Ddeddf.Byddwn yn parhau i adeiladu ar y berthynas ac ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn i sicrhau llif cyson yng ngwaith y dyfodol ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Llawlyfr Hyfforddi ar Ddatblygu Lleol.  Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynnwys arsyllu mewn nifer bach o wrandawiadau ac ymchwiliadau cynllunio lleol, a byddwn hefyd yn parhau i roi cyngor i unigolion a grwpiau ar sut i ddefnyddio’r Ddeddf wrth ddelio ag awdurdodau cynllunio lleol ac Arolygiaethau Cynllunio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn diweddaru’r gyfres o ddogfennau polisi cynllunio cenedlaethol, gan gychwyn gydag adolygiad llawn o Bolisi Cynllunio Cymru (y strategaeth gynllunio genedlaethol ar gyfer Cymru), ochr yn ochr â dyluniad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (y cynllun gofodol statudol cenedlaethol ar gyfer Cymru) a grëwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru).Mae’r Comisiynydd yn  croesawu’r ymrwymiad a ddangoswyd gan y Llywodraeth i ail-gastio polisi cynllunio yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’n galonogol bod y Llywodraeth wedi bod yn awyddus i weithio gyda ni  o’r cychwyn cyntaf. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Gynllunio i sicrhau bod polisïau cynllunio newydd yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol tra’n ymateb i bryderon y tynnwyd ein sylw atynt gan unigolion, grwpiau gweithredu a gwleidyddion.Mae cyngor y Comisiynydd wedi dylanwadu ar brosesau (ymgyfraniad) Llywodraeth Cymru  ac ar gynnwys y Polisi Cynllunio Cymru drafft – gan sicrhau naratif cryf ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy gydol y ddogfen a ffocws cyson ar y saith nod llesiant. Rydyn ni wedi sicrhau bod y dyheadau’n cynnwys cyfeiriadau cywir tuag at y pum dull o weithio, tuag at y nodau llesiant yn eu natur holistig, yn cynnwys carbon isel, cydraddoldeb a lleihad mewn tlodi.

Mae’r tîm hefyd wedi cynorthwyo Arolygiaeth Gynllunio Cymru a’r  Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r Ddeddf.Byddwn yn parhau i adeiladu ar y berthynas ac ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn i sicrhau llif cyson yng ngwaith y dyfodol ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Llawlyfr Hyfforddi ar Ddatblygu Lleol.  Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynnwys arsyllu mewn nifer bach o wrandawiadau ac ymchwiliadau cynllunio lleol, a byddwn hefyd yn parhau i roi cyngor i unigolion a grwpiau ar sut i ddefnyddio’r Ddeddf wrth ddelio ag awdurdodau cynllunio lleol ac Arolygiaethau Cynllunio.

Useful Resources