Yn dilyn cyhoeddi diweddariad i’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru gan Lywodraeth Cymru ar ddydd Llun, 4ydd Tachwedd, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi eu hasesiadau effaith carbon i ddangos sut y maent yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r cyhoeddiad yr wythnos hon o brosiectau a ariennir o dan Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’n cynnwys rhyw £2.5biliwn o fuddsoddiad cyfalaf yn y sector drafnidiaeth gyda rhyw £1.5 biliwn neu 64% o’r hyn y mae’r Llywodraeth yn cynllunio i’w wario yn y sector hwn yn cael ei wario ar brosiectau ffyrdd. Ar yr wyneb ymddengys fod hyn yn awgrymu bod y Llywodraeth yn anwybyddu’n gyfan gwbl y ffaith fod allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru, sector y mae ganddynt reolaeth drosto, yn parhau i gynyddu yn hytrach na lleihau.

Proses gyllideb 2019 yw’r gyntaf i gael ei chynnal ers i Lywodraeth Cymru ddatgan ei bod yn argyfwng hinsawdd ar Gymru a’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yw’r arwydd cyntaf o’r modd y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cymhwyso’r argyfwng hinsawdd i’w cynlluniau gwariant.

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru eto i ddatgelu sut fydd eu cynlluniau gwariant yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gwyrdroi dirywiad natur ar draws y gyllideb gyfan, ond yr wythnos hon cyhoeddasant sut y maent yn bwriadu buddsoddi mewn seilwaith mawr sy’n arwydd pwysig o ba mor ymroddedig y maent i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd ganddynt.

“Rydyn ni angen gweld Llywodraeth Cymru’n dangos ar frys sut y maent yn asesu’n dryloyw effaith carbon eu penderfyniadau cyllidebol, yn cychwyn gyda’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae’n anodd gweld sut y maent yn cymryd effaith carbon o ddifrif pan fydd 64% o’r hyn y maent yn cynllunio i wario ar drafnidiaeth yn wariant ar ffyrdd sydd fel y gwyddom yn cynyddu allyriadau’n gyffredinol.”

“Gobeithiaf y gall y Llywodraeth bwyntio at ystyriaeth ac asesiad eang o hyn, a fydd yn dangos sut mae eu cynlluniau gwariant yn lleihau allyriadau carbon yn gyffredinol, ond nid wyf wedi ei weld eto.

“Roedd fy nghynllun deg pwynt, a gyhoeddwyd ym Mehefin 2019 yn awgrymu sut y gallai’r gyllideb nesaf 2020-21 ariannu’r newid yn yr hinsawdd drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y bydd ganddi fanteision niferus i lesiant ehangach pobl yn cynnwys creu swyddi sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella iechyd pobl.

“Ni fedrwn aros am gylch cyllideb arall cyn ariannu’r camau sydd eu hangen i leihau’r newid yn yr hinsawdd.”

Mae Cynllun y Comisiynydd yn galw am:

– Fuddsoddiad o £240 miliwn yn y gyllideb nesaf (2020-21) – mwy o fuddsoddi mewn teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus, a seilwaith cerbydau trydan.

– £221 miliwn ar gyfer defnydd tir & datrysiadau seiliedig ar natur – cynnydd radical mewn gorchudd coed dros y ddau ddegawd nesaf – sy’n gofyn am fuddsoddiad o ryw £16 miliwn y flwyddyn dros y 10 mlynedd nesaf.

– Cymorth i fabwysiadu arferion amaethyddol carbon isel ac ailfeddwl arferion defnydd tir – £300 miliwn y flwyddyn a ddarperir ar hyn o bryd i gynorthwyo amaethyddiaeth a datblygu gwledig.

– £330 ar gyfer tai ac adeiladau – mwy o fuddsoddiad mewn rhaglen genedlaethol ôl-osod tai – gallai ffocysu i gychwyn ar dai sy’n byw mewn tlodi tanwydd a’r rhai hynny mewn perchnogaeth gymdeithasol gostio hyd at £1biliwn.

Daeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i’r casgliad canlynol:

“Nid yw’n ddigon i ddatgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd; rhaid i’r Llywodraeth gadw eu gair a dangos sut mae’r gyllideb yn adlewyrchu’r heriau hinsawdd yr ydym yn eu hwynebu. Mae angen i hynny gychwyn gydag ynganiad clir o’r modd y mae gwario ar brosiectau mawr yn cydfynd â thargedau datgarboneiddio, yn arbennig mewn trafnidiaeth lle mae allyriadau carbon yng Nghymru wedi cynyddu o 5% rhwng 2012-2017.

“Nid fedr hyn gael ei fodloni drwy ddatganiadau bachog yn unig; mae’n gofyn am benderfyniadau dewr a thryloyw oddi wrth y Llywodraeth.”