Skills image

Does dim prinder dadl a dadansoddiad ynghylch anghenion sgiliau economïau modern y dyfodol. O leddfu’r newid yn yr hinsawdd i effaith awtomatiaeth, mae yna dystiolaeth gynyddol a fedr bwyntio gwneuthurwyr polisi i’r cyfeiriad cywir. Ni fedr rhagfynegiadau fyth wneud mwy na chynnig darlun rhannol. O gadw mewn golwg raddfa a chyflymdra newid mae’n anodd rhagweld gyda chywirdeb y sgiliau penodol a fydd ar ein heconomi eu hangen yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae yna lawer nad ydym yn ei wybod. Adnabu ein dadansoddiad diweddar ni, mewn partneriaeth â NOCN, dri maes allweddol ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Mae’n rhoi crynodeb defnyddiol o’r bras feysydd y dylid ffocysu arnynt yn y dyfodol: sgiliau rheoli i sbarduno perfformiad a sgiliau digidol, cyflogadwyedd a sgiliau generig fel llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol a gwybyddol, a’r sgiliau technegol penodol a’r wybodaeth ar gyfer cynorthwyo’r trawsnewid i economi Deallusrwydd Artiffisial seiliedig ar sgiliau digidol.

Mae’r math hwn o ddadansoddiad yn dod yn norm mewn trafodaethau am heriau’r dyfodol. Yr her fwy i wneuthurwyr polisi yw nid yn unig ddiffinio’r sgiliau a fydd arnom eu hangen ond adeiladu seilwaith a fedr ddarparu cymorth priodol i unigolion, cyflogwyr a chymunedau. Rhaid i hyn olygu cymorth i’w helpu i wneud y penderfyniadau digidol cywir am eu dyfodol ac ail-galibro’r system fel ei bod yn hyblyg ac wedi ei dylunio o gwmpas anghenion dysgwyr.

Y cam cyntaf yw cydnabod natur yr her a datblygu cynllun i ddiwygio’r system i gwrdd â’r her hon. Yn gyntaf, rhaid i hyn olygu cydnabod y bydd arnom i gyd, o ystyried bywydau gwaith hwy a newidiadau cyflym mewn technoleg, angen y cyfle i ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd. Nid yw blaenlwytho  buddsoddiad mewn addysg yn nau ddegawd cyntaf ein bywyd bellach yn gynaliadwy. Mae arnom angen buddsoddiad gydol oes i alluogi pobl i addasu i’r newid technolegol a chymryd rhan mewn bywyd dinesig.

Yn ail, mae angen i ni wneud ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol yn rhan hanfodol o’n hymateb. Mae’r heriau technolegol a fydd ein heconomïau datblygedig yn eu hwynebu yn y degawdau sy’n dod mewn perygl o ddwysáu anghydraddoldebau yn hytrach na mynd i’r afael â hwynt. Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu y bydd y gweithwyr â’r sgiliau isaf yn gweld effaith mwyaf awtomatiaeth. Mae angen i’n polisi sgiliau fabwysiadu ymagwedd gytbwys sy’n cydnabod anghenion ar bob lefel. Mae sgiliau lefel uwch yn bwysig, ond felly hefyd bwysigrwydd sicrhau nad yw miloedd o ddinasyddion Cymru, yn cynnwys grwpiau sy’n cael eu hallgau, fel rhai sy’n gadael gofal a phobl anabl, yn cael eu gadael ar ôl ac nad ydym yn dwysáu’r anfanteision y maent eisoes yn eu hwynebu.

Adeiladu system o gwmpas bywydau pobl sy’n gweithio yw’r trydydd newid angenrheidiol. Y gwir yw, nad oes yna ddigon o bobl ifanc ar gael i ddiwallu anghenion sgiliau’r dyfodol yn yr economi, sy’n golygu bod angen i ni wneud mwy i wella sgiliau pobl sydd eisoes mewn gwaith. Yn anffodus mae toriadau mewn dysgu rhan amser mewn addysg bellach, a ffocws ar ddarpariaeth llawn amser i rai rhwng 16 a 24 mlwydd oed yn golygu bod yna nifer llai o gyfleoedd dysgu i oedolion nag yr oedd gwta ddegawd yn ôl. Mae ailadeiladu’r cyfleoedd hyn a rhoi mynediad i bobl i ddysgu gyda’r hwyr, penwythnosau, ar-lein ac yn y gymuned leol yn rhan o’r datrysiad.

Yn olaf, bydd angen cymorth ar bobl i ddarganfod eu ffordd drwy’r newid hwn. Mae mynediad i gyngor annibynnol ac arweiniad ar adegau allweddol o drawsnewid yn eich bywyd yn rhywbeth sy’n ‘rhaid ei gael’ o fewn system sgiliau modern. Ochr yn ochr â gwell cyfathrebu am fanteision dysgu, bydd llwybrau hyblyg a mynediad i ganllawiau o safon uchel yn gymorth gwirioneddol i helpu oedolion i fanteisio ar y gwerth y gellir ei gael o’r newidiadau sy’n dod i’n cyfeiriad.

Rhaid i ni beidio colli golwg ar y ddadl am sgiliau’r dyfodol. Mae’n rhaid iddi fod yn ddadl fywiog barhaus. Ond yr her wirioneddol yw symud y ddadl sy’n ymwneud  â’r hyn sydd arnom ei angen i ffocysu ar ddatblygu a chyflawni map ffordd sy’n dangos sut yr ydym yn cyrraedd y nod.