Mae angen gweithredu’n fwy grymus a ffocysu’n well os yr ydym i amddiffyn cymunedau rhag peryglon y Newid yn yr Hinsawdd, medd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn digwydd eisoes gydag 14 o’r hafau poethaf a recordiwyd erioed wedi digwydd ers y flwyddyn 2000. Mae adroddiad newydd gan Is-bwyllgor Ymaddasu’r DU yn nodi’r peryglon allweddol i’r DU – yn cynnwys cyfnodau o ormod o ddŵr a dim digon o ddŵr yn effeithio ar lifogydd a chynhyrchu bwyd, lefelau’r môr yn codi a chynnydd yng nghyfartaledd tymheredd a thymheredd eithafol yn effeithio ar iechyd a llesiant.

Mewn ymateb i’r Adroddiad Tystiolaeth Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU dywedodd Ms Howe:

“Mae dros 60% o bobl yng Nghymru’n byw a gweithio ger yr arfordir, yn cynnwys ein holl ddinasoedd mwyaf a llawer o drefi pwysig. Eisoes mae 222,000 o gartrefi mewn perygl o lifogydd ac mae’r ffigur hwnnw’n debygol o gynyddu ynghyd â’r £200 miliwn a amcangyfrifir y bydd ei angen i wyrdroi’r sefyllfa. Rhaid i lifogydd a newidiadau arfordirol gael eu gweld fel blaenoriaeth gydag asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn cymunedau. Rhaid i’n seilwaith fedru ateb y gofyn a thalu sylw i newidiadau yn y dyfodol yn cynnwys gwres a digwyddiadau tywydd garw iawn.

“Gall yr adroddiad hwn helpu i ffocysu a chryfhau gweithredu a byddaf yn gofyn i gyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i wella eu dealltwriaeth o’r camau sydd angen eu cymryd.

“Bydd yn rhaid mynd i’r afael â’r risgiau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac mae’n llawer gwell ein bod ni wedi paratoi yn iawn – rhaid i ni gydnabod a mynd i’r afael â pheryglon y newid yn yr hinsawdd yn cynnwys yr angen i leihau allyriadau carbon. Ond mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu rhai cyfleoedd posibl a all ddod yn sgil y newid yn yr hinsawdd, fel tymhorau tyfu hwy a chyfleoedd economaidd ar gyfer busnesau megis twristiaeth, ac rwyf eisiau gweld Cymru’n gweithredu nawr.”

Bydd angen i gyrff cyhoeddus ddangos sut y maent yn cefnogi Cymru fwy Ffyniannus a Chymru fwy Cydnerth, gan ddatblygu cymdeithas carbon isel, adeiladu cydnerthedd a’n gallu i addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Fel rhan o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd, bydd angen i gyrff cyhoeddus dalu sylw i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd wrth ddatblygu eu hamcanion llesiant, a chynllunio sut i gyflawni gwasanaethau yn yr hirdymor yn wyneb y peryglon a nodir yn yr adroddiad. Bydd angen hefyd i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ystyried sut y bydd y newidiadau’n effeithio’n lleol, wrth iddynt asesu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae tymheredd byd-eang yn torri pob record, ac er bod yna ymrwymiad rhyngwladol i leihau allyriadau er mwyn lleihau’r cynnydd mewn tymheredd, mae angen gweithredu’n gyflymach i leihau allyriadau, yn unol â’r Ddeddf Amgylchedd newydd, ac i sicrhau bod cymunedau’n cael eu hamddiffyn rhag effeithiau llifogydd a thywydd garw iawn.

Dywed Ms Howe, “Mae gan gyrff cyhoeddus ffordd bell i fynd cyn y byddant yn deall y camau taer y bydd yn rhaid iddynt eu cymryd i gwrdd â’r targedau hyn. Dylent fod yn arwain y ffordd drwy sicrhau eu bod yn lleihau allyriadau ar draws adeiladau cyhoeddus a thir, yn ystyried cerbydau trydan ar gyfer defnyddwyr ceir hanfodol a chynllunio gwasanaethau mewn ffordd sy’n meddwl am effaith amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol.”

Mae’r sector Iechyd eisoes wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi Cynllun ar y modd y gallant addasu i effeithiau hinsawdd yn cynnwys gorwresogi mewn adeiladau, trafnidiaeth gyhoeddus a pheryglon i ddarpariaeth gofal iechyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi chwarae rôl allweddol yn nhermau delio â digwyddiadau unigol megis stormydd yn ogystal â mynd i’r afael â thueddiadau sylfaenol megis newidiadau mewn glawiad tymhorol. Bydd prosiectau megis Greener Grangetown, sy’n cael eu cyflawni mewn partneriaeth â Dŵr Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd, yn helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb mewn 575 o eiddo gan ddarparu1600m2 o fannau gwyrdd newydd. Mae ganddynt hefyd rwydwaith gynyddol o Wardeiniaid Llifogydd sy’n cefnogi cymunedau lleol ar draws Cymru.