“Gyrrodd fy ngwraig a minnau LAN i’r Siop Fferm i gael brecwast yn Cross Hands – roedd hanner y gwefru wedi mynd – a fyddwn ni’n gallu cyrraedd adref… Beth ydw i wedi’i wneud?”

Transport

Roedd hynny ym mis Ionawr 2013. Fy nghar trydan (EV) cyntaf – Citroen C-zero gyda’i fatri cymharol fychan 14.5kWH. Roedd yn naid i’r tywyllwch go iawn.

Fy arbenigedd i oedd goleuadau ynni-effeithiol a chynnyrch adnewyddadwy. Roeddwn i’n gwybod fod angen gweithredu’n ddewr yn wyneb newid hinsawdd (roedden ni’n llai ymwybodol o lygredd awyr bryd hynny).

Gwyddwn y gallwn i wefru fy ngherbyd trydan o’m paneli solar ac y byddai dros 90% o’r ynni hwnnw’n mynd tuag at fy symud yn fy mlaen – o’i gymharu ag effeithlonrwydd o lai na 20% yn fy hen Galaxy.

Yr hyn nad oeddwn i’n ei wybod oedd sut i’w yrru a ble i wefru bant o gartref. I bob pwrpas, roeddwn i’n sownd o fewn 35 milltir i’m cartref yng Nghaerfyrddin. Roedd y garej agosaf oedd yn gallu rhoi gwasanaeth iddo ym Mryste. Fe allai fod yn her!

Llamwch ymlaen at heddiw – dwi’n gyrru fy nhrydydd EV ac rydym ni newydd archebu pedwerydd ar gyfer fy ngwraig. Dwi wedi gyrru bron i 100,000 milltir ledled Cymru. Maen nhw’n bleser pur i’w gyrru – peidiwch â sôn am y ‘torque’! Rydym ni wedi arbed cymaint o arian yn y pympiau.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC) adroddiad pwysig, yn dweud fod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys, yn anghymharol ac yn bellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cyfyngu cynhesu bydeang i uchafswm o 1.5 gradd Celsius.

Ar nodyn cadarnhaol, mae technoleg fel EVau, cynnyrch adnewyddadwy, peiriannau ynni isel, LEDs a gridiau clyfar wedi gweld cynnydd eithriadol ers 2013. Maen nhw’n cynnig atebion a chyfleoedd i bob un ohonom.

Yn achos EVau, gallaf ddweud yn ddiatal eu bod nhw’n llawer mwy o hwyl i’w gyrru, yn rhad i roi tanwydd ynddyn nhw, a bod ganddyn nhw gyn lleied o ddarnau sy’n symud, mai prin y bydd angen eu trwsio. Mae cwmnïau tacsi (@BlackpoolTaxis @candctaxis) yn adrodd am wneud 200,000 milltir, a’r unig bethau y mae angen eu newid yw llafnau’r weipars a’r teiars. Ychydig fel brwsh Trigger yn Only Fools and Horses!

Dwi’n rhedeg fy nghar i oddi ar PVau gymaint â phosib, ond dwi hefyd yn derbyn trydan gwyrdd, felly dwi’n rasio ar wynt a heulwen (Cam 1 os ydych chi am ymladd yn erbyn newid hinsawdd).

Sy’n dod â mi at fater llygredd awyr… sori. Mae’n beth tipyn yn frawychus, a dim ond dechrau mynd i’r afael ag ef rydym ni. Mae’n ymddangos, os ydych chi’n llosgi tanwydd ffosil, mae’r nwyon egsost yn ddrwg IAWN i ni.

Yn ôl y Sefydliad Iechyd Bydeang (WHO): “Dyw llygredd awyr ddim mond yn achosi problemau anadlu i blant ac oedolion,” esbonia Christian Schweizer, Swyddog Technegol yn Swyddfa Ewropeaidd WHO yn Copenhagen, “Mae hefyd yn achosi trawiad ar y galon, strôc, mae’n creu hafog i’ch system fetabolig, mae ganddo gyswllt â diabetes, ac fe all hyd yn oed effeithio ar iechyd plentyn cyn iddo gael ei eni.”

Mae e’n mynd yn ei flaen, fel nad oes rhaid i mi: “Un o’r achlysuron mwyaf arwyddocaol yn ein dealltwriaeth gynyddol o effeithiau iechyd ansawdd awyr oedd cyfathrebiad yn 2012 gan Asiantaeth Ryngwladol yr WHO ar Ymchwil i Ganser. Fe wnaeth hwnnw gategoreiddio allyriadau egsost disel fel rhywbeth pendant oedd yn achosi canser, gan ei roi yn yr un categori perygl uchaf ochr yn ochr ag ysmygu ac asbestos.”

Mae gan sawl lleoliad ledled y DU ansawdd awyr ANGHYFREITHLON. Mae ysgolion yng Nghaerdydd yn ofid arbennig.

Os ydych chi wedi darllen hyn hyd at y pwynt hwn, byddwch chi wedi casglu bod angen i ni gerdded, mynd ar gefn ein beic, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (a fydd yn cael ei drydaneiddio cyn bo hir?!) ac os oes wir angen i ni yrru car – rhannu EV.

Mae’r Alban yn newid y gêm o ran darparu pwyntiau gwefru trydan.

Ond os ydych chi’n byw yng Nghymru, byddwch yn barod i gael gwayw yn eich gwddf a daliwch eich pen-ôl yn dynn.

Bydd cipolwg sydyn at y map pwyntiau gwefru’n datgelu prinder enbyd o gyfleoedd gwefru ledled Cymru GYFAN.

Map

Mae’n debygol fod gan Milton Keynes fwy o bwyntiau gwefru na’n gwlad gyfan ni. Mae Dundee newydd ennill gwobr fydeang.

Yn y cyfamser, os ydw i eisiau ymweld â pherthynas i’r gogledd o Gastellnewydd Emlyn, mae’n dipyn o broblem…

Serch hynny, mae gobaith i ni yma yng Nghymru. Fe wnaeth Plaid Cymru sicrhau £2 miliwn ar gyfer isadeiledd EV yn y gyllideb ddiwethaf. Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad chwe wythnos o hyd yn cael ei gynnal gan Bwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau’r Senedd.

Cafwyd ffanffer enfawr wrth i wefrwr cyflym cyntaf canolbarth Cymru agor yng Nghletwr, Tre’r Ddol, Ceredigion, gan Polar. Er cymaint o groeso sydd iddo, mae angen parau o bwyntiau gwefru cyflym ar bob un o’n priffyrdd bob 30 milltir ar fyrder. Gallai pob un o’n meysydd parcio gael 10-20 gwefrwr cyflym.

Mae Carmarthenshire Energy (@CarmsEnergy) yn gweithio gyda’n Cyngor i ddatblygu strategaeth. Yn y cyfamser, mae’r galw am EVau newydd yn trechu faint sydd ar gael i’w cyflenwi o 3:1. Mae pris EVau ail-law wedi dyblu dros y 6 mis diwethaf.

Mae’r newid yn digwydd ac mae’n cyflymu. Bydd yr awyr lân yn blasu’n felys – yr holl ‘torque’ yna…!

Nawr mae angen i ni weld cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n deffro a chofleidio ‘gogoniant’ EVau.