Mae’r gymuned ryngwladol yn wynebu heriau enfawr yn ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd ac adnoddau sy’n prinhau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn dadlau os yr ydym yn gobeithio mynd i’r afael â’r cwestiynau mawr hynny, bydd ymgysylltu mewn dull cynaliadwy â pholisi lleol yn hollbwysig. Rwyf eisiau amlygu sut mae rhai o’r heriau polisi lleol a byd-eang yn cysylltu â’i gilydd drwy lens Trafnidiaeth Gymunedol.

Community Transport

Ar draws Cymru, mae gwirfoddolwyr a staff yn gweithio i ddarparu trafnidiaeth fforddiadwy i bobl er mwyn iddynt fedru byw bywydau llawnach, gan hyrwyddo annibyniaeth a chydnerthedd, heb fynediad i geir preifat.  Mae Cymdeithas Cludiant Cymunedol DU yn disgrifio trafnidiaeth gymunedol fel:

“darparu datrysiadau o dan arweiniad y gymuned sy’n hyblyg a hygyrch mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth nad ydynt yn cael eu diwallu. Mae gweithredwyr lleol yn defnyddio popeth o fws mini i foped, a gwasanaethau yn cynnwys cynlluniau ceir gwirfoddol, gwasanaethau bysiau cymunedol, cludiant ysgol, cludiant  ysbyty, deialu reid, olwynion i waith a gwasanaethau llogi grwpiau.

“Yn aml mae’n cynrychioli’r unig ffordd o deithio i lawer o bobl sy’n agored i niwed ac yn dioddef o arwahanrwydd, yn aml iawn bobl hŷn a phobl ag anableddau. Mae trafnidiaeth gyhoeddus bob amser yn cael ei rhedeg am resymau cymdeithasol a byth er mwyn elw; yn aml iawn dyma’r drafnidiaeth fwyaf dibynadwy, gydnerth a hygyrch o sicrhau y gellid cwrdd â’r ystod ehangaf o anghenion trafnidiaeth.”

Edrychwch yn fwy manwl, ac efallai y byddwch yn sylwi bod y disgrifiad uchod eisoes yn cynnwys (o leiaf!) y meysydd polisi canlynol:

  • Cymunedau
  • Trafnidiaeth
  • Iechyd
  • Addysg
  • Cyflogaeth
  • Cydraddoldebau
  • Unigrwydd ac arwahanrwydd

Yn ei hanfod, mae agenda Cenedlaethau’r Dyfodol yn edrych ar sut y medrwn ddefnyddio ein holl brofiadau mewn cymdeithas – profiadau busnes neu lywodraeth, neu elusennau a grwpiau cymunedol – er mwyn dod o hyn i ddatrysiadau i broblemau anodd, cymhleth a hirymarhous yn ogystal â heriau’r dyfodol. Mae’n rhaid i hyn gael ei wneud mewn dull sy’n gynaliadwy heb gael effaith niweidiol ar genedlaethau’r dyfodol.

Mae’r ‘sut’ mor bwysig â’r ‘paham’. Yn ddelfrydol mwya’i gyd o bŵer a roddwn i gymunedau, mwya’i gyd yr ydym i gyd yn dysgu am sut i fynd i’r afael â phroblemau, a chymunedau’n medru adnabod problemau a helpu i lunio datrysiadau. Ym mholisi ‘wonk-speak’ dyna a olygwn pan fyddwn yn adeiladu ‘cydnerthedd’ neu ‘gymunedau cydlynus’. Mae gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn rhan o’u cymunedau, wedi datblygu mewn ymateb i anghenion eu cymunedau, a ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r rhai a wasanaethir ganddynt.

I nodi amrywiaeth y polisi y mae trafnidiaeth gymunedol yn effeithio arno, mae’r graff canlynol yn dangos y gwahanol fathau o siwrneiau a wnaed gan un o’n gweithredwyr ym Mhenllyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

Chart

Mae gweithredwyr lleol yn adnabod ac yn ymateb i anghenion lleol, felly bydd y  cymarebau’n wahanol iawn mewn mannau eraill, ond mae hyn yn rhoi syniad o amrywiaeth y gwasanaethau y mae’r sector yn rhoi mynediad iddynt. Felly ar gyfer ein dibenion yn y fan hon ’Am Benllyn, gweler Cymru’.

Ar y cyfrif diwethaf, gwnaethpwyd 2 filiwn o siwrneiau a 6 miliwn o filltiroedd gan deithwyr yn defnyddio trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru.

Gyda symudiad – un priodol – tuag at integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus a thuag at newid arferion teithio ar lefel Cymru gyfan, mae angen talu sylw i hyblygrwydd a lleisiau lleol a mannau agored fel y gall y trydydd sector helpu i ddylunio datrysiadau sy’n cynorthwyo’r amcanion ehangach hyn.

Yn rhy aml, trafnidiaeth a mynediad yw’r rhan o’r jig-so nad yw’n cael ei gydnabod, ond rhan hollbwysig ar gyfer cyflawni pethau.

Mae trafnidiaeth gymunedol yn darparu un datrysiad, gyda mentrau megis ein Prosiectau Cysylltu Cymunedau yng Nghymru

Ar faterion ehangach, mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi dangos sut y gall trafnidiaeth gymunedol fod yn rhan o ddull gwahanol o feddwl  am symudedd a chael llai o geir ar y ffyrdd, fel ffordd o wrthwynebu prosiectau adeiladu ffyrdd traddodiadol megis yr M4. Fel y dywedodd y Comisiynydd  Sophie Howe yn ei hymateb i gynigion yr M4:

“Rhaid i’r Llywodraeth fedru dangos sut mae’r syniadau diweddaraf ar yr M4 (sy’n seiliedig ar gynigion a gyflwynwyd 25 mlynedd yn ôl) yn adlewyrchu datblygiadau diweddar..a yw’r cynllun wedi ystyried sut y gallai gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y dasg o gynorthwyo unigolion a chymunedau ledled Cymru drwy gynnig trafnidiaeth hygyrch a chydlynus i bobl heb fynediad i ddulliau eraill o deithiol am amryw resymau, gael eu hariannu neu eu gwella i leihau’r angen i deithio ar yr M4?

Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cymorth a ddarparwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol, gan ganiatáu ymyrraeth bositif gan gymunedau lleol a nifer mawr o actorion cymdeithasol i fynd i’r afael â materion anodd a dylunio’r datrysiadau i’w hanghenion.

.

Y 7 nod llesiant a nodir gan y Ddeddf fel rhai i  ni i gyd weithio tuag at eu cyflawni yw:

  • Cymru lewyrchus;
  • Cymru gydnerth;
  • Cymru iachach;
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus;
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu;
  • A Chymru sy’n gyfrifol ar lefel byd-eang.

Mae gwaith sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gymunedol yr wyf wedi ei hamlinellu yn chwarae rhan fach ond un bwysig yn y dasg o gyflawni’r nodau hyn. Ein huchelgais yw gwneud mwy i ddatblygu modelau ar gyfer  datrys problemau cymunedol sy’n ffurfio rhan hollbwysig yn y dasg o droi amcanion canmoladwy Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn realiti. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda grwpiau o bob cefndir er mwyn helpu i ddarparu datrysiadau i helpu pobl yng Nghymru i fyw ei bywydau i’r eithaf.