Mewn ymateb i rybudd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) bod cynghorau Cymru’n wynebu torbwynt ariannol, dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae caledi’n dechrau amharu o ddifri ar gynghorau Cymru ac mae hyn yn peri gofid arbennig o gofio bod Cynghorau’n darparu llawer o’r gwasanaethau sy’n cynorthwyo cymunedau i gadw pobl yn iach.

“Y gwirionedd yw bod y GIG yn llyncu cyfran fwy a mwy o’r gyllideb bob blwyddyn i drin afiechyd ac mae hyn ar draul gwasanaethau sy’n ffocysu ar gadw pobl yn iach yn y lle cyntaf megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau hamdden.

“Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod y mwyafrif mawr o wasanaethau sy’n cael yr effaith fwyaf ar iechyd a llesiant y genedl tu allan i’r gwasanaethau gofal iechyd, ac eto rydyn ni’n gwario 50% o’n cyllideb ar y gwasanaethau hyn sy’n cael eu cyfeirio at drin afiechyd yn hytrach na chadw pobl yn iach yn y lle cyntaf. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yn y boblogaeth nid yw’r sefyllfa hynny, i ddweud y gwir, yn gynaliadwy.

“Fy swydd i yw sicrhau bod y Llywodraeth yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac ni fedr sefyllfa wariant presennol yn y GIG  – lle nad  ydym yn gwneud digon o newidiadau ar gyfer atal afiechyd – barhau os yr ydym i sicrhau gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswyddau newydd ar bob corff cyhoeddus yn cynnwys y Llywodraeth a byrddau iechyd i ddangos sut y maent yn symud tuag at atal problemau rhag digwydd neu waethygu a sut y maent yn gweithio gydag eraill i wneud hyn.  Mae hynny’n gofyn am ailfeddwl sylfaenol am y ffordd y mae cyllidebau’n cael eu dyrannu.

“Mae hefyd angen cael disgwyliadau clir oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr hyn y dylai byrddau iechyd fod yn gwario eu harian, sut y dylent fod yn ariannu gwasanaethau ataliol ar y cyd â sefydliadau eraill a sut y byddant yn cael eu dal yn atebol am wneud hyn.

“Eleni byddaf yn adolygu cyllideb Llywodraeth Cymru i ystyried sut mae’r dyletswyddau cyfreithiol newydd wedi eu cymhwyso, gyda ffocws arbennig ar y modd y mae’r Llywodraeth yn symud tuag at wario ar wasanaethau ataliol.”

(Gweler diffiniad Llywodraeth Cymru o atal isod)

******

Diffiniad Llywodraeth Cymru o atal yw:

Atal yw gweithio mewn partneriaeth i gyd-gynhyrchu’r canlyniadau gorau posibl, gan ddefnyddio’r cryfderau a’r asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cyfrannu. Rhennir hyn yn bedair lefel a gall pob lefel leihau’r galw am yr un nesaf:

  • Atal sylfaenol – meithrin cadernid – creu’r amodau fel nad yw problemau’n codi yn y dyfodol. Dull gweithredu cyffredinol.
  • Atal eilaidd – targedu camau gweithredu mewn meysydd lle mae risg uchel y bydd problem yn digwydd. Dull gweithredu wedi’i dargedu sy’n cadarnhau egwyddorion cyffredinoliaeth gynyddol.
  • Atal trydyddol – ymyrryd pan fydd problem er mwyn ei rhwystro rhag mynd yn waeth ac i’w hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Dull gweithredu sy’n ymyriad.
  • Gwario acíwt – gwario sy’n gweithredu i reoli effaith sefyllfa negyddol iawn, ond sy’n gwneud ychydig neu ddim i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol. Dull gweithredu adferol.