Mewn ymateb i gyllideb ddrafft fanwl Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Cyllideb Llywodraeth Cymru yw’r penderfyniad (neu’r set o benderfyniadau) sengl mwyaf a wneir gan gorff cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Yn ogystal â phenderfynu sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu, mae proses a phenderfyniadau penodol y gyllideb yn anfon arwyddion pwysig am flaenoriaethau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ac a yw’r blaenoriaethau hynny’n symud yn unol â’r dyheadau a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Bydd hyn, mae’n amlwg, yn heriol i’r Llywodraeth gan mae’r gwir yw bod y GIG yn llyncu cyfran fwy a mwy o’r gyllideb bob blwyddyn i drin afiechyd ac mae hyn ar draul gwasanaethau sy’n ffocysu ar gadw pobl yn iach yn y lle cyntaf megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau hamdden.

“Fodd bynnag, dyma’r drydedd gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ers i’r Ddeddf ddod i rym ac yn awr rwy’n disgwyl gweld newid gwirioneddol yn y modd y mae proses a naratif y gyllideb yn adlewyrchu gofynion allweddol y ddeddfwriaeth.

“Elfen allweddol o hyn yw sicrhau bod y Llywodraeth yn glir am y modd y mae angen iddynt symud o wariant aciwt i wariant ar bolisïau a gwasanaethau sy’n atal problemau rhag digwydd. Er gwaethaf galwadau dros nifer o flynyddoedd a llawer o argymhellion oddi wrth Bwyllgorau’r Cynulliad ni chafwyd cytundeb erioed ar ddiffiniad o atal. Rwy’n falch felly bod y Llywodraeth, yn dilyn gwaith manwl a wnaethpwyd gennyf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’i swyddogion dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi cytuno ar ddiffiniad. Tra bydd yn cymryd amser i hyn gael ei ddeall yn llwyr ar draws y Llywodraeth, disgwyliaf weld sut y mae’n trwytho penderfyniadau gwariant ac yn hapus i weld peth dadansoddiad yng nghyllideb y flwyddyn hon.

“Mae’r gyllideb wedi ei strwythuro mewn dull mwy integredig, sy’n helpu i adlewyrchu strwythur adroddiad blynyddol ‘Ffyniant i Bawb’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac sy’n adlewyrchu’r gofyniad o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddatblygu a chyflwyno polisi mewn dull integredig. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i weld nad yw’r rhain yn ddim byd mwy na newidiadau cosmetig, ac i weld tystiolaeth eu bod yn cael eu hatgyfnerthu mewn gwahanol ffyrdd o weithio ar draws Llywodraeth sy’n creu amodau ar gyfer cyflawni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

“Byddaf yn defnyddio fy mhwerau i graffu ar y gyllideb ddrafft, gan ystyried yn arbennig bwyntiau allweddol y gyllideb gyfan a dadansoddi’n fwy manwl nifer o themâu ac amcanion llesiant.”

  • Iechyd meddwl, mewn perthynas â “Hyrwyddo iechyd da a llesiant i bawb”.
  • Datgarboneiddio, mewn perthynas â ‘Sbarduno twf cynaliadwy a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd”
  • Gofal cymdeithasol, mewn perthynas â ‘Chyflawni gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd da sy’n addas ar gyfer y dyfodol”.

Diffiniad Atal

Atal yw gweithio mewn partneriaeth i gyd-gynhyrchu’r canlyniadau gorau posibl, gan ddefnyddio’r cryfderau a’r asedau sydd gan bobl a llefydd i’w cyfrannu. Gan rannu i bedair lefel, gall pob lefel leihau’r galw am yr un nesaf:

  • Atal Sylfaenol (AS) – Adeiladu gwytnwch – creu’r amodau fel na fydd problemau’n codi yn y dyfodol. Dull gweithredu cyffredinol.
  • Atal eilaidd (AE) – Targedu gweithredu tuag at ardaloedd lle y mae risg uchel i broblemau ddigwydd. Dull gweithredu wedi’i dargedu, sy’n atgyfnerthu egwyddorion cyffredinoliaeth gynyddol
  • Atal trydyddol (AT) – Ymyrryd pan fydd problem, i’w hatal rhag gwaethygu ac atal iddi ddigwydd eto yn y dyfodol. Dull gweithredu ar sail ymyrryd.
  • Gwariant acíwt (GA) – Gwariant sy’n cymryd camau i reoli effaith sefyllfa hynod negyddol ond sy’n gwneud ychydig neu ddim byd i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol. Dull gweithredu adferol.

* cyffredinoliaeth gynyddol yw bod yn benderfynol o ddarparu cefnogaeth i bawb, gan roi llais a diddordeb penodol i bawb a phopeth, ond gan gydnabod y bydd angen mwy o gefnogaeth ar y bobl neu’r meysydd hynny sydd â’r angen mwyaf.

Cyllideb Ddrafft 2019-2020 Llywodraeth Cymru