Fel rhan o dîm o 8 o bobl ar secondiad, rydym wedi bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o un o brif raglenni Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol  Cymru sef ‘Y Gallu i Greu’.

Mae hyn wedi bod yn rhaglen arloesol, yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gyrff gwahanol o’r sector gyhoeddus, elusennau a’r trydydd sector i ddatblygu adnoddau a bydd yn galluogi i gyrff cyhoeddus Cymru, ac eraill dwi’n siŵr, i fedru wireddu’r ddeddf.

Y bwriad oedd i oleuo gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd, i ddangos bod hi yn bosib ac i rhoi hyder a hwb i’r rheini sydd yn barod yn fodlon gweithio’n wahanol i barhau ar y siwrne. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi gweledigaeth gwahanol o beth gall Cymru fod trwy weithio’n wahanol a gwneud penderfyniadau gwell er ein lles ni nawr ac er budd i genedlaethau’r dyfodol.

Crëwyd y brosiect yma mewn partneriaeth, yn unol a’r ddeddf ei hun, â nifer o sefydliadau ledled Cymru. Mi oedd Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o’r trafodaethau cyntaf am y potensial y gall y brosiect yma wireddu, ac yr wyf fi wedi bod yn gweithio’n benodol ar y nod o Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Mae’r nod ei hun yn eang, mae’n gofyn inni edrych efallai bach yn wahanol ar ein diffiniad presennol o ddiwylliant a meddwl yn fwy holistig. Mae diwylliant, yn golygu amgueddfeydd, archifau, celfyddydau, chwarae, chwaraeon, iaith, llyfrgelloedd a threftadaeth ac mae’r siwrne yn adlewyrchu’r diffiniad hwn.

Dros y 12 mis diwethaf dwi wedi bod ar daith yn gysyniadol a mewn realiti, i gwrdd â nifer o bobl gwahanol sy’n gweithio yn y meysydd hyn, i wrando, i fyfyrio ac i ddathlu llwyddiannau.

Mi ydyn ni’n ffodus iawn i fod yn gweithio ym myd diwylliannol Cymru. Mae Cymru ar flaen y gad yn rhoi diwylliant law yn llaw ag economi, yr amgylchedd a chymdeithas o ran meysydd datblygu cynaliadwy, ac i raddau mae pob un ohonom yma yn ymrwymo i bwysigrwydd diwylliant yn ein bywydau a’n cymdeithasau.

Ond mae arian cyhoeddus yn cael ei wasgu, mae na lai a llai o adnoddau o’n cwmpas; ac er taw creadigrwydd yw’r sgil pwysicaf inni fedru datblygu a meithrin fel unigolion wrth edrych I’r dyfodol, yn aml iawn diwylliant sy’n cael ei weld gan gyrff cyhoeddus fel y peth y gellid ei gwtogi.

Nod y siwrne hon yw i ddangos pa mor annatod yw diwylliant a’r iaith Gymraeg i les Cymru, a’r camau y gelid eu cymryd i gyrraedd y nod o Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Trwy 5 testun, rwyf wedi crybwyll y ffyrdd mae diwylliant a’r iaith Gymraeg yn cyfrannu i fwy na dim ond y pethau sy’n deniadol i’w cael.

O fewn pob testun amlinellir ‘camau’ tuag at newid: gweithrediadau yw’r rhain y dylai cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill eu cyflawni ar eu taith i wireddu’r nodau llesiant. Mae 7 siwrne arall hefyd wrthi’n cael eu lansio o gwmpas y nodau a ffordd o weithio, a dylid gweld ym mhob un ohonynt fel mae diwylliant a’r iaith Gymraeg yn treiddio iddynt ac yn helpu i wireddu’r cylch o nodau sydd yn gyfansawdd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.