Mae Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar statws y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cau HEDDIW.

Mae Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar statws y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cau HEDDIW. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion ar yr ymgynghoriad yma.

Dyma farn dau o bobl ifanc ar y cymhwyster.

Ethan Williams
@ethanwilliams28

Mae’r fagloriaeth Cymraeg yn rhoi llwyth o gyfleoedd i fyfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd a’i defnyddio nhw yn ymarferol wrth gyflawni prosiectau a thasgau, yn enwedig y radd uwch, sy’n cael ei chyflawni yn ystod flynyddoedd deuddeg a thair a’r ddeg yn yr ysgol, hynny yw yn ystod astudiaethau Lefel A. Mae’n rhoi sawl cyfle i fyfyrwyr trio pethau newydd ac mae gwahanol elfennau o’r cwrs ac sy’n siwtio pawb ac i siwtio’r ffyrdd gwahanol y mae myfyrwyr yn dysgu. E.e.. trwy weithio fel tîm, neu’n unigol, defnyddio sgiliau iaith a rhifedd ac mae hyd yn oed yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc creu prosiect creadigol fel cân neu ffilm yn ystod yr ymchwiliad unigol.

Yr Ymchwiliad unigol oedd y rhan a oedd o fwyaf o fudd i mi. Mae’n llawn sgiliau sy’n holl bwysig wrth symud ymlaen i addysg bellach yn y brifysgol ac yn bellach eto unwaith i mi ddechrau gweithio. Mae’r sgiliau yma’n cynnwys sut i wneud gwaith ymchwil, sut mae penderfynu pa wybodaeth neu ddata sy’n ddefnyddiol i’m mhwnc, sut mae penderfynu os mae ffynonellau yn ddilys neu beidio, a sut y mae ffeindio’r ffynonellau dibynadwy yn y lle cyntaf. Mae’n dysgu i chi sut y mae cynnal cyfweliad neu holiadur a defnyddio’r data neu wybodaeth gynradd yma yn eich ymchwiliad i ddatblygu safbwynt neu farn. Yr oedd hefyd yn hanfodol i ddangos sgiliau rhifedd Lefel 3 neu’n uwch ac felly y mae’r Fagloriaeth yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr i ddysgu’r sut mae defnyddio rhifedd yn effeithiol. E.e defnyddio gwiriad safonol i gyfrifo dilysrwydd pwyntiau data. Yn ogystal â hyn mae’r effaith ar sicrhau sgiliau cyfathrebu digidol da, a’r ffordd y mae’r prosiect yn cael ei strwythuro ac yn ymddangos ar ddogfen yn bwysig iawn, yn enwedig wrth baratoi i ysgrifennu traethodau hir yn y brifysgol, neu y bydd yn sgil bwysig ôl ymuno âr weithle mewn unrhyw faes.

Mae’r heriau eraill fel Her y Gymuned a’r Her Menter yn helpu pobl i weithio fel tîm ac i drefnu amser yn gywir, gyda’r Her Menter yn galluogi pobl ifanc i ddysgu sut mae’r byd busnes yn gweithio a’r Her Dinasyddiaeth Byd Eang yn rhoi cyfle i ni ymchwilio mewn i ddiwylliant a ffyrdd gwahanol o fyw ar draws y byd.

Mae’r fagloriaeth yn gymhwyster gwych sy’n galluogi myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol, gyda chryfderau a gwendidau gwahanol ffynnu mewn rhyw agwedd. Mae’n ffantastig hefyd gan ei fod yn rhoi cyfle i ddisgyblion sy’n ffeindio cyrsiau academaidd arferol megis Hanes, Mathemateg neu’r gwyddorau yn heriol, neu i rheina sy’n ffeindio strwythur cyrsiau (h.y dysgu, adolygu, sefyll arholiad) yn anodd. Mae’r fagloriaeth yn rhoi hwb ychwanegol i geisiadau UCAS myfyrwyr Cymru ac yn gwneud iddynt sefyll allan ymysg y degau o filoedd o bobl ifanc sy’n ymgeisio am lefydd prifysgolion pob flwyddyn. Er, credaf y dylai’r fagloriaeth fod yn opsiynol i fyfyrwyr o achos i’r amser hir y mae’n ei gymryd i’w gyflawni.

 

Matthew Williams
@mattjoseph93

Ewch chi i nunlle gyda normal, felly gwnewch rywbeth fydd yn eich gosod ar wahân

Daeth hi’n arferol i’r rhan fwyaf o bobl sy’n astudio Lefel-A yng Nghymru i astudio cymhwyster arall a elwir yn Fagloriaeth Gymreig yn ogystal. Mae’n teimlo fel amser maith ers i mi fod yn yr un sefyllfa, yn ôl yn 2011. Bryd hynny, roedd y Fagloriaeth yn gymhwyster newydd ac roeddwn i yn y flwyddyn gyntaf o ddisgyblion fy ysgol i gymryd rhan ynddi. Er, dyw’r ymadrodd ‘cymryd rhan’ ddim yn hollol addas, am mai cwrs gorfodol oedd hwn. Cefais fy nghynghori gan yr ysgol mai bwriad y Fagloriaeth fyddai rhoi’r un nifer o bwyntiau UCAS i fyfyrwyr â gradd A yn Lefel-A, ac y byddai’n ymestyn ein sgiliau cyfathrebu a rhifedd, ynghyd â rhoi cyfleoedd eraill i ni wirfoddoli a gweithio mewn timau. Er bod rhannau o hyn yn swnio’n ddigon apelgar, cofiaf yn glir fod rhywfaint o ddrwgdeimlad ymysg fy nghyfoedion am ein bod ni’n cael ein gorfodi i astudio rhywbeth heb ddim cyswllt â’r pynciau Lefel-A yr oeddem ni wedi dewis ymroi iddyn nhw. Roedd rhannau amrywiol y Fagloriaeth Gymreig yn ddigon uniongyrchol, ac roedden nhw’n cynnwys tasgau fel ysgrifennu traethawd 2500 o eiriau, gwneud cyflwyniad, gweithi mewn grŵp, sefyll prawf mathemateg a gwirfoddoli am 20 awr. Y broblem i mi gyda’r holl ymarferion hyn oedd fy mod i eisoes wedi bod yn gwneud y pethau hyn i gyd gydol fy ngyrfa yn yr ysgol, ac roedd hi’n anodd gen i weld sut roedd y cymhwyster yn darparu sgiliau newydd i mi.

Neidiwch ymlaen 7 mlynedd, a bellach rwyf wedi llwyddo i gael gradd Baglor a Meistr, wedi gweithio yn y sectorau ffasiwn, eiddo, addysg a darlledu – ond dwi’n dal yn ansicr sut y cefais fy helpu yn hynny i gyd gan y Fagloriaeth. Ar ôl cael canlyniadau da yn Lefel-A, doedd dim angen y Fagloriaeth arnaf i sicrhau lle mewn Prifysgol. Ac ar ben hynny, does yr un cyflogwr erioed wedi gofyn i mi amdano, pa sgiliau a ddeilliodd ohono, neu sut y gallai fy mhrofiad wrth ei astudio fod o fudd i’w busnes. I mi, mae hyn yn awgrymu dau bosibilrwydd: nad yw cyflogwyr yn gwybod beth yw’r Fagloriaeth Gymreig, neu eu bod nhw yn gwybod, ond eu bod wedi dod i’r casgliad nad yw’n gymhwyster perthnasol.

Barn gul a henffasiwn yw ystyried mai cymhwyster cyffredinol yw’r ateb i helpu pobl ifanc i symud i’r cam nesaf yn eu bywyd. Mae’n bwnc llosg yn y cyfryngau fod myfyrwyr yn dewis astudio am raddau nad ydyn nhw’n darparu sgiliau ymarferol ar gyfer y gweithle, ac sy’n gallu llesteirio’u gyrfa yn hytrach na’i hybu. Yr hyn sy’n cael ei anghofio’n aml mewn dadl fel hon yw’r camau sy’n digwydd cyn mynd i Brifysgol. Efallai y byddai gan bobl ifanc ymdeimlad cryfach o’u hunaniaeth eu hunain a’r hyn y maen nhw’n dymuno’i gael gan y byd pe bai rhywun yn dweud wrthynt am feddwl o ddifri’n fwy gofalus beth maen nhw eisiau’i wneud yn iau. Er fy mod i’n cytuno na ddylem ni gael ein cyfyngu i un llwybr gyrfaol am weddill ein bywyd o 16 mlwydd oed ymlaen, rydw i YN meddwl fod agwedd di-ddangos-ochr yn cael ei ynnal yn sgil cymwysterau cyffredinol, gan gynnwys y Fagloriaeth Gymreig.

Os yw’r system addysg eisiau helpu pobl ifanc Cymru, yna rhaid iddi roi’r gorau i wthio cyrsiau cyffredinol gorfodol arnyn nhw. Mae doethineb rhoi cymhwyster i rywun a rennir gan bawb, er mwyn eu helpu i fod yn berthnasol mewn marchnad swyddi orlawn, yn hollol henffasiwn. Os yw pobl ifanc am osod eu hunain ar wahân, rhaid iddyn nhw ddefnyddio’u menter eu hunain i fynd allan a chyfrannu rhywbeth at gymdeithas yn eu maes diddordeb cydnabyddedig nhw. Dylai ysgolion fod yn annog myfyrwyr i fynd ati i sefydlu busnesau e-fasnach, helpu cwmnïau nid-er-elw, neu archwilio’r diwydiant cychwyn technoleg.

Roedd pwy bynnag ddywedodd fod llai yn fwy yn gywir; po leiaf o amwysedd sydd yn eich llwybr gyrfaol, a pho leiaf o ymlyniad â chymwysterau niwlog, yna’r mwyaf o sylw sydd gennych i ganolbwyntio ar beth sydd wir yn digwydd yn y byd, a beth rydych chi wir eisiau’i wneud ynddo.

Logo with a hand and some tools
Skills September