Yn Nesta rydyn ni wedi treulio llawer o amser dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn meddwl am ddyfodol byd gwaith.

Yn sicr mae yna heriau’n ein hwynebu, ac oni bai ein bod yn ceisio deall sut y gellid lliniaru effeithiau negyddol, byddwn yn gwneud bywyd y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn anoddach – y rhai hynny heb deulu i’w cefnogi os byddant angen ailhyfforddi, neu rai sydd mewn swyddi heb amddiffynfa ddigonol i weithwyr.

Mae cerdded i mewn i’ch archfarchnad leol a gweld bod yr ariannwr wedi ei dd/disodli gan beiriant hunanwasanaeth yn ddigon i’ch atgoffa am effaith seismig technolegau ar swyddi.

Os ydyw Cymru’n mynd i wireddu galwadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – gan greu, ymhlith pethau eraill Gymru lewyrchus fwy cyfartal – mae angen i bawb, o’r rhai sy’n creu polisi i’r rhai sy’n cael eu cyflogi, i wybod a deall mwy am natur gwaith yn y dyfodol – y sgiliau sydd arnom eu hangen a ble byddant yn debygol o fod yn angenrheidiol.

Tueddiadau’r dyfodol

Er mwyn medru deall y dyfodol, edrychodd Nesta ar effaith tueddiadau yn cynnwys awtomatiaeth, yr ‘economi gwyrdd’ sy’n tyfu, a newidiadau demograffig ar y gweithlu i fyny at 2030. Rhagwelodd y darn hwn o ymchwil, mewn partneriaeth â Pearson, bod tua 10 y cant o weithwyr mewn galwedigaethau y disgwylir iddynt dyfu eu cyfran o’r gweithlu, tra bo 20 y cant mewn galwedigaethau y disgwylir iddynt leihau.

Yn ogystal â newidiadau yn y farchnad swyddi, rhagwelwyd pa sgiliau sylfaenol y bydd – neu na fydd – alw amdanynt yn y dyfodol. Yn arbennig amlygwyd yr angen cynyddol am grŵp o sgiliau ‘meddal’ a gwybyddol – o ddatrys problemau i sgiliau cyfathrebu – ochr yn ochr â gwybodaeth mewn meysydd eang yn cynnwys Saesneg, athroniaeth a gwyddoniaeth.

Ond mae hefyd yn debygol y bydd angen niferoedd cynyddol o sgiliau technegol a digidol drwyddi draw mewn swyddi yn y dyfodol. A dros y byd i gyd, yn cynnwys Cymru, mae llywodraethau wedi ceisio mynd i’r afael â rhai o’r heriau a fydd yn ymddangos yn y dyfodol drwy ‘fuddsoddi mewn sgiliau digidol’.

Edrychodd ein papur ar ‘gyflogaeth a sgiliau digidol yn y dyfodol’ ar 41 miliwn o hysbysebion swyddi, i adnabod y sgiliau digidol hynny sydd eu hangen ar hyn o bryd yn y swyddi hynny sydd fwyaf tebygol o dyfu erbyn 2030, a’r rhai hynny yn y swyddi sydd fwyaf tebygol o ddiflannu.

Efallai y bydd yr hyn a ddarganfuwyd gennym yn peri syndod. Mae’r “swyddi sy’n diflannu” mewn gwirionedd yn fwy tebygol o fod ag angen sgil ddigidol na’r rhai sydd fwyaf tebygol o dyfu. Mae hynny oherwydd bod yna swyddi a ragwelir fel rhai diogel heb fod ag angen llawer o sgiliau digidol ar hyn o bryd – yn cynnwys athrawon a chogyddion.

Lle mae gwir angen sgiliau digidol, maent yn amlwg yn wahanol mewn swyddi sy’n debygol o dyfu a swyddi sy’n debygol o leihau. Yr hyn sy’n gosod sgiliau digidol ‘addas ar gyfer y dyfodol’ ar wahân yw eu defnyddioldeb ar gyfer tasgau heb drefn reolaidd, datrys problemau a chreu cynnwys digidol.

Pobl a Pheiriannau

Mewn gair, os nad ydych yn gwneud dim mwy na mewnbynnu data, gall y bydd robot cyn bo hir yn medru gwneud y swydd hon yn eich lle. Ond os yr ydych yn creu rhywbeth gyda’r data hwnnw, mae eich swydd nid yn unig yn llai tebygol o ddiflannu ond rhagwelwn y bydd yn dod yn fwy pwysig. Gwelir sgiliau animeiddio, cynhyrchu amlgyfryngau a pheirianneg dylunio hefyd fel swyddi diogel eu dyfodol, tra nad oedd sgiliau clerigol megis teipio a phrosesu anfonebion yn perfformio cystal.

Ychydig iawn a olyga’r data hwn os caiff ei gyrchu’n unig gan yr elit. Yr un mor bwysig â’r bras argymhellion hyn yw bod myfyrwyr a’r rhai sy’n chwilio am swyddi yn deall mwy am ble bydd y cyfleoedd gyrfa ar eu gorau – a’r mathau o sgiliau, digidol a’r rhai mwy ‘dynol’ a werthfawrogir gan gyflogwyr.

Un ffordd o wneud hyn efallai fydd drwy ddefnyddio ‘tacsonomeg sgiliau’ ar gyfer y DU. Rydyn ni wedi dylunio un yn Nesta sy’n ein helpu i ddeall – gan ddefnyddio hysbysebion swyddi go iawn – sut mae sgiliau’n cysylltu â’i gilydd, pa swyddi sydd eu hangen, a hyd yn oed faint y gallent ychwanegu at eich cyflog. Dylai dulliau o weithio fel y rhain helpu i roi’r pŵer yn ôl i bobl fel y gallant benderfynu ar yr hyn y maent yn dymuno i’w dyfodol fod.

Eliza Easton, Prif Ymchwilydd Polisi, Economi Creadigol a Dadansoddiad Data
Rob Ashelford, Cyd-arweinydd a Phennaeth Y Lab (Rhaglenni)