Yn ystod yr Haf, fe wnaethom drefnu ein digwyddiad cyntaf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd. Y testun dan sylw oedd 'A ddylai robotiaid siarad Cymraeg?' Dyma ymateb Meilys ac Indeg oedd ar y panel.

Meilys Heulfryn Smith, Uwch Reolwr Trawsnwid – Cyngor Gwynedd
@MeilysHeulfryn

Pan ges i wahoddiad i gymryd rhan mewn sgwrs banel yn dwyn y teitl “A Ddylai Robotiaid Siarad Cymraeg?” yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, f’ymateb greddfol oedd “be ar wyneb daear ydw i’n w’bod am robotiaid?” Ond, roedd o’n gyfle i drafod dyfodol fy iaith, a do’n i ddim am fethu’r cyfle hwnnw!

Yn raddol, fe wawriodd arna’i. Wrth gwrs ‘mod i’n gwybod am robotiaid! Dwi’n siarad efo nhw bob dydd, mae nhw’n fy helpu gyda phob mathau o dasgau ac yn edrych ar fy ôl. Does ‘na fawr ohonyn nhw’n edrych fel bodau dynol, ond mae nhw’n bendant yn siarad efo fi!

Erbyn hyn, dydw i ddim yn cario atlas, gwylio rhagolygon y tywydd na phrynu CDs. Mae gen i apps, offer amrywiol, bob mathau o ‘chargers’ a’r gallu i roi a derbyn gorchmynion heb i unrhyw berson fod yna. Dyna ‘mywyd i. Cymraeg ydy fy iaith gyntaf ond yn raddol, dwi’n gweld bod nifer gynyddol o’r ‘sgyrsiau’ dwi’n eu cael drwy gyfrwng y Saesneg.

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn rhan o waith i ddatblygu profiad rhithwir i helpu pobl ddeall mwy am ddementia. Mae o’n bwnc sy’n ennyn llawer o emosiynau, ac roedd yn hanfodol bod y robot penodol hwn yn siarad Cymraeg a Saesneg. Fel arall, fyddai na ddim gobaith i bobl Cymru brofi, mor realistig â phosib, sut beth yw byw â dementia.

Roedd y prosiect technoleg rhithwir yma yn help i mi ddeall y gall technoleg siarad unrhyw iaith, os rhowch iddi gyfle ac os y caiff ei harfogi gyda geirfa a llais. Fyddai’r datblygiad dwyieithog hwn fyth wedi gweld golau dydd pe na baem wedi mynd ati i gomisiynu datblygiad dwyieithog, a sgriptiwr dwyieithog.

Mae technoleg yn rhan o fywydau cyffredin dydd i ddydd. Gallai adeiladu robotiaid Cymraeg ein helpu i gwrdd â’r targed i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fe allwn, ac fe yden ni’n arloesi yng Nghymru, a hynny yn Gymraeg. Fe roddodd sgwrs banel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yr hyder i mi y byddwn yn cerdded law yn llaw â llawer mwy o robotiaid Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol.

Indeg Williams ar robotiaiad
@IndegElen

Os meddwl am ‘robotiaid’ fel Apple Siri, Amazon Alexa, Microsoft Cortana ac yn y blaen, mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’r ‘robotiaid’ hyn yn siarad Saesneg. Er bod modd i chi reoli neu i holi eich ffôn symudol, cyfrifiadur neu’ch car yn Saesneg, mae rhestr hir o ieithoedd llai eu hadnoddau, fel y Gymraeg, sydd heb eu cefnogi gan y cwmnïoedd mawr hyn. Felly, ar y foment, dydy’r ‘robotiaid’ hyn ddim yn siarad Cymraeg. Ond dwi’n meddwl fod achos cryf y dylent.

Ar y foment, os hoffai deulu iaith Gymraeg ddefnyddio Alexa er enghraifft, mae’n rhaid i iaith y cartref newid i Saesneg. Oni ddylai siaradwyr Cymraeg gael y dewis i ddefnyddio’r Gymraeg os hoffent?

Er ei bod hi’n hwylus i allu cyfathrebu gyda’ch dyfeisiau, dylid cofio bod meysydd eraill all elwa o’r dechnoleg hon. Gall y cyfryngau eu defnyddio er mwyn archifo a chatalogio eu gwaith. Gall ysgolion ddefnyddio’r dechnoleg o fewn dosbarthiadau neu ddysgwyr hŷn fel offer ymarfer. Yn bwysicach fyth o bosib yw ei defnydd yn y maes iechyd. Drwy brosiectau fel Lleisiwr, mae modd defnyddio’r dechnoleg hon er mwyn bancio lleisiau cleifion a fyddai fel arall wedi colli eu Cymraeg am byth.

Rydw i ynghyd ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn casglu lleisiau Cymraeg er mwyn hyfforddi Macsen, ein cynorthwyydd personol deallus, i siarad Cymraeg. Y mwyaf o esiamplau sydd gan Macsen, y gorau fydd oll fydd y ‘robot’ hwn yn gweithio. Drwy gyfrannu eich lleisiau Cymraeg at apiau fel Paldaruo neu Mozilla CommonVoice, rydych yn cefnogi’r ymgyrch hon i sicrhau dyfodol digidol i’r iaith Gymraeg.

Mae ein ffordd o gyfathrebu wedi gweddnewid ac mi fydd hi’n parhau i wneud. Mae’n dod yn bur amlwg fod technoleg fel hyn yn rhan hollbwysig o sicrhau dyfodol ein hiaith ar gyfer y cenedlaethau nesaf.

Contributors speaking on the panel
Indeg and Meilys