Wrth i ni ddathlu Diwrnod ein Nawddsant Cenedlaethol yr wythnos ddiwethaf, cawsom ein hatgoffa o hunaniaeth ddiwylliannol gadarn ein gwlad a’i pherthynas â’r celfyddydau

Siaradais ddydd Iau diwethaf yng Nghyfarfod Blynyddol Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf yn Amgueddfa Stori Caerdydd.

Ar ôl darganfod pam y cafodd Greyfriars Road ei galw’n Greyfriars Road a hel atgofion am y storïau y dywedodd fy Mamgu wrthyf am ei hamser yn tyfu i fyny yn Grangetown a’r drygioni y bu hi a’i chyfnitherod a’i chefndryd yn ei gyflawni ar y llong ddrylliedig, yr Old Louisa, cefais gyfle i egluro pam fy mod o’r farn bod mynediad i’r celfyddydau a diwylliant yn rhan mor hanfodol o lesiant pobl.

Mae llawer iawn o waith da’n cael ei gyflawni mewn amgueddfeydd, nid yn unig yn eu rôl draddodiadol o fod yn warcheidwaid ein gorffennol ond hefyd yn y modd y gallant ein helpu i ffurfio’n dyfodol. Maent eisoes yn cynnig cymorth i bobl â dementia, drwy roi cyfle i wirfoddolwyr a thrwy ennyn ymgysylltiad plant a theuluoedd. Fodd bynnag, cânt eu hanghofio’n aml gan ddarparwyr gwasanaethau prif ffrwd a chaiff cyfleoedd i’w defnyddio ar gyfer cynorthwyo llesiant ehangach eu colli.

Os yr ydym i sylweddoli dyheadau meddylfryd integredig y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, dylem gydnabod y gall ac y dylai’r celfyddydau gyfrannu llawn cymaint tuag at gadw pobl yn iach, neu helpu’r rhai nad ydynt yn iach, â’r gwasanaeth iechyd; bod gan amgueddfeydd lawn cymaint o gyfraniad i’w wneud mewn darparu cyfleoedd i helpu pobl hŷn i osgoi arwahanrwydd ac unigrwydd â’n gwasanaethau cymdeithasol.

I amgueddfeydd ac orielau, golyga hyn wrth gwrs annog ymgyfraniad pobl – yn arbennig bobl ifanc – yn y gwaith a wneir ganddynt. Dengys Arolwg Omnibws Plant 2016 Cyngor Celfyddydau Cymru leihad o 5.8% yn lefelau’r bobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol unwaith y flwyddyn neu ragor. Sut y gall y sector celfyddydau wneud mwy i annog ymgyfraniad pobl ifanc yn y celfyddydau a’i wneud yn berthnasol i’w bywydau a sut y gallwn helpu ein gwasanaethau cyhoeddus prif ffrwd i’w gweld fel ased?

Yma yng Nghymru, rydym yn unigryw fel un o’r ychydig wledydd sy’n cynnwys ‘llesiant celfyddydol’ yn ein diffiniad o ddatblygu cynaliadwy. Mae’r agwedd holistig hon yn ystyried pa mor werthfawr y gall ymweliad â’ch amgueddfa leol, gweld ffilm yn y sinema neu sioe mewn theatr fod, i ansawdd bywyd person, ac ymdeimlad cymunedol o ddiwylliant.

Mae yna gyfle i’r celfyddydau agor drysau i Gymru fwy cyfartal. Gan ein bod yn gwybod bod addysg mewn celfyddydau a diwylliant yn gysylltiedig â sgiliau trosglwyddadwy gwell, sy’n dod â manteision nes ymlaen mewn bywyd, megis cyfathrebu, sgiliau cymdeithasol, a hyder, mae’n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod amgueddfeydd ac orielau celf yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru a’r hyn mae’n ei olygu i fyw yma.

Oherwydd ein bod yn gwybod bod gan ymdeimlad bywiog o ddiwylliant fanteision niferus ac integredig, gall cyfranogiad pobl hŷn yng ngweithgareddau celfyddydol nid yn unig wella’u hiechyd, gwella pwysau gwaed a lleihau pryder mewn cleifion cardiaidd, gall buddsoddiad lleol mewn celfyddydau a diwylliant adfywio ymdrechion creadigol masnachol lleol, gan helpu i adennill cydbwysedd mewn economïau sydd wedi gweld diwydiant traddodiadol yn dirywio.

Os yr ydym i wneud amgueddfeydd – mannau a gaiff eu gweld yn gyffredinol fel mannau sy’n cadw creiriau o’r gorffennol – yn berthnasol ar gyfer y dyfodol, mae’n rhaid i ni fod yn arloesol yn y modd yr ydym yn ymgysylltu ac ysbrydoli, a chydweithio’n effeithiol gyda’r sector cyhoeddus, gan sicrhau ein bod yn gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory