Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru wedi bod yn defnyddio’r asesiadau llesiant a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddeall sut y gallant gyfrannu i lesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol pobl yn eu hardaloedd.

Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, mae gen i ddyletswydd statudol i gynghori Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar y modd y gallent gymryd camau i gwrdd â’u hamcanion lleol yn eu cynlluniau llesiant. Dywed Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol bod yn rhaid iddynt ofyn am fy nghyngor ar hyn ac mae gen i 14 wythnos i ddarparu’r cyngor yn ysgrifenedig.

Mae hyn wedi rhoi cyfle gwych i mi ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar adeg hollbwysig yn eu cynllunio ac o’r cychwyn cyntaf, roeddwn yn dymuno i’r cyfnod hwn fod o’r budd pennaf iddynt. Ysgrifennais atynt i gyd yn Ebrill gan nodi ymagwedd seiliedig ar barhau’r sgwrs gyda swyddogion ac arweinyddion, cysylltu pobl â’i gilydd a chydnabod y rhwystrau i ddefnyddio’r Ddeddf yn effeithiol. Hefyd, cyhoeddais yr adroddiad Llesiant yng Nghymru: ‘Cynllunio Heddiw ar gyfer gwell yfory sy’n amlygu’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mae hyn wedi golygu bod fy nhîm dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi cwrdd â swyddogion ac aelodau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall sut y maent yn mynd ati i gynllunio llesiant a sicrhau bod fy nghyngor yn berthnasol a defnyddiol.

Mae wedi fy nharo bod pob ardal wedi mabwysiadu ymagwedd wahanol tuag at gynllunio llesiant ac mae fy nhîm wedi defnyddio’r sgyrsiau parhaus hyn i ddeall cyd-destun pob ardal, y ffordd y maent yn gweithio gyda’i gilydd a’u dyhead i weithio’n wahanol o dan y Ddeddf yn y dyfodol.

Mae’r cyngor a ysgrifennwyd fel canlyniad yn ddeublyg, y ddau yn awgrymu sut y dylai Byrddau barhau i fabwysiadu dulliau newydd o weithio i gwrdd â’u hamcanion drafft, a chyngor seiliedig ar bynciau, sy’n rhoi cyngor ar y modd y gallent gymryd camau i gwrdd â’r amcanion hyn.

Mae rhan gyntaf y cyngor yn awgrymu bod angen i Fyrddau gymryd amser a rhoi gofod iddynt  hwy eu hunain i herio’r modd y mae pethau wedi cael eu gwneud yn y gorffennol, a dangos yn glir sut y maent wedi pennu eu hamcanion drwy ddefnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum dull o weithio.

Er enghraifft, ar gyfer pob amcan, beth mae arweinyddion yn ei ddeall am dueddiadau hirdymor, y cyfleoedd, y risgiau a’r senarios tebygol ar gyfer y mater hwn? A ydynt wedi archwilio’r problemau sydd wrth wraidd y mater ac wedi ystyried pa bryd fyddai’r adeg orau i ymyrryd? Ydy’r bobl gywir ganddynt o gwmpas y bwrdd, ar y lefel gywir i wneud penderfyniadau ar y mater hwn? Sut maent yn mynd i symud i ffwrdd oddi wrth yr arfer o wneud yn unig yr hyn sydd ei angen i gwrdd â’r amcan, ac yn hytrach, ddangos eu bod yn cymryd camau sy’n macsimeiddio’u cyfraniad i bob un o’r saith nod llesiant cenedlaethol? Sut  y maent yn deall profiadau bywyd pobl yn eu hardaloedd a sut mae hyn yn llunio eu gweithrediadau?

Mae ail ran y cyngor wedi ei deilwra’n unigol, yn eu cyfeirio at adnoddau defnyddiol a chysylltiadau a sefydliadau, yn cynnwys cyfeiriadau at waith rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cychwyn y sgwrs hon ac, hyd yn hyn, mae tri Bwrdd wedi derbyn fy nghyngor. Erbyn Tachwedd 2017, bydd cyngor wedi ei roi i bob un o’r 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd llawer yn ymgynghori ag ystod eang o bobl ar eu cynlluniau llesiant drafft.

Erbyn Mai 2018, bydd pob arweinydd wedi cyhoeddi eu cynllun llesiant lleol gan ein symud un cam arall ymlaen ar ein siwrnai i greu gwell yfory.