Mae straeon am newid hinsawdd yn dod yn fwy cyffredin ar draws ein sianelau newyddion. Llifogydd, ymfudo, methiant cynaeafau, iechyd cyhoeddus– mae effaith newid hinsawdd yn eang ac amrywiol. Efallai y bydd y cynnydd dipyn wrth dipyn hwn mewn gweithgaredd newid hinsawdd yn arwain at fwy o sylw pan fo straeon amgylcheddol yn cystadlu am ofod ar newyddion ein sianelau radio a theledu ac mewn colofnau papurau newydd.

Dyw hi erioed wedi bod mor hanfodol cael cynrychiolaeth gywir a mwy o sylw i ganlyniadau newid hinsawdd. Lleisiwyd yr angen hwn gan wyddonwyr a dinasyddion gofidus o bob cwr o’r byd.

Ym mis Gorffennaf eleni, ymddangosai fel pe bai trydariad gan wasanaeth tywydd y BBC wedi colli’r pwynt yn llwyr drwy ddathlu darpar dymheredd i dorri record yn y DU, gyda rhyw ymdeimlad o falchder gwladgarol. Yn naturiol, enynnodd hyn ymateb a thynnodd sylw at yr angen i gael dull cywirach o fynd ati i weld ac adrodd ar effeithiau newid hinsawdd.

Mae cyn-ddyn-tywydd y BBC, Bill Giles, hefyd wedi lleisio’i gred y dylai rhagolygon y tywydd gynnwys newid hinsawdd, gan drawsnewid eu fformat presennol i ateb y sefyllfa wir “yn fwy cadarn ac agored”. Wrth i lefelau’r arian byw godi, dylid cyfeirio at newid hinsawdd. Pan fydd ansawdd awyr yn wael, dylid cyfeirio at newid hinsawdd. Pan fyddwn ni’n cael storm sy’n cael ei gyrru gan symudiad yn El Niño, dylid cyfeirio at newid hinsawdd.

Gall gofidiau am yr amgylchedd deimlo ar wahân i’n bywydau beunyddiol yn aml. Stori gyfryngau ddi-wyneb sy’n cyfeirio at fannau pell i ffwrdd fel glannau’r Ynys Las. Rwy’n eitha siŵr y byddai cynulleidfaoedd Cymru’n deall mwy ac yn cael llai o fraw pe bai Derek Brockway ac eraill yng Nghymru’n trafod y cyswllt rhwng cynnydd mewn lefelau CO2 a’i effaith ar Gymru.

Ymysg yr holl alwadau hyn i newid, ceir enghreifftiau o ymdriniaeth y cyfryngau’n dod i delerau â’r newidiadau sydd angen eu gwneud. Aeth rhaglen y BBC Climate Change – The Facts ati i ymdrin ag effeithiau newid hinsawdd fel canolbwynt y rhaglen, gan symud i ffwrdd oddi wrth yr ymddangosiadau byrion y bydd heriau amgylcheddol yn tueddu i’w gwneud. Fe bwysleisiodd y rhaglen yr heriau a wynebir gennym, gan ddangos yn glir sut y mae newid hinsawdd yn mynd i effeithio’n uniongyrchol arnom, ac yn fwy pwysig, beth allwn ni wneud yn ei gylch.

Rhaid i’r neges fod yn gywir ac yn ddeniadol er mwyn sbarduno newid. Er mwyn gyrru gweithredu gwleidyddol yng Nghymru, rhaid i ni dynnu ar fudiad mwy o faint o blaid dyfodol carbon isel, a phawb yn glir ynghylch beth yw’r naratif yng Nghymru. Mae gan newyddiadurwyr rôl hanfodol o ran datblygu a ffurfio’r neges honno. Yn y pen draw, bydd ein penderfyniadau a’n gweithredoedd gwleidyddol yn cael eu herio ar lwyfan y byd.

Defnyddiwyd dull cyfathrebu canmoladwy gan Lywodraeth Cymru ar ôl iddynt gomisiynu ymchwil i’r naratifau a geir o gwmpas newid hinsawdd a fyddai’n taro deuddeg gyda’r cyhoedd. Dangosodd y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y papur Hearth and Hiraeth, ei bod hi’n bosib cynllunio ieithwedd newydd o gwmpas yr amgylchedd sy’n siarad yn llawer mwy effeithlon â gofidiau go iawn pobl. Drwy gofleidio gwerthoedd diwylliannol Cymru, roedd modd i negeseuon amgylcheddol dreiddio i naratif cyfun a siarad â phob grŵp mewn poblogaeth amrywiol. Felly yn hytrach na dathlu hinsawdd sy’n cynhesu fel hyn, ymddengys fod hyrwyddo symud i gyfeiriad datgarboneiddio yn well strategaeth ar gyfer cyfathrebu newid hinsawdd.

Mae gan ein cyfryngau gyfrifoldeb enfawr, nid yn unig i adlewyrchu sut rydym ni’n byw heddiw, ond sut le fydd Cymru’r dyfodol. Does gan yr heriau a wynebwn o gyfeiriad newid hinsawdd ddim byd cyfatebol i’w gymharu ag ef yn yr oes sydd ohoni ac felly rhaid i ni greu lle ar gyfer cael sgyrsiau gwybodus ac anodd. Sut mae newid hinsawdd yn effeithio’r lle ble rydw i’n byw, a sut y mae hynny’n cael ei drin? Sut y bydd gweithluoedd yn addasu i symudiad yn y marchnadoedd swyddi? Pa sgiliau fydd eu hangen arnom, a sut mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn paratoi ar gyfer y dyfodol? Sut allwn ni ddatgan argyfwng hinsawdd, ond heb ddim manylion ynghylch y cyllid sy’n angenrheidiol ar gyfer taclo un? Po fwyaf y byddwn ni’n deall y pwyntiau allweddol hyn, a pho fwyaf y bydd y neges yn atseinio, y mwyaf tebygol yw hi y bydd y cyhoedd nid yn unig yn ymddiddori yn ymdrechion gwleidyddol  llywodraethau lleol a chenedlaethol o ran taclo newid hinsawdd, ond hefyd yn mynnu gweithredu drostynt eu hunain.

Nid stori ddiarbed o dywyll mo hon. Mae dulliau newydd yn cael eu cymryd yn barhaus ac mae manylion yn cael eu hystyried yn fwy trylwyr nag erioed o’r blaen. Ceir tystiolaeth glir o hyn yn yr ystyriaeth a wnaed gan bapur newydd y Guardian yn 2019 o’i ganllaw arddull a pha ieithwedd i’w defnyddio er mwyn portreadu newid hinsawdd.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi tynni sylw at ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ar ôl iddi gyhoeddi papur trylwyr ar sut y gellid ariannu argyfwng hinsawdd, yn unol ag argymhellion cyllidebu Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd. Mae buddsoddi mewn defnydd blaengar o dir, trafnidiaeth, ynni adnewyddadwy a thai oll yn ddulliau dichonadwy o ddod ag economi garbon isel i’r fei. Bydd cyhoeddi cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru’n rhoi arwydd o’u hymrwymiad i leihau allyriadau a symud i economi carbon isel. Rhaid i’r cyfryngau graffu ar y gyllideb hon ac ymrwymiadau polisi sy’n deillio ohono, er mwyn darparu eglurder a her.

Mae cynyddu’r pwysau’n hanfod a dylai barhau. Mae gan y cyfryngau rôl allweddol i’w chwarae wrth sicrhau fod hyn yn digwydd drwy gyfrwng riportio manwl, cywir sy’n denu’r cyhoedd ac sy’n eu gyrru i gadw’r pwysau ar gyfrifoldeb llywodraethol er mwyn ein symud tuag at ddyfodol carbon isel.