Mae oddeutu chwarter pobl Cymru’n byw mewn tlodi, dim ond 1% o brentisiaethau yng Nghymru sy’n cael eu llenwi gan bobl anabl ac mae tueddiadau gwaith yn y dyfodol yn awgrymu bod 65% o’r swyddi sydd mewn perygl o gael eu hawtomeiddio’n cael eu gwneud gan fenywod.

Mae’r canllawiau a ddatblygwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru ac eraill, yn rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar y camau ymarferol sydd angen iddynt eu cymryd i wella ffyniant mewn modd sy’n mynd i’r afael â chaffael teg a lleol, gwaith gweddus, economïau lleol, a’r symudiad tuag at gymdeithas garbon isel a sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Un o nodweddion unigryw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw ein diffiniad o ffyniant. Nid yw’n mesur llesiant yn y dulliau traddodiadol megis faint o arian yr ydym yn ei ennill, faint yr ydym yn cyfrannu tuag at yr economi neu werth ein nwyddau a’n gwasanaethau. Nid yw’n cyfeirio o gwbl at ein Cynnyrch Domestig Gros, neu ein Gwerth Ychwanegol Gros.

“Ein hagwedd yw mesur yr hyn sydd o bwys, megis gweithlu medrus, aer glân, sut yr ydym yn cyrchu trafnidiaeth gyhoeddus, a chynorthwyo economïau lleol cynaliadwy. Mae hyn yn rhan o symudiad tuag at economïau llesiant, sy’n tyfu, lle mae gwledydd megis Seland Newydd yn dilyn arweiniad Cymru.

“Mae’r ddeddfwriaeth yn galw ar gyrff cyhoeddus i gyfrannu tuag at gymdeithas arloesol, gynhyrchiol, garbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd) ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith gweddus”.

“Mae cyrff cyhoeddus yn gwario £6 biliwn y flwyddyn ar ddarparu gwasanaethau ac mae hwn yn faes lle gellir gwneud newidiadau sy’n cyfrannu tuag at gynhyrchu prentisiaethau, lleihad mewn allyriadau carbon, prynu oddi wrth fusnesau lleol ac ymgorffori ystyriaethau iechyd. Rhaid i ni gaffael nwyddau a gwasanaethau sy’n cyfrannu i lesiant byd-eang, sy’n lleihau allyriadau carbon ac sy’n cefnogi economi cylchol. Rwy’n croesawu’r ymagweddau a fabwysiadwyd gan Sir Fynwy, cynghorau Powys ac Amgueddfa Cymru sydd wedi diwygio’u prosesau caffael er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon.

Mae Cyngor Powys wedi lansio ‘Punt Powys’ fel ymrwymiad i hybu’r maint o arian sy’n cael ei wario gyda busnesau Powys. Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn disgrifio cynlluniau manteisiol i’r gymuned a ddefnyddir wrth ailddatblygu Amgueddfa Sain Ffagan, oedd yn cynnwys lleoliadau gwaith, oriau prentisiaeth a chyflogi’r gweithlu lleol gyda buddsoddiad cyffredinol o dros £27 miliwn yn economi Cymru a’r DU”.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â pha mor barod yw gweithlu’r sector cyhoeddus ar gyfer darparu gwasanaethau digidol yn y dyfodol. Mewn papur trafod a gyhoeddir yn ystod y mis nesaf bydd y Comisiynydd yn dweud y bydd yn ofynnol i weithwyr llwyddiannus y dyfodol fedru addasu a bod yn hyblyg yn eu setiau sgiliau, gyda’r gallu i ddadansoddi ac ymateb i amgylcheddau cymhleth a chyd-destunau. Bydd y papur yn amlinellu’r hyn y gall y system addysg ei wneud i gyfrannu i hyn.

“Yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu hadolygiad o arloesedd digidol ar gyfer yr economi i asesu realiti a thueddiadau a fydd yn llunio dyfodol gwaith ac mae’n glir fod angen i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer gweithluoedd y dyfodol, gan adnabod bylchau mewn sgiliau a datrysiadau, sicrhau bod yna gyfleoedd digonol ar gyfer dysgu gydol oes. Mae hyfforddi yn y gweithle a buddsoddi yn y celfyddydau a chwaraeon yn hanfodol ar gyfer sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau creadigol.” Mae’r Comisiynydd yn galw ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gymryd camau mwy eofn tuag at Gymru Lewyrchus drwy:

  • Sbarduno arferion sy’n creu cyfleoedd gwaith gweddus
  • Ddatblygu gweithlu medrus amlddisgyblaethol a fedr ymateb i newidiadau technolegol y dyfodol
  • Megis ‘Effaith Blaenau Gwent’ sy’n defnyddio’r Sefydliad Siroli i gyflawni datblygiad cymunedol ac economaidd lle mae unigolion yn ganolog.

“Mae’r diffiniad unigryw hwn o ffyniant yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni drawsnewid mewn dulliau eofn a gwell drwy fuddsoddi mewn arloesi, bod yn rhagweithiol, a rhannu dysgu fel y gallwn wyrdroi’r tueddiadau sy’n dangos dirywiad cyson mewn canlyniadau iechyd, cyfoeth a bioamrywiaeth.”

Bydd yr adnodd yn cael ei lansio yng Nghynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru a gynhelir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru yn Llandudno, ar ddydd Mercher, 25ain Medi.