Y penwythnos hwn bydd pobl o bob rhan o Gymru’n dod at ei gilydd i ddathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn nigwyddiad Pride Cymru.

Stonewall Cymru
Stonewall Cymru

Efallai eich bod chi’n un o’r rhai a fydd yn ymuno yn y digwyddiad eleni neu’n un o’r rhai a fydd yn dangos eich cefnogaeth mewn rhyw ffordd arall. Efallai eich bod yn un o’r bobl sy’n credu ein bod erbyn hyn wedi ennill llawer o hawliau sylfaenol dros y degawd diwethaf yn dilyn brwydr galed ac nad oes angen y fath ddathlu amlwg, neu efallai eich bod yn un o’r rhai hynny sy’n methu derbyn ein rhywioldeb…

Er gwaethaf newid cymdeithasol a diwylliannol enfawr tuag at ddathlu amrywiaeth, mae ffordd hir iawn i fynd cyn y bydd rhagfarn yn cael ei dileu.

Mae dros 54% o blant a phobl ifanc Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) wedi profi bwlio oherwydd eu rhywioldeb yn ein hysgolion, dros 90% o bobl LGBT wedi profi cam-drin geiriol, 70% o bobl LGBT yn teimlo’n anghyfforddus yn dal dwylo’i gilydd yn gyhoeddus a dau mewn pump o bobl ifanc LGBT (41%) wedi ceisio cyflawni hunanladdiad ar ryw adeg. Nid yw’r rhain yn ffigurau sydd mewn gwirionedd yn portreadu cydraddoldeb go iawn.

Mae’r ystadegau uchod yn ein hatgoffa ni o’r angen am ddigwyddiad Pride a’i berthnasedd. Mae’r gymuned LGBT yn dal i wynebu llawer o heriau a rhwystra; mae’n hollbwysig ein bod yn dal i weld dathlu Pride yn 2018 fel ymgyrch dros gydraddoldeb, yn yr un modd â gorymdaith dinasyddion Efrog Newydd yn ôl yn 1970, flwyddyn ar ôl terfysgoedd Stonewall a enynnodd fudiad i frwydro dros hawliau a chydraddoldeb LGBT.

Mae tyfu i fyny’n hoyw yng Nghymru wedi bod yn brofiad cymysg, yn bennaf yn un cadarnhaol, ond byddai’n anwiredd i  ddweud nad wyf erioed wedi profi rhwystrau’n seiliedig ar fy hunaniaeth fel unigolyn hoyw. Tyfais i fyny mewn ardal wledig Gymraeg ei hiaith, ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy ynysu ac o dan bwysau i ‘ffitio mewn’, heb fedru rhannu fy meddyliau a’m teimladau.

Roedd rôl-fodelau o fewn cymuned Gymraeg ei hiaith yn brin a hyn yn adlewyrchu fy mhrofiadau a’m dewisiadau, ac eithrio ambell i rediad stori, yn awr ac yn y man ar y Teledu. Mae amlygrwydd materion a phobl LGBT yn hanfodol ar gyfer sicrhau ein bod yn cael ein cynrychioli. Os nad yw person yn medru uniaethu â’r hyn y maent yn ei weld o’u hamgylch, yna bydd y naratif o fod yr ‘arall’ bod amser yn bodoli.

Roedd yn fath foment o falchder ac yn brofiad ysgubol i mi’n bersonol i fedru gweithio ar ymgyrch Mas ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol a roddodd lwyfan a chyfle i’r gymuned LGBT Gymraeg ei hiaith gwrdd â siarad yn ein mamiaith.

Efallai ei fod yn swnio’n ystrydebol ond rydw i wir yn teimlo’n bositif am y dyfodol. Cefais gymaint o lawenydd pan wnaeth Llanilltud Fawr, pentref bach, arfordirol, ddatgan eu bod yn cynnal eu dathliadau Pride eu hunain; dychmygwch bob pentref, tref a dinas yng Nghymru’n cynnal eu dathliadau Pride hwy eu hunain a’r effaith a fyddai hyn yn ei gael ar herio a dileu cam-drin geiriol, megis ‘rwyt ti mor hoyw’ i gam-drin corfforol llawer mwy difrifol.

Neges i genedlaethau’r dyfodol: Rydw i wedi ymrwymo i weithio tuag at Gymru decach a mwy cydraddac mi fydda i’n un o’r bobl hynny a fydd yn gweiddi, canu a dawnsio tra’n dathlu amrywiaeth y penwythnos hwn, a hynny gyda balchder.

Y penwythnos hwn byddaf yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda fy ffrindiau LGBT a’u teuluoedd ac fe fydda i’n falch am byth i fod yn #ProudToBeMe.

Iestyn Wyn |

This weekend I will stand shoulder to shoulder with my LGBT friends and family and I will forever be #ProudToBeMe Iestyn Wyn |
Iestyn Wyn, Stonewall Cymru
Iestyn Wyn, Stonewall Cymru