Mae’r celfyddydau wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Pan oeddwn i’n blentyn, byddwn i’n llenwi tudalennau’n llawn o syniadau am nofelau. Byddwn yn treulio oriau’n creu cymeriadau ac yn ysgrifennu darnau a ysbrydolwyd ganddynt. Aeth pethau i’r fath raddau ar un adeg pan mai’r unig anrheg y byddwn i’n ei gael ar fy mhen blwydd fyddai llyfrau nodiadau. Fe fyddwn i hefyd yn gwneud lluniau o bethau fyddai’n fy ngwneud i’n hapus – anifeiliaid hardd a gwisgoedd y gallai ‘Meha hŷn’ eu gwisgo. Roedd y cyfan yn lot o sbort.

Elephant photo
Llun eliffant a dynnwyd yn 2011. Rydw i wedi dwlu ar anifeiliaid erioed, ac mae hyn yn cael ei arddangos yn fy ngwaith celf.

Fe wnaeth fy chwaer ganmol fy ymrwymiad i wneud lluniau ac i ysgrifennu, ac fe wnaeth fy rhieni sicrhau bod fy ngwaith yn cael ei roi i mewn i gystadlaethau; fe enillais ambell un. Wrth i mi fynd yn hŷn, er bod fy rhieni’n falch o fy nghariad at y pethau hyn, fe wnaethon nhw fy annog i ganolbwyntio ar bynciau academaidd fel y gwyddorau a mathemateg. Am fod gan fy nau riant yrfaoedd sefydlog yn y maes gofal iechyd, roedden nhw am i mi a fy chwaer gael yr un sicrwydd at y dyfodol. Fe wnes i wrando arnyn nhw a dechreuais weld fy nyfodol ym maes gofal iechyd. Cyn bo hir, cyfyngwyd darlunio ac ysgrifennu i’r adegau pan oeddwn i’n teimlo’n ddigalon ac eisiau cysur hen ffrind.

Wrth i amser fynd heibio, fe lwyddodd fy chwaer gael ei derbyn i ysgol feddygol, ac roedd pawb ohonom wrth ein bodd! Roeddwn i’n edmygu fy chwaer ac wrth weld mor hapus oedd hi, roeddwn i eisiau dilyn yn ei chamre. Fe wnes i lwyddo i gael yr un TGAU da â hi, ond wrth i fi symud ymlaen i’r coleg, dechreuais deimlo’n wahanol. Mae blynyddoedd y cyfnod yn eich arddegau’n amser caled i bawb, bron, a doeddwn i’n ddim gwahanol. Ond yn fy achos i, fe ddechreuais i fod yn eithaf sâl.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd, ond roedd fy iechyd meddwl yn gwaethygu’n raddol – dechreuais weld fy mod i’n llawer mwy araf wrth wneud tasgau sylfaenol, fel glanhau dannedd a chael cawod, hyd nes y byddai amser yn dod pan fyddai dyddiau’n mynd heibio a minnau heb wneud y naill beth na’r llall. Fe fyddwn i’n treulio cymaint o amser â phosib yn cysgu. Doeddwn i ddim eisiau deffro, dyna’r gwir – roedd y dyddiau’n rhy hir a blinderus, a chwsg oedd fy unig ddihangfa. Doeddwn i ddim wir yn deall beth oedd yn digwydd – roeddwn i’n meddwl mai diog oeddwn i, a byddwn yn rhoi stŵr i mi fy hun yn aml.

Ro’n i’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r ysgogiad i wneud dim – roedd hi’n anodd gweithredu, a byddwn i’n eistedd am oriau’n syllu ar ddim. Roedd fy rhieni’n gallu gweld y newid ddigwyddodd ynof i, am fy mod i prin yn gwenu na’n chwerthin mwyach. Fe aethon nhw â mi i weld y meddyg, ac ar ôl cael llawer o brofion, fe ddywedodd y meddygon fod gen i iselder a gorbryder, ac fe ddechreuais gymryd meddyginiaeth.

Fe gymerodd hi dipyn o amser i’r teulu addasu – doedden nhw erioed wedi cael profiad o rywun agos atyn nhw’n dioddef o afiechydon iechyd meddwl. Fe wnaeth fy nheulu bopeth allen nhw i helpu; dod gyda fi i siopa am sebon ag arogl hyfryd i roi ysgogiad i fi fynd i’r gawod. Treulio oriau’n chwarae gemau bwrdd gyda fi, am fod gobaith y byddai hynny’n codi gwên unwaith neu ddwy. Fe wnaethon nhw bopeth allen nhw i stopio fi rhag teimlo dim – fe wnaethon nhw fy atgoffa am fy nghariad pan oeddwn i’n blentyn: llenyddiaeth a darlunio.

Roedd hi’n anodd canolbwyntio’n ddigon hir i mi allu darllen nac ysgrifennu, ond roeddwn i’n gallu tynnu llun bob yn awr ac yn y man. Roedd darlunio’n fy helpu i gyfathrebu pan nad oedd y geiriau’n dod. Unwaith, fe wnes i lun bwystfil i ddangos i fy chwaer pam roeddwn i’n cael trafferth, ac wedyn, fe deimlais ymdeimlad o heddwch am fu mod wedi gallu cywasgu’r holl deimladau roeddwn i’n ymladd yn eu herbyn i mewn i un darlun. Roedd darlunio’n rhoi gobaith i mi hefyd – byddwn i’n darlunio gwisgoedd yr hoffwn eu gwnïo, ac fe arweiniodd at ddysgu ambell bwyth brodio arbennig.

Monster photo
Y llun wnes i o’r bwystfil. Ar un adeg doeddwn i ddim yn gallu edrych ar y darlun hwn heb deimlo’n drist, ond rwy’n fwy hapus nawr, gan wybod ei fod yn llawer llai, ac yn fwy o dan fy rheolaeth.

Dechreuodd fy nheulu weld fod celf yn dod â fi’n ôl atyn nhw. Fe ddechreuon nhw chwilio am gyrsiau celf yn lleol, ac fe wnaethon nhw fy annog i ymgeisio amdanyn nhw. Doedd gen i ddim cymwysterau celf i’w cyflwyno, felly ar gyfer y cyfweliad, fe wnes i greu portffolio o ddarnau bach o gelf yr oeddwn i wedi’u creu rai blynyddoedd ynghynt. Roedd pawb ohonom ar ben ein digon pan ges i fy nerbyn i wneud cwrs Lefel 3 Celf a Dylunio.

Birds photo
Tynnais luniau’r ddau aderyn yma pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd! Dwi ddim yn gwybod pa fath o aderyn yw’r un uchaf yna ond brân yw’r un mewn beiro du.

Ar ôl dechrau ar y cwrs ym mis Medi 2018, rydw i wedi dysgu llawer amdanaf fy hun, ac wedi symud ymlaen i’r ail dymor gyda help fy nheulu, ffrindiau, athrawon a chwnselwyr. Mae’r cymorth meddygol rydw i wedi’i dderbyn wedi bod yn achubiaeth a hebddo, fyddwn i ddim ble rydw i heddiw. Ond mae celf wedi fy helpu mewn ffordd nad oedd y meddygon proffesiynol yn gallu’i wneud; mae celf wedi gadael i mi deimlo unwaith yn rhagor.