Rwyf wedi symud o le i le dros y wlad i gyd ac ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yn y Peak District, ond mae fy nghysylltiad â bryniau Cymru’n barhaol a bwriadol: mae’r rhain yn fynyddoedd gonest, grutiog wedi eu lleoli mewn amgylchoedd eang, ond gostyngedig.

Llun o Ruth Allen

Pan fyddaf yn mynd allan i’r awyr agored, rydw i gyda’r byd, rwy’n anadlu awyr iach, mae fy nghorff yn symud ac mae gen i amser i feddwl yn greadigol am fy mywyd. Mae bod allan yn yr awyr agored yn dda i fy meddwl, fy nghorff a’m henaid, ac mae’n tyfu’n un darlun cyffredinol o iechyd da.

Rydw i wedi bod yn mwynhau Cymru ers blynyddoedd, ond yn ddiweddar rydw i wedi bod yn archwilio’r Parciau Cenedlaethol gyda chleientiaid sydd hefyd yn awyddus i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant yn yr awyr agored. Fel therapydd a hyfforddwraig sefydliadol sy’n arbenigo mewn gwaith yn yr awyr agored, fy mlaenoriaeth yw helpu unigolion (a chymunedau o unigolion) i gysylltu â natur fel dull o ailgysylltu â’u hunain ac eraill.

Rwy’n gweithio i rymuso pobl i feddiannu eu llesiant meddyliol ac emosiynol yn y gobaith y bydd hyn yn hybu perthynas gyfatebol, ddigymell â’r amgylchedd, gan arwain at well gofal a stiwardiaeth dros amser. Wedi’r cyfan, rydyn ni’n gofalu am yr hyn yr ydym yn ei werthfawrogi – p’un ai yw hynny’n fannau agored gwyrdd neu ein hiechyd ni ein hunain.

Mae’r cynnydd mewn prosiectau presgreibio ledled y wlad yn dangos bod gweithio yn y dull lleoledig hwn yn dod yn gynyddol bwysig wrth i ni gydnabod pwysigrwydd cynorthwyo pobl yng nghyd-destun eu cymuned a’u hamgylchedd. Yn rhyfeddol iawn, wrth ystyried ffactorau sy’n creu risg i farwoldeb, mae gan y rhai hynny â’r cysylltiadau cymdeithasol cryfaf 50%[1]  yn fwy o debygrwydd o oroesi na’r rhai â chysylltiadau cymdeithasol gwannach.

LLun o fynyddoedd

Yn fy mhractis i, mae gweithio yn yr awyr agored yn esiampl sy’n dangos ein bod i gyd yn rhan o gyd-destun, o ecosystem, a bod y rhwydwaith o gymunedau’n bwysig i’n hiechyd unigol, cyfunol ac amgylcheddol. Mae hyn yn newid cynnil mewn persbectif, sy’n  rhan gynhenid o’r dull o weithio o amgylch, a gyda phobl eraill gyda chymorth elfennau iachaol awyr iach, tirweddau eang a hen hen ddoethineb coed.

Mae gweithio gyda phroblemau pobl, wedi ein cau mewn ystafell, yn anfon neges mai’r unigolyn yw’r broblem ac yn atgyfnerthu’r neges o gywilydd, patholeg ac afiechyd. Mae gweithio a threulio amser yn yr awyr agored yn un cam tuag at osod pobl yn ôl yn eu cyd-destun naturiol a’u helpu i weld eu bod yn rhan o’r byd sy’n fyw ac yn anadlu, gan ymdrechu’n feunyddiol i ennill iechyd a bywyd. Mae hefyd yn erydu’r dicotomi ffals bod iechyd corfforol a meddyliol yn bodoli mewn sfferau ar wahân. Pan fydd ein cyrff yn ymgysylltu, felly hefyd ein meddyliau, gan ymgysylltu â chylch cyson iachaol a chynnal llesiant.

Llun o gwpan coffi

Mae llesiant yn rhywbeth  llawer mwy na’r hyn y mae unigolion yn chwilio amdano. Mae angen i’n holl gymdeithas archwilio datrysiadau holistig ac integredig. Mewn gair, mae gan unrhyw un sy’n fyw ran i’w chwarae yn yr hyn a olygir i fod yn iach.

Mae angen i unigolion ymarfer eu hawtonomiaeth ac ysgwyddo cyfrifoldeb am yr hyn a olygir iddynt gan ‘lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol llwyr’ (diffiniad WHO o ‘iechyd’), ond mae angen i gymunedau, sefydliadau, busnesau a llywodraeth hefyd i arwain yr asesiad o’r hyn y mae bod yn iach yn ei olygu.

Fe ddylem ni i gyd ystyried yn gyson statws ein hiechyd a dod i dermau â’r syniad bod iechyd yn oddrychol. Nid yw’r hyn sy’n iawn i chi yn iawn i bob un, ac mae angen i systemau, cymunedau a sefydliadau hefyd fod yn ymwybodol o oblygiadau’r goddrychedd amlochrog hwn.  Nid oes unrhyw ymyriad yn feddyginiaeth holliachaol, ond mae’n wir fod ymdrochi mewn coedwig, lonydd beicio a pholisïau iach yn y gweithle i gyd yn cyfrannu at ‘ecoleg’ cadarnhaol llesiant.

Yn y tymor byr, bydd y cymhlethdod hwn heb amheuaeth yn arwain at fwy o gwestiynau nag atebion, yr angen am sgyrsiau mwy gonest, mwy o grafu pen, ond ni ddylai hyn godi ofn arnom. Mae unrhyw therapydd yn gwybod bod yn rhaid i chi yn y lle cyntaf fynd drwy’r storm, cyn ymddangos gydag ymwybyddiaeth newydd a dull o symud ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae tua hanner cyllideb llywodraeth Cymru’n cael ei wario ar (af)iechyd. Yn genedlaethol, dim ond 5% o gyllideb y GIG sy’n cael ei wario ar atal. O dan arweiniad ein sefydliad cyhoeddus mwyaf ei barch, rydyn ni wedi dod yn rhy gysurus gyda’r model afiechyd adweithiol sy’n trin unigolion sâl.

Sefydlwyd eisoes mai prif benderfynyddion iechyd yw tai, amodau byw a gwaith, addysg, bwyd a rhwydweithiau cymdeithasol, a bod y rhain yn cyfrif am 90% o ganlyniadau iechyd.[2] Yn gyntaf felly, mae angen i ni gyda’n gilydd ail-hawlio’r syniad o iechyd fel rhywbeth sydd ymhell i ffwrdd oddi wrth afiechyd, a’i anrhydeddu fel y ddihareb bwysig ar gyfer byw neu fywyd. Beth rydyn ni’n ei wneud heddiw sy’n anrhydeddu bywyd yfory? Sut rydyn ni’n symud i ffwrdd oddi wrth edrych ar ein symptomau fel arwydd o salwch yn hytrach na galwad i’n deffro i fabwysiadu gwell bywyd?

Dyna, i mi, yw’r hyn sy’n gyffrous am y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae’r saith Nod a’r pum Dull o Weithio’n cynnig ffordd ymlaen i wlad gyfan tuag ar y llwybr cyflym tuag at syfliad paradeim â mawr ei angen ym maes iechyd. Mae’n gwneud iechyd yn fusnes i bawb.

Ni fedrwn aros am ganiatâd. Ni fedrwn barhau i aros am apwyntiadau, meddyginiaeth neu syrjeris fel y llwybr diamod tuag at iechyd. Yn yr un modd, ni fedrwn ddadlau ynglŷn ag ai cyfrifoldeb unigolyn neu lywodraethau yw hyn; aros am lwyddiant neu fethiant mewn un parth i gataleiddio gweithredu mewn un arall.

Mae angen i ni i gyd fabwysiadu ymagwedd wrol yn awr, gyda’n gilydd ac ar yr un pryd, gan gydnabod ein bod i gyd yn cyd-adweithio’n ddeinamig yn ein bywydau gyda chyfrifoldeb am ein gilydd i ailddiffinio beth yw natur iechyd mewn gwirionedd. Ar ddiwedd y dydd, dyma’r wers bwysicaf o fod yn byw ar blaned gymhleth, amlhaenog, gysylltiedig, fyw.

Mae Ruth Allen yn seicotherapydd cynghori, hyfforddwraig sefydliadol, ac yn awdur sy’n byw yn y Peak District yn y DG. Mae’n arbenigo mewn therapi awyr agored ac yn hoffi dringo mynyddoedd yn fawr iawn yn ei hamser sbâr. Gallwch ddarganfod mwy am waith Ruth ar www.whitepeakwellbeing.com neu gallwch ddilyn ei hanturiaethau a’i hathroniaeth dydd i ddydd ar Instagram@whitepeak-ruth

[1] Allen, L. N., Barry, E., Gilbert, C., Honney, R. a Turner-Moss, E. (2019) How to move from managing sick individuals to creating healthy communities, Br J Gen Pract., 69, 8-9.

[2] McGovern, L., Miller, G., Hughes-Cromwick, P. (2014) Health Policy Brief. The relative contribution of multiple determinants to health outcomes. Health Affairs.