Fel ymchwilydd, mae gen i ddiddordeb yn y modd y mae ein hamgylchoedd yn medru effeithio ar ein hiechyd.

Llun o fan gwyrdd

Mae iechyd meddwl a phroblemau llesiant yn achos pryder cyhoeddus cynyddol

Bydd un o bob pedwar ohonom sy’n byw yn y DG yn profi cyflwr iechyd meddwl megis gofid neu iselder yn ystod ein bywydau. Gyda chyflyrau iechyd meddwl yn costio dros £100 biliwn y flwyddyn i economi’r DG – mae hyrwyddo’r modd y mae pobl yn medru gofalu am eu hiechyd meddwl o bwysigrwydd cynyddol.

Mae ymchwil blaenorol wedi awgrymu bod treulio amser yn yr awyr agored mewn amgylchoedd naturiol, megis parciau a thraethau’n medru helpu i gynorthwyo a hybu iechyd meddwl da a llesiant. Y theori yw bod mynd allan i’r awyr agored a threulio amser yn yr amgylchoedd naturiol yn helpu i wella ein hiechyd meddwl drwy nifer o wahanol ddulliau – er enghraifft, drwy gynyddu ymarfer corff, rhoi man i ni ymlacio, rhoi cyfleoedd i ni i dreulio amser gyda ffrindiau, teulu, a rhyngweithio cymdeithasol arall megis siarad â phobl sy’n cerdded heibio.

Cyfleoedd i wella’r amgylchedd trefol

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd 60 y cant o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd trefol erbyn 2030 gydag un o bob tri yn byw mewn tref neu ddinas. Gyda chynnydd yn y nifer o bobl yn byw yn yr amgylchoedd hyn mae yna gyfleoedd gwych i wneud gwelliannau i amgylchoedd – a fedr helpu nifer mawr o bobl i fyw bywydau iachach.

Dyma lle mae’n hastudiaeth newydd yn dod yn berthnasol

Amcan yr Astudiaeth Green-Blue Spaces yw archwilio a yw newid mewn mynediad i’r amgylchedd naturiol yn cael effaith ar iechyd meddwl pobl. Gall y bydd y newid hwn, er enghraifft, yn digwydd oherwydd bod parc newydd hwyrach yn mynd i agor neu ystâd dai newydd efallai’n mynd i gael ei hadeiladu.

Mae ein tîm, sy’n cynnwys arbenigwyr mewn iechyd, daearyddiaeth, cysylltu data, ystadegau a seicoleg o Brifysgolion Abertawe, Lerpwl, Exeter a Chaerdydd a’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn Barcelona yn gweithio gyda’i gilydd ar yr astudiaeth tair blynedd hon, sy’n arwain y byd.

Byddwn yn edrych ar ddata iechyd a data amgylcheddol 1.7 miliwn o bobl yng Nghymru i archwilio sut mae pobl yn newid eu defnydd o wasanaethau iechyd (megis ymweliadau â’r ymarferydd cyffredinol) wrth i’w hamgylchedd lleol newid.

Oherwydd bod dylanwad mannau agored gwyrdd a glas yn cymryd amser i newid iechyd, bydd y tîm yn defnyddio data hanesyddol o’r 11 mlynedd ddiwethaf (2008-2018).

Yr amcan yw penderfynu a yw newid cadarnhaol mewn mynediad i fannau agored gwyrdd-glas megis parciau, coedwigoedd, afonydd a thraethau’n lleihau’r risg o bryder ac iselder.

Darparu tystiolaeth gref i helpu i newid polisi ac arfer

Caiff ein hamgylchedd trefol ei reoli gan gynllunwyr trefi, penseiri, gwneuthurwyr polisi, peirianwyr etc. – ac wrth symud y prosiect rhagddo mae’n bwysig ein bod yn ymgynghori ac yn ystyried sut i drawsnewid  casgliadau’n hymchwil yn offerynnau defnyddiol ar gyfer y rhai sy’n rheoli’r ardaloedd hyn, gyda’r amcan cyffredinol o wella’r amgylchedd yn ogystal â iechyd cyhoeddus.

Am fwy o wybodaeth ar y brosiect gwyliwch y fideo ar YouTube.

Mae Dr Amy Mizen yn ymchwilydd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys rôl yr amgylchedd ar ordewdra ac iechyd meddwl.

Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gan Ymchwil Iechyd Cyhoeddus y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) (rhif prosiect neu gyfeirnod PHR – 16/07/07).

Mae’r safbwyntiau a fynegir yn eiddo i’r awdur ac nid o reidrwydd i’r GIG, (NIHR) neu’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Logo NIHR