Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi croesawu cyllideb Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw, ond dywed nad yw’r Llywodraeth yn dangos yn llawn o hyd sut y mae gwariant yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sut y mae’n symud gwariant yn gyffredinol i gyfeiriad atal problemau rhag digwydd yn hytrach na cheisio’u trwsio wedyn.

Ar bwnc ariannu’r argyfwng hinsawdd, mae sawl peth i’w groesawu fel rhan o gynlluniau cyllidebol y Llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw, gan gynnwys:

  • Cynlluniau i geisio lle ychwanegol i fenthyca ac er budd buddsoddi cyfalaf. Ni fydd heriau datgarboneiddio mawr, fel ôl-osod adeiladau, yn bosib oni bai bod Llywodraeth Cymru’n cael mwy o rymoedd er mwyn buddsoddi.
  • Y cynnydd mewn gwariant ar deithio cynaliadwy o £160m i £219m, fydd yn annog datgarboneiddio trafnidiaeth a lefelau uwch o weithgarwch corfforol.
  • Bydd y cynnydd yn yr arian sy’n mynd i’r Grant Tai Cymdeithasol, o £188m i £223m, yn hwyluso datgarboneiddio stoc dai Cymru, tra ar yr un pryd yn taclo materion cymdeithasol allweddol sy’n ymwneud â thlodi tanwydd ac iechyd.
  • Y cyhoeddiad bod £140m mewn gwariant cyfalaf newydd ar gyfer yr hinsawdd a’r amgylchedd, gan fynd â’r cyfanswm gwariant cyfalaf sy’n benodol ar yr hinsawdd a’r amgylchedd dros y trothwy 5%.

Dyma ddywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar y cyngor a roddais iddynt, yn rhannol drwy fy nghynllun 10 pwynt a gyhoeddais ynghynt eleni, oedd yn amlinellu’r ymrwymiadau cyllido sy’n angenrheidiol er mwyn cyfrannu at ddatgarboneiddio a thaclo’r argyfwng hinsawdd.

“Ochr yn ochr â’r buddsoddi yn y systemau metro newydd, mae hyn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i fuddsoddi mewn atebion rhagweithiol i’r argyfwng hinsawdd. Serch hynny, er bod y gyllideb wedi targedu buddsoddiad i gyfeiriad mesurau ‘y mae tystiolaeth gyfredol yn ei chefnogi fel y meysydd ble gall Llywodraeth Cymru gael yr effaith fwyaf er mwyn darparu ein cyllideb garbon gyntaf’, erys y ffaith nad oes yr un asesiad effaith holistig o effaith carbon net y gyllideb. Mewn geiriau eraill, ni all y Llywodraeth ddweud wrthym a yw’r modd y maen nhw’n gwario’u harian yn cefnogi cynnydd neu leihad mewn allyriadau carbon.

“Dangosodd y cynlluniau diweddar i fuddsoddi yn isadeiledd Cymru, er enghraifft fod buddsoddiad wedi’i gynllunio oedd ynn werth £1.56biliwn ar heolydd yn erbyn buddsoddiad o £818 miliwn ar drafnidiaeth gynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol) rhwng 2018-2012. Heb gael asesiad llawn o’r holl benderfyniadau gwario, fe all cynnydd mewn rhai meysydd gael ei danseilio gan brosiectau neu raglennu carbon uchel mewn eraill.”

Aeth y Comisiynydd ymlaen i ddweud:

“O hyn ymlaen, rhaid i’r Llywodraeth ddadansoddi’n fforensig bob agwedd ar ei gwariant, yn enwedig gwariant cyfalaf, yn nhelerau effaith carbon, a chyhoeddi manylion ynghylch sut y mae hyn yn gweithio’n gyffredinol. Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i wneud cais am i’r Llywodraeth rannu’u hasesiadau effaith carbon, a hyd yn hyn, nid wyf yn fodlon â’r ymatebion a gefais ganddynt.”

Mewn ymateb i well setliad ar gyfer llywodraeth leol, dywedodd y Comisiynydd:

“Rwy’n croesawu’r cynnydd mewn cyllideb i lywodraeth leol, sydd wedi cael trafferth i gwrdd â’r pwysau ar wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd cyni. Rwy’n falch o weld bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol o ran darparu gwasanaethau ataliol; addysg, chwaraeon a chyfleusterau cymunedol, llecynnau awyr agored o safon a gwasanaethau cefnogi a seilir yn y gymuned; mae’r cyfan hyn yn chwarae rhan bwysig mewn atal pobl rhag mynd yn sâl neu ddatblygu problemau cymdeithasol mwy hirdymor. Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol os ydym ni wir yn mynd i symud i fod yn genedl sy’n rhoi llesiant wrth graidd polisi cyhoeddus, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Y tu hwnt i hyn, rhaid i’r Llywodraeth ddangos sut y mae’n gwario ar gyfer atal ar draws ei chyllidebau, a rhaid i Lywodraeth Leol ymrwymo i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, gan weithio gydag eraill fel byrddau iechyd, gwasanaethau tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau gwirfoddol a rhai a leolir yn y gymuned.”

Yn ogystal, croesawodd y Comisiynydd y ffaith fod y Llywodraeth wedi cynhyrchu ‘Cynllun Gwella’r Gyllideb’ o ganlyniad i argymhellion a wnaed ganddi llynedd am welliannau oedd yn angenrheidiol yn y broses gyllidebu.

Daeth Sophie Howe i ben drwy ddweud:

“Mae’r Llywodraeth ar daith tuag at wreiddio gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a dechrau dangos sut y mae angen i’w proses gyllidebu adlewyrchu blaenoriaethau gwario sy’n cefnogi llesiant pobl, yn hytrach na phentyrru problemau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Dylid llongyfarch Cymru am fod ar flaen y gad mewn mudiad sy’n symud tuag at gyllidebu am lesiant, sy’n cael ei fabwysiadu gan Lywodraethau yn Seland Newydd, yr Alban a’r Ffindir.”