Felly gan fy mod yn dipyn o ffeminydd dim ond arwrESau a fu gennyf erioed.

Ni olyga hyn nad wyf yn cydnabod yr Arwyr niferus yn ein plith – bûm yn ddigon ffodus i dreulio amser yng nghwmni llawer o ddynion yr wyf yn eu hedmygu – gyda Rhodri Morgan yn dod i’r meddwl ar unwaith, ond gan fod cymdeithas wedi ein cyflyru i feddwl am arwyr fel dynion – weithiau gyda chlogyn a masg ond weithiau hebddynt – mae wedi bod yn egwyddor gennyf yn gyffredinol i ddathlu arwrESau fel dewis amgen.

Ac mae yna lawer ohonynt; megis Emmeline Pankhurst enw ar roddais ar fy merch fel arwydd o fy mharch tuag ati; Hillary Clinton (rwy’n dal i’w hedmygu hi), Mo Mowlam – y gwleidydd benywaidd yr oeddwn yn ei charu am ei ffordd ddi-flewyn-ar-dafod o siarad a’i gallu i fynd ati i wneud pethau mewn dull mor diffwdan; Rachel Williams ymgyrchydd eofn yn erbyn camdriniaeth ddomestig yng Nghymru, fy Mam-gu – merch fywiog o Grangetown a gafodd yrfa dda gyda’r BBC ar adeg pan nad oedd menywod, ar y cyfan, yn gweithio, a thra iddi barhau i fod yn Gynorthwyydd Personol, dywedir wrthyf mai hi mewn gwirionedd oedd y grym y tu ôl i’r orsedd (sy’n digwydd weithiau!).

Fodd bynnag – mae arwrESau wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd – pobl y gallwch eu hefelychu, pobl sy’n angerddol, pobl sydd wedi dangos eu bod yn barod i herio’r status quo a dangos, yn aml, beth fedr un person bach ei gyflawni, a phobl sydd yn aml iawn o gefndiroedd di-nod. Ac yn hollbwysig, pobl yr ydych yn eu hoffi – fel pobl. Wythnos yn ôl cyfarfûm â rhywun sy’n ffitio’r holl gategorïau hynny, a dorrodd fy rheol ar ArwrESau.

 

Bûm yn ddigon ffodus i fynychu digwyddiad a drefnwyd gan Morlyn Llanw Bae Abertawe gyda Satish Kumar. Roedd Mark Shorrock, Prif Weithredwr, wedi darganfod y stori am gyn-fynach ac actifydd hirdymor dros heddwch a’r amgylchedd sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn gwneud y cysylltiad rhwng pobl a’r blaned; yn ei ffordd dawel, mae Satish Kumar wedi bod yn gosod yr Agenda byd-eang ar gyfer newid am dros 50 mlynedd.

Wedi ei ysbrydoli pan oedd yn ei ugeiniau gan esiampl yr actifydd heddwch Bertrand Russell, penderfynodd Satish a’i ffrindiau, tra’n eistedd mewn caffi yn Bangalore, os yr oeddent yn credu mewn achos, nid eistedd yn y fan honno’n yfed coffi ddylent fod yn ei wneud, ond bwrw ati i weithredu.

Cychwynasant ar bererindod heddwch gan gerdded 8,000 o filltiroedd o’r India i brifddinasoedd niwcliar y byd  – Llundain, Paris, Mosgo a Washington D.C. – i gyflwyno cwpaned syml o de ‘heddwch’. Dywedodd Satish nad oedd y te wedi bod yn rhan o’r cynllun, ond ar ôl cyfarfod â menywod oedd yn gwneud te ger y Môr Du daethant i’r casgliad ei bod yn werth awgrymu i arweinyddion y byd os yr oeddent yn myfyrio ar bwyso’r botwm fe ddylent gael cwpaned o de a meddwl ymhellach.

Tyfodd y siwrnai ei hunan i fod yn fwy na phrotest yn erbyn arfau niwcliar – penderfynasant y byddent yn mynd heb arian gan ddibynnu ar garedigrwydd a chroeso dieithriaid – gan gysylltu â phobl. Yn ystod y siwrnai dros diroedd ac amgylcheddau gwahanol iawn eu natur disgrifia Satish hefyd fel y llwyddodd i gysylltu â’r blaned a sylweddoli pa mor ddibynnol ar ei gilydd oedd y ddau.

Ers hynny prif bwrpas bywyd Satish fu amlygu’r angen i ni i gyd ddeall a pharchu’r berthynas hon. Mae’n herio’r dull traddodiadol o edrych ar ffyniant fel rhywbeth sy’n golygu gwneud arian. Pwrpas arian yn y pen draw yw cyflawni llesiant i’n pobl a’n planed a dylai hyn fod yn nod ynddo’i hunan, meddai. A thra nad wyf o’r farn bod gwneud arian ac amddiffyn pobl a’r blaned yn gyd-anghynwysol, mae cymaint o’r hyn y mae’n ei ddweud yn cysylltu â dyheadau, ac yn wir ofynion penodol y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd eistedd wrth ei ymyl dros ginio yn gyfle gwych i glywed yn uniongyrchol oddi wrtho pa mor gyffrous yr oedd yn teimlo wrth weld Cymru wedi deddfu yn y ffordd hon, ac yn ei ddull tawel, sydd hefyd yn angerddol, mae’n dod â hi yn fyw.

Ynghyd ag ystafell yn llawn o uwch arweinyddion busnes, gadewais wedi fy ysbrydoli, nid yn unig gan Satish, ond gan weledigaeth a diddordeb yr arweinwyr busnes hynny, a sut y gallem symud tuag at gydnabod bod y busnes gorau’n cael ei gyflawni pan fydd pobl, y blaned, ac elw, i gyd yn uchel yn ein meddwl.

Mae’r Morlyn Llanw ym Mae Abertawe yn enghraifft wych o hyn a dyna pam efallai yr oeddent yn teimlo y byddai treulio prynhawn gyda Satish mor addas. Mae llawer gennym i’w ddysgu o’u gweledigaeth, a dylai pob sector feddwl ynghylch y modd y gall pobl, y blaned a ffyniant ymblethu.

Er gwaethaf amheuon rhai dros yr ychydig wythnosau diwethaf, dyna yn y bôn yw bwriad y Ddeddf a byddaf yn parhau i weithio i’w gwireddu.