Rwy’n ffodus i gael swydd lle rwyf yn gweld llawer o bobl yn gwneud llawer o bethau anhygoel (ac weithiau i’r gwrthwyneb) ond roedd y prosiect yr ymwelais ag ef tra’r oeddwn yn Austin Tecsas, fel rhan o Raglen Arweinyddiaeth Rhyngwladol Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn un o’r goreuon.

Gan fy mod yn rhoi blaenoriaeth i dai fel un o’r meysydd ar gyfer gweithredu arno yn dilyn ymarfer ymgysylltu graddfa fawr yn gynharach yn y flwyddyn, roeddwn wedi gofyn i adran wladwriaeth yr Unol Daleithiau oedd yn trefnu’r rhaglen a fyddent yn gallu cynnwys ymweliadau oedd yn berthnasol i dai.

Yn ystod fy arhosiad yn Washington ymwelais â rhaglen oedd yn ymwneud â gweithio gyda dynion digartref rhwng 18-50 mlwydd oed. I mi, roedd hon yn teimlo fel rhaglen ddigon cyfarwydd – llety tebyg i lety mewn hostel (ond yn llawer mwy di-raen na’r rhai yr oeddwn wedi eu gweld cyn hyn – gwelyau metel fel rhai mewn carchar a choridorau tywyll dienaid). Maen nhw’n gweithio gyda’r dynion ar raddfa ddwys ar ôl iddynt fod drwy raglenni dadwenwyno ac ar ôl iddynt roi’r gorau i gyffuriau ac alcohol; maent yn eu helpu i ddeall y profiad o fod yn gaeth i gyffur neu alcohol, adeiladu hunanhyder ac yn y pen draw chwilio am waith, ac rwy’n siŵr eu bod yn gwneud gwaith da. 

Roedd y dynion wnes i siarad â hwynt yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi’r cyfleuster a’i fod yn eu helpu i drawsnewid eu bywydau. Fodd bynnag mewn system sy’n ymddangos deirgwaith yn fwy di-drefn na’r rhai o’n heiddo ni, heb gyfleusterau iechyd hollbwysig, a heb unrhyw obaith am dai cyhoeddus neu gymdeithasol – heblaw am lety gydag ychydig llai o gyfyngiadau, tebyg i hostel – ar ôl iddynt adael y lle hwn, teimlais eu bod yn gymharol gaeth yn nhermau’r hyn y gallent ei gyflawni. Gadewais yn teimlo’n hynod ddiflas am eu sefyllfa, gan gadarnhau fy nheimlad bod y system Americanaidd, sy’n ceisio mynd i’r afael â’r mathau hyn o bobl sy’n agored i niwed, yn dipyn o lanast. 

Nid yw fy marn wedi newid mewn gwirionedd am y system, o mae’r hyn a welais mewn prosiect bach, ond hyfryd, wythnos yn ddiweddarach yn Austin wedi gwneud i mi ailfeddwl am fy marn mai’r wladwriaeth ddylai fod yn gyfrifol am newid popeth. Gan gyrraedd y Pentref Cymunedau’n Gyntaf (na ddylid ei gymysgu â Chymunedau’n Gyntaf yng Nghymru – mae’n syndod fel mae’r enwau hyn yn symud o gwmpas) ar fore Iau heulog a chael gwahoddiad i gwrdd ag Alan prif weithredwr y prosiect ger y sinema awyr agored, credais ein bod yn y lle anghywir, neu fod yr honiadau oedd wedi cael eu gwneud am eu gwaith o ddarparu tai i rai oedd wedi bod yn ddigartref am amser hir iawn yn y blyrb byr rwy’n ei dderbyn ar bob rhaglen cyn ymweld, yn gorliwio’r sefyllfa. 

Roedd y lle fel cartref gwyliau o’r radd flaenaf gyda theepees cŵl lle byddech chi’n talu ffortiwn i deimlo’n fohemaidd am y penwythnos, carafanau sgleiniog retro wedi eu peintio’n wych a chartrefi bach addurnedig. Roedd yna grŵp yn gwneud yoga ar yr amffitheatr glaswelltog a siop anrhegion yn gwerthu gemwaith hyfryd a phaentiadau, ymysg y bwyd a chyflenwadau byw, a’r holl le fel pin mewn papur. 

Cychwynnoddy rhaglen o weithio gyda phobl digartref yn Austin  nôl yn 1998, cynllun wedi ei seilio ar gysyniad o gegin gawl. Ers hynny, mae eu gwirfoddolwyr wedi gweini dros 5 miliwn o brydau i ddynion a menywod digartref yn byw ar y strydoedd. Y cyfnod nesag oedd datblygu’r Pentre.  Mae’r rhaglen yn un Gristnogol ond ar ôl cwrdd â’i sefydlydd Alan a’r bobl sydd yn gweithio a byw yn y Pentre, deuthem i sylweddoli mai eu hunig gonsyrn oedd trawsnewid bywyd pobl.

Arwyddair y Pentref yw ‘Ni fydd tai yn datrys digartrefedd, dim ond cymuned all wneud hynny’ ac mi fedrech, yn sicr, weld hynny yn y fan honno. Er gwaethaf cyfyngiadau ariannol mae’n gymharol hawdd adeiladu tai ond yr her wrth ddatblygu ac ariannu gwasanaethau ar gyfer ein cymuned o bobl ddigartref yw’r materion cymhleth a heriol sy’n dod gyda hwynt, yn aml fel canlyniad i broblemau’n ymwneud â chamdriniaeth a thrawma yn ystod plentyndod, camddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl, i enwi dim ond ychydig ohonynt. Ni fydd rhoi tenantiaeth i rywun yn rhoi iddynt y cymorth sydd arnynt ei angen i’w chynnal, y sgiliau sydd arnynt eu hangen i dalu amdani, a’r hunan-barch sydd arnynt ei angen i deimlo bod eu bywydau’n rhai gwerthchweil. 

Bwriad y rhaglen hon yw gwneud y pethau hyn i gyd. Ar ôl prynu clustdlysau yn y siop anrhegion euthum i weld eu gweithdy crefftau lle’r oedd rhyw ddwsin o bobl yn gweithio. Cyfarfûm a Debbie oedd wedi bod yn byw ar y strydoedd am flynyddoedd lawer ac roedd hi yn brysur yn creu platiau hyfryd cyn eu pasio i’w chydweithiwr i’w mewnosod ar system werthiannau eu cyfrifiadur a’u dwyn i fyny i’r siop anrhegion; mae unrhyw arian sy’n dod o’u gwerthiant yn mynd yn syth iddi hi. Wedyn cyfarfûm â Penny, menyw yn ei 50au oedd wedi bod yn ddigartref am 40 mlynedd. Roedd wedi treulio peth o’r amser hwnnw’n cysgu yn ei char a pheth allan ar y strydoedd. Daeth ar draws y rhaglen Loaves and Fishes pan dorrodd ei morddwyd a gorfod cael llawdriniaeth. Roedd ganddi blatiau metel yn ei choes a 35 o bwythau a dywedwyd wrthi y byddai’n rhaid iddi adael yr ysbyty o fewn 4 diwrnod yn dilyn ei llawdriniaeth oherwydd na fyddai gofal sylfaenol iechyd y Llywodraeth yn medru talu amdani am amser hwy. Aeth yn ôl i babell ar y stryd heb fedru cerdded a daethpwyd o hyd iddi gan y tîm ‘loaves and fishes’. Dywedodd wrth Alan a minnau ei bod yn teimlo’n llawn bywyd y bore hwnnw (un o symptomau ei chyflwr deubegwn), ond ei bod yn sianelu ei hegni i greu platiau Nadolig ac addurniadau i’r siop. Roedd wedi gwneud tua 20 ohonynt erbyn 10 o’r gloch y bore! Dywedodd wrthyf nad oedd erioed wedi breuddwydio y gallai fod mor hapus â hyn a bod ganddi yn awr nid yn unig do dros ei phen ond diogelwch a ffrindiau a gwaith oedd yn ei siwtio. 

Wrth ymweld â gweddill y safle clywais storïau tebyg. Roedd Warner dyn ifanc yn ei ugeiniau wedi bod yn cysgu yn ei gar am ddwy flynedd yn symud o un swydd i’r llall; mae ef yn awr yn byw yn y Pentref ac yn hyfforddi fel gof ac yn gwneud ffensys ar gyfer y safle a rhai anrhegion sy’n cael eu gwerthu nid yn unig yn eu siop nhw eu hunain ond mewn siopau eraill yn yr ardal. Roedd JR oedd wedi bod yn ddigartref am bedair blynedd yn hapus i fod wedi dod yn blentyn poster y prosiect. Fe wahoddodd fi i mewn i’w gartref am lolipop rhew a sgwrs a dywedodd wrthyf ei fod yn cael tâl o $900 y mis am gadw’r toiledau a’r cyfleuster cawodydd yn lân (roedd y rhain yn ddifrycheulyd). 

Ar y cyfan, mae yna ryw 240 o unedau yn lletya 289 o bobl ar y safle. Mae’r unedau’n costio rhwng $275 a $400 y mis yn dibynnu ar eu maint, sy’n rhyw hanner yr hyn y gall trigolion ei gael mewn budd-daliadau. Am y swm hwnnw cynhwysir gwasanaethau a chyfleusterau yn ogystal â mynediad i ofal iechyd ar y safle, gweithgareddau cymdeithasol llesol ac o leiaf unwaith yr wythnos brydau bwyd cymunedol i bob un ar y safle; am weddill yr amser maent yn defnyddio rhewgelloedd a microdon yn eu hunedau neu’r ceginau cymunedol oedd yn lân gyda digon o offer ac yn eithaf cŵl. Mae yna amrywiaeth o ddewisiadau gwaith, gweithio yn y siop, creu nwyddau, gweithio gyda haearn a chyfleuster garej i drwsio chwe cherbyd ar y safle ac roeddent hefyd wedi derbyn contract trwsio ceir. Roedden nhw hefyd wedi gorffen adeiladu salon ar gyfer trin gwallt gorffen adeiladu salon ar gyfer trin gwallt a fyddai hen amheuaeth yn cynnig cyfleoedd swyddi ychwanegol i’r bobl ar y safle. 

Maent yn ymfalchïo eu bod yn gweithredu heb gymorth ariannol oddi wrth y llywodraeth ond maent yn derbyn tua hanner eu hincwm o roddion gan yr eglwys a nifer fawr o wirfoddolwyr. Fedra’i ddim peidio meddwl fod pa faint bynnag y maent yn ei wario yn debygol o fod yn llawer llai na’r hyn yr ydym ni yn ei wario ar yr ystod o wasanaethau ac ymyriadau ar gyfer pobl ddigartref yng Nghymru; mor dda fyddai hi petaem yn medru cael meddylfryd ac ariannu cyd-gysylltiedig o’r fath. Efallai bydd y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn medru bod yn rhan o’r ateb ar gyfer cyflawni hynny, ynghyd â’r Gronfa Menter Tai a ddatganwyd yn ddiweddar gan Carl Sargeant (ynghyd â rhai prosiectau cyffrous yn ôl yr hyn a glywais o’r ochr arall i’r dŵr); efallai y gallai’r rhain hefyd ddarparu cyfle, yn y cyfnod nesaf, i adeiladu’r mathau hyn o ddatrysiadau arloesol hirdymor i gwrdd ag anghenion ein poblogaeth ddigartref ni.