Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn nodi gweledigaeth newydd:

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi dod unwaith eto, gydag anrhegion Nadolig yn llenwi’r siopau sy’n fy atgoffa bod y gaeaf ar ei ffordd.

Fel llawer o rieni rwy’n cychwyn rhoi fitaminau i fy nheulu wrth i ni geisio osgoi dos o anwyd gaeafol neu hyd yn oed ffliw. Mae ystafelloedd aros Ymarferwyr Cyffredinol yn dechrau llenwi, a’r cyfryngau’n adrodd am y cynnydd blynyddol mewn amser aros neu’r galw am welyau mewn ysbytai.

Tra bo’r galwadau ar ein GIG yn cynyddu yn ystod y gaeaf, cydnabyddir gan bawb bod y pwysau ar y GIG yn gyffredinol yn fwy nag erioed.

Ni fedrwn fynd ymlaen fel hyn. Mae pobl yn byw yn hirach a ganddynt anghenion gofal mwy cymhleth. Mae arbenigwyr ar y newid yn yr hinsawdd yn dweud wrthym am ddisgwyl mwy o afiechyd ac mae bywyd modern yn effeithio ar ein llesiant meddyliol a chorfforol.

Mae ystadegau Mind Cymru’n dangos y bydd 1 o bob 4 ohonom yn profi mater iechyd meddwl gyda dim ond 12% o bobl yng Nghymru’n dweud eu bod wedi derbyn unrhyw driniaeth.

Mae hanner y gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru wedi adrodd eu bod yn treulio dros bumed o’u hamser ymarfer yn trin pobl ag iechyd meddwl.

Amcangyfrifir bod tua £21 miliwn wedi ei wario llynedd ar bresgripsiynau gwrth-iselder sy’n dweud wrthyf i ein bod yn colli cyfleoedd i feddwl am lesiant pobl a’r adnoddau sydd gennym tu allan i’r GIG a allai helpu.

Dyna pam y byddaf fel Comisiynydd cyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’n annog newid a dim ond un o’r dulliau o wneud hyn yw’r hyn a elwir yn ‘Bresgripsiynu Cymdeithasol’.

Efallai eich bod wedi ei weld ar y newyddion yn ddiweddar neu wedi gwylio’r rhaglen Doctor Who Gave up Drugs ar y teledu.

Tra bo moddion yn allweddol ar gyfer ein cadw ni’n iach, ni all ddatrys popeth ac mae meddyginiaeth wrthfiotig, yn arbennig, yn cyflwyno risgiau i ni i gyd yn y tymor hir.

Mae Gwrthsafiad Gwrth-ficrobiolegol yn awr wedi ei restru fel perygl yn y tymor hir i’r boblogaeth yn y DU yng Nghofrestr Risgiau Cenedlaethol Argyfyngau Sifil ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud ei fod yn bygwth ein gallu i gwrdd â’r nodau datblygu cynaliadwy.

Mae arnom angen ymagwedd newydd ar gyfer cefnogi Ymarferwyr Cyffredinol fel y gallant gynnig mynediad i gleifion i wasanaethau â’u bwriad i’w cadw’n iach, gan osgoi, mewn rhai achosion, yr angen am ymyriadau meddygol drud, a’u galluogi i ddewis atgyfeirio anfeddygol – sydd yn aml yn llawer rhatach i’r GIG – gan leihau’r galwadau ar ein pobl broffesiynol meddygol tra’n gwella iechyd a llesiant y person.

Drwy gerdded mewn mannau gwyrddion yn ein parciau cenedlaethol neu’n dinasoedd bywiog, drwy roi i berson hŷn gwpaned o de a sgwrsio â nhw am hanner awr, drwy weithio i ddatblygu rhaglen ysbrydoledig sy’n annog plant a phobl ifanc i ymgysylltu â’u hamgylchedd lleol a’u treftadaeth, gallwn ennill llwyddiant i’n gwasanaethau cyhoeddus a llesiant pobl Cymru, a pharhau i arwain y ffordd gyda’n hymagwedd arloesol tuag at wneud y person yn ganolbwynt gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) wedi galw am ‘fodel presgripsiwn gwyrdd’, lle mae Ymarferwyr Cyffredinol yn rhoi presgripsiwn ymarfer corff yn yr awyr agored a gweithgaredd corfforol i bobl i’w helpu i leihau lefelau gordewdra a’u helpu i deimlo’n well.

Ac yma, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd yn annog yn frwd wasanaethau ataliol fel y rhain.

Mae’r ymagwedd hon tuag at wasanaethau llesiant yn cael ei chymeradwyo gan Dr Richard Lewis, arweinydd mewn gofal sylfaenol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ei farn ef nid “pam y dylem wneud hyn” (mae hynny wedi ei brofi eisoes) yw’r cwestiwn ond “sut” y dylai Cymru symud tuag at y dull cost effeithiol, mwy cynaliadwy hwn o’n helpu ni i gyd i gadw’n hunain yn iach.

Yn fy marn i mae hyn yn hanfodol yn nhermau sicrhau bod y GIG yn medru parhau i gwrdd â galwadau’r dyfodol yn arbennig o gofio’n poblogaeth sy’n heneiddio.

Mae atal yn well na gwella – nid yn unig yn nhermau’r arian a’r adnoddau sy’n cael eu gwario ar ein hiechyd a’n gwasanaethau cymdeithasol, ond hefyd, yn bwysicach fyth, yn nhermau’r person sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Drwy annog pobl i ymddiddori yn eu triniaeth eu hunain a dechrau gweithredu yn eu cymunedau, rydym yn eu galluogi i fod yn arbenigwyr pan fyddant yn ystyried eu llesiant.

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi torri tir newydd yn rhyngwladol.

Mae wedi bod yn ofynnol i ni feddwl yn y tymor hir, chwilio am ddulliau o atal problemau rhag digwydd, ennyn ymgyfraniad pobl yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt a meddwl am ddulliau gwahanol o wneud pethau sy’n cyfrannu at y saith nod llesiant gan adlewyrchu’r Gymru a garem.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn bolisi sy’n gweithio i wireddu hyn.

Yr her yn awr yw i’n Llywodraeth a’n Byrddau Iechyd helpu Ymarferwyr
Cyffredinol a phobl broffesiynol drwy roi iddynt fodel atgyweirio gydag adnoddau priodol gan dynnu ar y gorau sydd gan ein cyrff cyhoeddus, adnoddau naturiol y trydydd sector a busnesau cymdeithasol i’w gynnig. Mae hyn yn fusnes i ni i gyd.

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn adeiladu cymunedau cryf yng Nghymru ac mae angen i ni roi ‘cadw’n iach’ yng nghalon pob un.