Mae cysylltiadau cynyddol yn datblygu rhwng mynd i’r afael â’n hargyfwng tai a iechyd y genedl.

Yn ôl amcangyfrifon y Sefydliad Ymchwil Adeiladu mae afiechydon ac anafiadau y gellid eu hosgoi sy’n cael eu hachosi gan dai gwael yn costio o leiaf £600m y flwyddyn i’r GIG. Cartref diogel, sefydlog yw’r conglfaen er mwyn i unigolion a theuluoedd adeiladu bywyd o ansawdd gwell.

Hyd oes disgwyliedig person digartref yw 46. Ni fydd rhoi pum punt, coffi neu frechdan i rywun digartref yn newid y sefyllfa hirdymor – 46 fydd hyd disgwyliedig eu bywyd o hyd. Efallai bydd yn gwneud i’r rhoddwr deimlo’n well, ac yn sicr mae rhywbeth i’w ddweud dros garedigrwydd pobl, ond yr ateb go iawn yw sicrhau agwedd gyfannol wrth ymdrin ag unigolion, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar frics a morter neu unedau modiwlar i gael to uwch eu pen. Mae’n golygu bod cynllunio gwasanaethau y tu hwnt i’r cyflenwad tai yn hollbwysig, a gallai egwyddorion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddarparu ateb i hyn o’u hystyried a’u cyflawni’n briodol.

Mewn cyferbyniad, mae methiant i ymdrin â’r materion sy’n arwain at ddigartrefedd a thai gwael yn lluosogi anghydraddoldebau ac yn cael effaith hirdymor ar iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chostio’n drwm i’r pwrs cyhoeddus. Mae effeithiau tai gwael ar iechyd yn cael effaith anghymesur ar bobl agored i niwed: pobl hŷn sy’n byw bywydau ynysig, oedolion ifanc ag anableddau, a’r rhai heb rwydweithiau cefnogi.

Er gwaethaf effeithiau cadarnhaol y Ddeddf Tai, mae’r problemau rydym ni’n dal i’w gweld yn digwydd i raddau helaeth oherwydd bod y sector cyhoeddus ehangach yn dal i ddefnyddio system a grewyd ddoe, gan ddisgwyl iddi ddal i weithio heddiw ac yfory.

Rydym ni’n gwybod, ar hyn o bryd, mai cymdeithasau tai sy’n darparu cartref i ryw 10% o boblogaeth Cymru, a bod rhyw un o bob pum cartref yng Nghymru yn derbyn budd-dal tai. Pa effaith mae’r heriau sy’n wynebu Cymru gyfan yn mynd i’w chael ar y sector tai?

Mae cyfle i’r sector roi sylw i rai o’r problemau systematig hyn yn nhermau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan fod dealltwriaeth eisoes o’r cysylltiadau rhwng tai, allyriadau carbon, iechyd corfforol a meddyliol, trais a cham-drin domestig, lefelau addysg a chyrhaeddiad, cyflogaeth, gwydnwch, cydlyniad cymunedol a’r ymdeimlad hwnnw o berthyn.

Nid sôn yr ydym am newid sefyllfa tai rhywun fel petai hynny’n bodoli mewn blwch ar wahân i weddill bywyd person. Yr hyn sydd dan sylw yma yw grymuso gwasanaethau cyhoeddus i estyn allan y tu hwnt i’w cylchoedd cyfyng i ganolbwyntio ar y pethau a fydd, yn eu tro, yn grymuso pobl i fyw’r bywyd gorau a allant.

Gan fod ymrwymiad i fuddsoddi £1.5 biliwn mewn cartrefi fforddiadwy yn ystod cyfnod y llywodraeth hon trwy’r Compact Tai, mae’n hanfodol bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweld fel lens ar gyfer cyflawni’r buddsoddiad hwn.

Bydd meddwl yn y tymor hir, ac edrych yn gyfannol ar sut mae tŷ yn dod yn sbardun economaidd, yn drawsffurfiwr cymdeithasol, yn lliniarydd amgylcheddol ac yn ased diwylliannol, yn golygu nad gwario ein harian yn ddoeth yn awr yn unig yr ydym, ond ei fuddsoddi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.