“Pa rôl fedrai pobl ifanc yn eich barn chi ei chwarae yng nghynllunio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?” – dyna’r cwestiwn a ofynnais i ddeuddeg o arweinwyr y ddinas-ranbarth a phrif weithredwyr yn fy nghyfweliadau ymchwil.

Osgoi rhoi atebion clir wnaeth y mwyafrif ohonynt, tra’u bod i gyd yn hawlio mai pobl ifanc oedd y dyfodol. Fel rhai oedd ar fin dod yn oedolion, credai arweinwyr bod yn rhaid i bobl ifanc fod yn wybodus ac yn barod i gipio’r cyfleoedd a grëwyd ar eu cyfer. Dim ond dau berson a lwyddodd i feddwl am ymateb pendant: gallai pobl ifanc drin cyfryngau cymdeithasol y ddinas-ranbarth, neu, os mai hwy oedd y person iawn, gallent hyd yn oed weithredu fel ymgyngoreion.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae plant a phobl ifanc yn dangos i’w gwleidyddion elitaidd y gallant wneud llawer mwy. Wedi eu geni ar adeg pan na ellir bellach amau’r newid yn yr hinsawdd, maen nhw wedi ffurfio mudiad byd-eang sy’n galw ar lywodraethau i gydnabod a mynd i’r afael â sefyll argyfyngus ein hinsawdd.

Ar ddydd Gwener, 15 Mawrth 2019, aeth myfyrwyr o 125 o wledydd ar streic. Gadawodd y mwyafrif ohonynt eu hysgolion a gorymdeithio yn eu cymunedau, tra gwnaeth y rhai na fedrai adael eu dosbarth ddangos eu cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol o dan hashnodau #FridayForFuture a #youth4climatestrike.

Plant ar streic
Streic ysgolion yng Nghaerdydd, 15 Mawrth 2019

Codwyd nifer o gwestiynau dilys gan streicwyr ysgol: Pam astudio ar gyfer dyfodol a allai fod wedi diflannu? A pham mynychu dosbarthiadau nad ydynt yn paratoi pobl ifanc ar gyfer mynd i’r afael ag ansicrwydd y blynyddoedd sydd i ddod?

Gan eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli, mae pobl ifanc yn sefyll i fyny dros eu dyfodol. Nid cael y llywodraeth i weithredu yw eu hunig ddymuniad; maen nhw’n disgwyl i gwricwla ysgolion newid gan wneud hinsawdd a materion amgylcheddol yn bynciau canolog, nid yn unig yn wersi sy’n cael sylw am gyfnod byr yn unig. A ph’run bynnag maen nhw’n gofyn am brosesau penderfynu mwy cynhwysol ac am ostwng oed pleidleisio i 16.

Yng Nghaerdydd ac ar draws y DG, digwyddodd streiciau pobl ifanc tra’r oedd gwleidyddion yn brysur yn ymdopi â Brexit. Gwnaethant ddilyn protestwyr extinction rebellion’ sydd wedi bod yn perchenogi strydoedd, yn ymgyfrannu mewn gwahanol weithgareddau uniongyrchol di-drais. Mae llwyddiant ‘Extinction Rebellion‘ i fobileiddio pobl i gyfranogi mewn gweithredoedd anufudd-dod sifil yn dangos i ba raddau mae llawer yn barod i fynd i weld eu llywodraethau’n cydnabod ac atal argyfwng ecolegol. Mae’r symudiad yn seiliedig ar negeseuon o gariad a chysylltedd, yn galw sylw at elfennau gwenwynig ein systemau cymdeithasol a gwleidyddol presennol. Maen nhw’n galw am ailfeddwl ein systemau democrataidd presennol a chreu cynulliadau i ddinasyddion. Hyd yn hyn mae 27 cyngor yng Nghymru a Lloegr wedi datgan argyfwng hinsawdd.

Cardiff youth strike
Cardiff school strike

Ar hyn o bryd, gallaf feddwl am ddau ddewis. Gallem dyfu’n sinigaidd a chychwyn cwestiynu i ba raddau mae plant hyd yn oed yn deall cymhlethdodau gwyddor hinsawdd, democratiaeth, neu’r ffyrdd  y gall penderfyniadau eofn, a’u bwriad yn dda, ôl-danio (gweler eco-dreth Macron am enghraifft ddiweddar).

Fel dewis amgen, gallem harneisio ynni ac angerdd anghredadwy’r genhedlaeth hon, gan ailstrwythuro  seilwaith meddal ein cymdeithas i wneud lle iddo.

Gallem groesawu #FridaysForFuture a dylunio pob math o arbrofion sy’n caniatáu i bobl ifanc archwilio a chyfrannu tuag at eu cymunedau. Er enghraifft, gallem gysylltu myfyrwyr a gwleidyddion elitaidd a grwpiau gweithredu lleol i weithio gyda’i gilydd ar faterion cyfredol (megis a wneir eisoes gan Y-PLAN). Gwyddom y gallai’n llywodraethau ddefnyddio persbectifau ffres, i’r un graddau ag y mae angen i bobl ifanc ddeall peryglon poblyddiaeth a chwilio am ddatrysiadau hawdd.

Gallem hefyd ddefnyddio dyddiau Gwener i archwilio materion y mae plant a phobl ifanc yn teimlo’n gryf amdanynt, megis  dinistr ecolegol. Byddai hyn yn gyfle perffaith i annog ymagweddau meddwl fel rhan o system yn hytrach na datgymalu problemau’n ddisgyblaethau ar wahân, a gweithio mewn seilos. Dyma’r union gymwyseddau sy’n cael eu hybu o fewn dadleuon ar addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy.

Yn anad dim, credaf na ddylem wastraffu’r cyfleoedd a grëir gan y streiciau hyn, fel unigolion a chymunedau. Dylai’r protestiadau ein hysbrydoli i gwestiynu ac ailystyried ein hanghenion materol cynyddol, a gobeithio gwneud i ni benderfynu newid y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd: a hynny o safbwynt dynolryw ar frig y gadwyn ecolegol, i ddynolryw fel rhywogaeth arall ymhlith llawer (rhywle rhwng ansiofi a mochyn yn y gadwyn fwyd, i fod yn fwy manwl).