“Mae gan wasanaethau cyhoeddus, fel cyflogydd mwyaf Cymru, gyfraniad enfawr i’w wneud yn y dasg o ddatblygu a gwella llesiant diwylliannol. Diwylliant yw enaid cymdeithas fywiog, a fynegir yn y modd yr ydym yn adrodd ein storïau, yn dathlu, yn cofio’r gorffennol, yn diddanu ein hunain, ac yn dychmygu’r dyfodol. Mae ein mynegiant creadigol yn helpu i ddiffinio pwy ydyn ni, ac yn ein helpu i weld y byd drwy lygaid eraill.”

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018-19, dywedodd 78% o bobl eu bod yn cytuno y dylai arian cyhoeddus fod ar gael ar gyfer prosiectau celfyddydol a diwylliannol; cytunodd 85% o bobl bod celfyddyd a diwylliant yn gwneud Cymru’n well lle i fyw ynddo a chytunodd 65% bod gweithgaredd celfyddydol a diwylliannol yn helpu i gyfoethogi ansawdd eu bywydau.

“Fodd bynnag, mewn cyfnodau o galedi, gellir gweld diwylliant, ar gam, fel rhywbeth sy’n ‘braf i’w gael’ neu hyd yn oed fel moethusrwydd.  Mae hyn yn mynd yn groes i’r dystiolaeth sy’n dangos bod gwerthfawrogi’r celfyddydau a chreadigrwydd yn fanteisiol i’n llesiant. Fel y darganfu adroddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru’n ddiweddar ‘Mae mynychu digwyddiad celfyddydol o leiaf unwaith y mis yn ystod blynyddoedd diweddarach bywyd  yn lleihau o 50% y risg o ddioddef o iselder. Mae ymweld ag oriel gelf neu amgueddfa bob ychydig fisoedd yn lleihau eich risg o ddatblygu dementia  o hyd at 44% – ac mae’r fantais yn parhau am 10 mlynedd ar ôl i chi stopio.’

“Llynedd ym mis Mawrth, croesawais alwadau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru ar i wersi dawnsio a chelfyddyd fod ar gael ar bresgripsiwn ac y dylai byrddau iechyd sicrhau fod yr arian ar gael. Rwyf hefyd yn cefnogi un o’u cynlluniau diweddaraf i weithio’n agos gyda Chonffederasiwn GIG Cymru i archwilio sut y gall ymyrraeth gelfyddydol chwarae rôl yn narpariaeth gofal iechyd yng Nghymru”.

Yn y lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw, bydd y Comisiynydd yn galw ar gyrff cyhoeddus i weld buddsoddiad diwylliannol fel un o’r ffyrdd o atal rhai o’r heriau mwyaf difrifol, fel unigrwydd, gordewdra, y newid yn yr hinsawdd ac afiechyd.

“Rwy’n gwahodd cyrff cyhoeddus i wneud mwy ar ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chreadigrwydd fel sgiliau craidd, a byddaf yn cyhoeddi papur nes ymlaen yn y flwyddyn a fydd yn mynd i’r afael â sut y gall y system addysg roi sgiliau i bobl ifanc a fydd yn eu paratoi’n well ar gyfer y dyfodol”.

Mae’r Comisiynydd yn galw ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gymryd camau mwy eofn tuag at greu Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu drwy (ymhlith pethau eraill):

  • Ddatblygu rhaglenni gwaith wedi eu targedu sy’n defnyddio offerynnau celfyddydol a gweithwyr proffesiynol diwylliannol i gynorthwyo materion ehangach e.e. Diogelwch Cymunedol, Llythrennedd, Tlodi, Arwahanrwydd Cymdeithasol.
  • Ddefnyddio gweithwyr proffesiynol diwylliannol wrth ddatblygu prosiectau newydd graddfa-fawr, adeiladau newydd ac ailddatblygiadau, megis Tŷ Pawb yn Wrecsam, lle mae preswylwyr a phobl broffesiynol yn gweithio drwy ddiwylliant i ail-ddychmygu  safle’r hen farchnad. Mae yno nawr oriel a masnachwyr a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
  • Ddatblygu a defnyddio offerynnau creadigol i fynd i’r afael â materion sefydliadol a llesiant staff megis drama i reoli stres, a yoga ar gyfer ymlacio etc.

Mewn canllaw newydd sy’n cael ei gyhoeddi i gyrff cyhoeddus heddiw, mae’r Comisiynydd wedi amlygu arfer da ymhlith rhai cyrff cyhoeddus, ac yn gofyn i eraill eu dilyn. Mae’r canllawiau’n darparu camau ymarferol y gall cyrff cyhoeddus ac eraill eu cymryd i sicrhau eu bod yn llwyddo i gyflawni’r nod: Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.