11 mlynedd…. Dyna faint o amser sydd gennym, yn ôl amcangyfrif y panel rhynglywodraethol ar newid hinsawdd, i newid ein ffyrdd er mwyn atal cynnydd a allai fod yn gatastroffig o 1.5 gradd.

Photo from Low-Carbon Plan launch
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Prif Weinidog Mark Drakeford AC, Sion Sleep, UpRising Cymru yn lansiad 'Cyhoeddi Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel'

Mae 11 mlynedd yn gyfnod byr iawn o amser, ac yng nghyd-destun hinsawdd, prin ei fod yn amrantiad, yn enwedig pan ystyriwch chi fod y broses naturiol sy’n mynd â charbon i mewn i storfa hirdymor yn cymryd cannoedd o filoedd o flynyddoedd. Ddylen ni byth fod wedi cael ein hunain yn y sefyllfa hon, ac eto, dyma ni.

Bydd pobl yn aml yn cyfeirio at y blaned fel ‘ein planed’, ond rwy’n gyndyn i wneud hynny. Dyw’r blaned ddim yn perthyn i ni; rydym ni’n ei rhannu â miliynau o rywogaethau eraill sydd wedi esblygu ochr yn ochr â ni. Mae popeth rydym ni’n berchen arno, ac erioed wedi bod yn berchen arno, wedi cael ei ddarparu ar ein cyfer gan fyd natur, ac eto rydym ni wedi bod yn hollol ddiystyriol o’n cartref ac o’n cymdogion.

Mae ein gweithredoedd, fel gorecsbloetio, amaeth a newid yn yr hinsawdd, wedi arwain at ddileu’n llwyr 60% o rywogaethau dros y 50 mlynedd ddiwethaf yn unig. Rydym ni bellach yn cyrraedd cyfnod y chweched lladdfa fawr. Achoswyd pob lladdfa fawr flaenorol gan brosesau naturiol, ond ni yw’r rhywogaeth gyntaf yn hanes y ddaear i wneud hynny ar ein pen ein hun, dyna i chi record i ymfalchïo ynddi! Pe baem ni wedi diddymu 60% o un gymuned, byddai hi’n dân gwyllt, ond ymddengys ei bod hi’n hollol iawn i droi llygad ddall pan fydd pobl yn elwa o ddinistrio’r blaned. Dyw hyn ddim yn deg. Mae’r gwirioneddau brawychus hyn yn dangos yn glir ei bod hi o’r pwys mwyaf ein bod ni’n newid yn sylfaenol ein perthynas â’r byd naturiol.

Mae’r ieuenctid wedi etifeddu’r blaned hon sydd wedi torri. Wnaethon ni ddim gofyn am hyn, a dydyn ni ddim yn dymuno’i chael, ond prin fod gennym ni ddewis. Ddydd Gwener diwethaf, y tu fas i’r Senedd, fe wnes i ymuno â grŵp o bobl ifanc ddewr oedd â neges rymus i’w rhannu fel rhan o ymgyrch streic hinsawdd yr ysgol. Mae streiciau fel hyn wedi digwydd ledled y wlad, gan ei gwneud hi’n amlwg fod ieuenctid Cymru eisiau i weithredu ddigwydd. Os na weithredwn ni’n fuan, yn y pen draw, ni fydd y bobl fydd yn gorfod datrys hyn, ond erbyn hynny, efallai y bydd hi’n rhy hwyr.

Os nad ydyn ni’n gweithredu nawr, bydd ein plant ni’n cael eu geni i fyd â phrinder adnoddau, prinder bywyd gwyllt a phrinder gobaith. Dyw hyn ddim yn deg. Mae llawer o’r hyn sydd wedi digwydd yn methu â chael ei ddad-wneud, ond rhaid i ni edrych ymlaen at ddyfodol mwy cadarnhaol. Mae’r grym gennych chi i harneisio tanbeidrwydd yr ieuenctid, felly dewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud newid yn rhywbeth go iawn.

Mae newid hinsawdd yma, ac mae’n effeithio ar Gymru, gyda mwy o dywydd eithafol fel haf y llynedd a mis Chwefror; mae’n amlwg bod angen i ni weithredu nawr i atal rhagor o newid. Er bod ein dulliau afradlon ni o fyw yn cynhyrchu llawer iawn o allyriadau, nid ni fydd yn teimlo’r effeithiau waethaf. Ond yn hytrach, pobl sy’n llai ffodus na ni ledled y byd, sydd wedi cyfrannu leiaf at y broblem, fydd yn eu teimlo. Mae’r bobl hyn, ecosystemau, a’n dyfodol ni, yn marw. Dyw hyn ddim yn deg.

Mae’n anhygoel o dda fod Cymru’n ymrwymo i ddyfodol carbon isel heddiw. Mae’r strategaethau sy’n cael eu hamlinellu heddiw yn gamau mawr iawn yn y cyfeiriad cywir, ac maen nhw’n fy llenwi â gobaith gwirioneddol. Dwi wir yn credu y gallwn ni wneud hyn os awn ni ati i gydweithio ac ymroi go iawn. Mae rheidrwydd cyfreithiol arnom ni i leihau ein allyriadau o 80% erbyn 2050, ond, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn gwybod mor hawdd yw hi i golli targedau o’r fath.

Dewch i ni wneud yn siŵr mai 80% yw’r lleiafswm, ac yn hytrach na gweld unrhyw lwyddiant pellach fel bonws, dylem ni wir ymdrechu at ragoriaeth. Er nad ni yw’r wlad fwyaf yn y byd, na’r llygrwyr pennaf, rydym ni’n llawer mwy ffodus na llawer o’r byd. Dewch i ni fod yn arweinwyr y byd wrth atal newid hinsawdd. Dangosodd San Steffan nad oes ots gyda nhw rai wythnosau’n ôl, pan fethodd 610 o Aelodau Seneddol â dod i’r siambr ar gyfer trafodaethau hinsawdd cyntaf Tŷ’r Cyffredin ers dwy flynedd. Dewch i ni ddangos i’r byd fod Cymru’n malio. Mae’r adnoddau gennym ni, a’r grym gyda chi – dewch i ni weithredu ar hynny.

Does gan fyd natur ddim llais, ond mae’n mynegi’i ddioddefaint. Mae’n straffaglu am aer wrth i ni dorri ar ei ysgyfaint, mae’n bloeddio sgrechiadau o nwyon tŷ gwydr wrth i ni losgi’i waed, mae’n edrych yn welw a sâl wrth i ni wynnu’r coralau, ac mae dagrau’n llifo i lawr bochau’i begynau ia, gan ddisgyn i bwll cynyddol ddwfn o dristwch hallt.

Gadewch i Gymru fod yn oleudy disglair yn yr adeg dywyll hon. Mae San Steffan wedi methu ag ymdrin â’r pwnc, nawr, eich tro chi yw hi, i wneud eich dyletswydd i sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gennym 11 mlynedd i droi pethau o gwmpas yn y ffordd orau erioed yn hanes pobl. Does dim llais gan fyd natur, ond mae llais gyda chi. Lleisiwch. Nawr yw’r awr. Gwnewch hyn dros Gymru.

Araith a gyflwynwyd gan Sion Sleep yn lansiad Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel