Dywed Sophie Howe Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol bod angen Incwm Sylfaenol Cyffredinol ar Gymru ar frys i helpu'r wlad i ymdopi ag effeithiau COVID-19.

 

  • Gwaith Sophie Howe yw gwneud yfory’n well lle a sicrhau nad yw’r hyn y mae gwleidyddion yn ei wneud nawr yn niweidio poblogaeth y dyfodol.
  • Mae hi’n dweud bod yn rhaid i weithredu ar yr hinsawdd ac ‘economeg llesiant’ chwarae rôl yn y gwaith o adeiladu Cymru sy’n gydnerth wrth wynebu heriau’r dyfodol – gan alw am drawsnewid i gymdeithas garbon-isel ar frys.

Gwaith Ms Howe fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol yw helpu cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n llunio polisi yng Nghymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau.

Dywed nad yw’r achos dros Incwm Sylfaenol Cyffredinol, a argymhellwyd yn ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, erioed wedi bod mor hanfodol ar gyfer cynorthwyo pob person yng Nghymru yn ystod yr argyfwng.

Mae’r Ffindir newydd ddatgan canlyniadau ei hastudiaeth dwy flynedd o Incwm Sylfaenol Cyffredinol, lle rhoddwyd i 2,000 o bobl ddiwaith rhwng 25 a 57 mlwydd oed 560 ewro y mis yn ddiamod a heb brawf modd.

Darganfu’r astudiaeth fod pobl yn hapusach, eu bod yn ymddiried mwy mewn eraill a bod ganddynt lefel uwch o hyder yn y dyfodol. Fe wnaethon nhw hefyd weithio ychydig mwy na’r rhai hynny ar fudd-daliadau diweithdra a nodi gwell gweithredu gwybyddol.

Dywedodd y pennaeth ymchwil Minna Ylikännö, y gallai Incwm Sylfaenol Cyffredinol helpu i leddfu straen ar adeg o ansicrwydd ac mae’r Alban wedi cynnal prosiect peilot ar y cynllun.

“Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol – rhywbeth a allai fod wedi ymddangos yn annhebygol ychydig fisoedd yn ôl – yn awr wedi dod yn rhywbeth sydd ei angen ar frys’, meddai Ms Howe.

“Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn ddatrysiad real iawn i helpu pobl allan o dlodi a chynorthwyo’r economi, tra’n lleihau anghydraddoldebau amlwg yn ein cymdeithas sydd wedi dyfnhau yn ystod yr argyfwng.

“Dylai pawb gael eu talu digon i ofalu amdanyn nhw eu hunain a’u teuluoedd mewn cyfnod o argyfwng-os gall yr Alban drafod hyn o ddifrif – pam na allwn ni?

“Gallai’r arian gynorthwyo llawer o weithwyr a gwirfoddolwyr hanfodol fel y gallant barhau â’u gwaith hollbwysig o gadw’r wlad i fynd – a gallai helpu i leddfu peth o’r straen ar gartrefi sy’n profi anawsterau eithafol.

“Mae hefyd yn gyfle i edrych ar becynnau ariannol yn gyffredinol a sut y gallem annog busnesau i roi rhywbeth yn ôl yn gyfnewid am gymorth.

Mae’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol pellgyrhaeddol yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i arwain buddsoddi i sicrhau bod pobl yn byw bywydau iach a boddhaol erbyn 2050.

Dyma’r darn mwyaf o waith a gyflawnwyd gan y Comisiynydd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym ac mae Ms Howe yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio i drwytho ymateb i’r argyfwng a fydd yn amddiffyn cymdeithas yn yr hirdymor.

Mewn ymgais a argymhellir tuag at ‘economeg llesiant’, mae’r adroddiad yn argymell y dylid treialu wythnos waith bedwar diwrnod fel ffordd o leihau ein hôl troed carbon a chadw pobl yn iach, a rhoi diwedd ar Gynnyrch Domestig Gros fel mesur o gryfder economi.

Ddydd Mercher, bydd ffigurau diweddaraf Cynnyrch Domestig Gros y DU yn cael eu cyhoeddi, yn cwmpasu’r cyfnod o Ionawr hyd at ddiwedd mis Mawrth – yr amcangyfrif chwarterol cyntaf i adlewyrchu effaith gychwynnol COVID-19.

Mewn arolwg YouGov, roedd yn well gan wyth allan o 10 o bobl weld y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles dros dwf economaidd yn ystod argyfwng coronafeirws.

“Os ydyn ni eisiau economi sy’n gweithio i bawb, a chymdeithas lle mae pawb yn gwybod bod ganddyn nhw gyfran, mae’n bryd i wleidyddion roi’r Cynnyrch Domestig Gros ar y neilltu a chanolbwyntio ar lesiant,” meddai Ms Howe.

“Mae COVID yn ein gwahodd i ganolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn ei werthfawrogi. Nid yw Cynnyrch Domestig Gros yn gwerthfawrogi’r gwaith hanfodol sydd wedi’i amlygu gan yr argyfwng – y gwaith di-dâl a wneir gan fenywod, y gymuned enfawr o wirfoddolwyr a’r rhai sydd ar gyflog isel.

“Dylai economi iach sicrhau dosbarthiad teg o iechyd a chyfoeth a lles, tra’n diogelu adnoddau’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a rhywogaethau eraill. Mae hynny’n fersiwn mwy realistig o’r hyn y mae ffyniant yn edrych. ”

Dywed y comisiynydd, sy’n gweithio gydag ystod o sefydliadau i nodi sut y gall adferiad ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol, bod mynd i’r afael â diffygion systemig a ddatgelwyd gan y pandemig yn hollbwysig wrth ymateb i’r argyfwng.

“Mae tlodi cyflog, gwahaniaeth hiliol, anghydbwysedd mewn perchnogaeth eiddo ac ansawdd tai, ansicrwydd swydd ynghyd ag anghydraddoldebau strwythruol dwfn yn yr economi wedi eu datgelu gan COVID-19.

“Mae cyfle i weithredu newid yn cael ei gyflwyno i ni, ond mae’n gofyn am feddwl mewn ffordd eofn, gydweithredol a chynhwysol a dewrder gwleidyddol. Mae gennym gyfle nawr i wella methiannau’r gorffennol, yn yr wythnosau, misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

“Rhaid i fuddsoddi mewn swyddi newydd, gwyrdd, aer glanach a gwell iechyd fod yn ganolog i’n hadferiad.

Byddai Gweinidogaeth o Bosibiliadau o fewn Llywodraeth Cymru, yn ôl yr adroddiad, yn defnyddio’r ‘mwyaf disglair a’r gorau’ o lywodraeth leol, y sector preifat a diwydiant i ddatblygu ymagweddau newydd a gweithio’n fanwl ar faterion hollbwysig, megis, sut rydyn ni’n sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio ar draws sectorau i ddod o hyd i ddatrysiadau newydd, gan ganiatáu i ni ailadeiladu’n well,” medd Ms Howe.

Darganfu’r adroddiad nad yw Cymru’n gweithredu’n ddigon cyflym i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac anogodd y comisiynydd wneuthurwyr polisi i sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yn dwysáu, nid yn arafu, mewn ymateb i’r argyfwng.

Dywedodd: “Rydyn ni wedi cyrraedd croesffordd. Gallwn naill ai fynd yn ôl i’n hen ddull o wneud pethau, gyda’r hen broblemau’n dal i niweidio ein cymunedau mwyaf anghenus, neu gallwn symud tuag at bethau gwell er lles pob un.”

 

Ymholiadau’r cyfryngau i Claire Rees

clairefrees@gmail.com

07815 291140