Weithiau, pan fyddwn yn siarad am dai, rydym yn ymgolli yn y dechnoleg, y rheoliadau, y cynllunio a'r manylion penodol, i'r fath cynllunio a'r manylion penodol, i'r fath raddau fel ein bod yn anghofio mai'r hyn yr ydym yn son amdano mewn gwirionedd yw cartref.

Y man hwnnw yr ydym i gyd yn edrych ymlaen at fynd yn  ôl iddo, waeth pa mor anodd y bu ein diwrnod. Y man yr ydym yn ei rannu gyda’n teuluoedd, man i chwilio ynddo am wres, noddfa, lle i ymlacio, lle gallwn fod yn ni ein hunain.

Pan fyddwn yn siarad am yr hyn sy’n bwysig ar gyfer tai’r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud pobl yn ganolbwynt ein trafodaeth ar y tai hyn. Efallai bod hyn yn egluro pam mae’r cysyniad Danaidd o Hygge mor boblogaidd ar hyn o bryd. Mae pobl yn cydnabod bod ein tai yn fannau sy’n gonglfain ein llesiant.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd yn ymgynghori ar dai carbon-isel. Er bod y ffaith eu bod yn symud i mewn i’r gofod hwn yn beth cadarnhaol, nid oes un o’u naw cylch gorchwyl yn son am gydlyniad cymunedol, ansawdd y gofod, ac yw’r cartrefi hyn yn fannau cysurus i fyw ynddynt.

Tra’i bod yn hollbwysig i ddatblygwyr wneud tai carbon-isel yn rhan annatod o’u gwaith, rhaid i ni gofio hefyd mai ystadau tai yw’r rhain nid ffermydd solar.  Pan fyddwn yn meddwl am dai’r dyfodol mae edrych ar y saith nod llesiant yn eu cyfanwydd yn anhepgor.

Meddyliwch am eich tai eich hunain.  Ym mha flwyddyn yr adeiladwyd eich tŷ? Ar gyfer pa fath o deulu y cafodd eich tŷ ei gynllunio. A yw’n addas ar gyfer eich bywyd chi a bywyd eich teulu?  Mwy na thebyg bod eich cartref wedi cael ei adeiladu ar gyfer teulu niwclear, gyda swyddi naw-tan-bump, ci, ac o leiaf un car preifat.

Prin iawn yw’r tai sydd wedi eu hadeiladu ar gyfer darparu anghenion mwy penodol megis ar gyfer ein poblogaeth sy’n heneiddio ag arnynt angen cymorth ychwanegol, neu’r nifer cynyddol o bobl sy’n byw mewn cartrefi un-person.

Prin fod teipoleg ein tai wedi newid rhyw lawer. Mewn sefyllfa lle mae’n ceir yn debygol o gael eu hawtomeiddio a thechnoleg yn edrych fel y cam mawr nesaf ymlaen yn ein bywydau, a fydd ein dulliau o deithio eto fyth yn dylanwadu ar natur ein tai ac yn eu newid?

A gyda’r rhagolygon yn awgrymu nad yw’r cartrefi-clyfar a fydd yn hwyluso’n bwydyau mor bell i ffwrdd â hynny, beth yw’r rheswm ein bod more bell ar ei hôl hi yma yng Nghymru?  Pam fod llai o dai wedi eu hadeiladu yma ers y flwyddyn 2000 a dim ond 45% o dai awdurdod lleol yn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru yn 2016?

Yma yng Nghymru, mae ein defnydd o ynni preswyl yn cyfrif am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir, a gan y rhagwelir y bydd cynnydd o 5% ym mhoblogaeth Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf, bydd y galw hwn yn cynyddu.

Bydd canran uwch o’n poblogaeth yn bobl  hŷn; ymhen 20 mlynedd bydd tua chwarter o holl bobl Cymru dros 65 mlwydd oed. Mae pobl  hŷn yn fwy agored na chenedlaethau iau i niwed oddiwrth dlodi tanwydd, amodau iechyd gwaeth a phroblemau sy’n gysylltiedig ag oerfel eithafol a lleithder ac nid yw’r stoc dai ar gyfer pobl  hŷn ar hyn o bryd yn lleddfu’r anghenion hyn.

Ymddengys ein bod yn dal ymhell ar ei hôl hi yn nhermau cynllunio tai ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, pobl a fydd yn byw yma ymhen 15, 26 neu 100 mlynedd, er gwaethaf peth gwaith da sy’n cael ei wneud o fewn y sector tai.

Wrth symud ymlaen i wireddu nodau llesiant Cymru, dyna paham yr ydym wedi enwi tai fel un o’n meysydd blaenioraethol ar gyfer gweithredu arno.  Mae’r rhai wedi eu rhannu’n ddwy ran, ac yn credu’r seilwaith cywir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn cynnwys cynhyrchu a defnyddio ynni, cynllunio trafnidiaeth, stoc dai, a sicrhau bod gan bobl gymwysterau ar gyfer y dyfodol megis sgiliau, atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod,a  dulliau amgen o wella iechyd a llesiant.

Mae’r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod gorfodaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a  defnyddio’r saith dull o weithio; ymgyfrannu, cydweithio, integreiddio, atal a chynllunio ar gyfer yr hirdymor er mwyn sicrhau’r Gymru a garem.

Drwy ddefnyddio’r pum dull o weithio, mae cyrff cyhoeddus yma yng Nghymru, drwy gydweithio gyda’r sector tai, mewn sefyllfa dda i wella’r saith nod llesiant. Mae yna angen dybryd am newid ein hymagwedd tuag at dai, fel y gallwn adeiladu ac addasu ein stoc dai i fynd i’r afael ag anghenion cyson a pharhaus; i greu mwy o gydnerthedd tra’n lleihau ein heffaith ar yr hinsawdd, dileu tlodi tanwydd a phroblemau iechyd cysylltiedig, sy’n cael eu gwneud yn waeth gan dai o ansawdd gwael, tra’n mynd i’r afael  â phrinder tai fforddiadwy.

Mae yna nifer o gyfleoedd i ni eu harchwilio; targed Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,00 0 dai fforddiadawy yn ystod bywyd y cynulliad hwn, cronfa tai arloesol o £20m, a’n fframwaith datblygu cenedlaethol.

Mae yna gyfleoedd i ddysgu gwersi o’r gorffennol ac oddi wrth ein gilydd, i weithio tuag at lunio tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol.